Skip page header and navigation

Mae ein rhaglenni Athroniaeth, Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol yn archwilio’r cysyniadau sylfaenol sy’n diffinio ac sydd wedi diffinio’r profiad dynol ym maes anthropoleg, diwinyddiaeth, athroniaeth, astudiaethau crefydd, a moeseg. Wrth ddewis astudio yn Llambed cewch archwilio hen hanesion yn y man lle dechreuodd addysg uwch yng Nghymru.

Mae Crefydd a Diwinyddiaeth wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn hanes y Brifysgol ers 1822 ac wedi’u sefydlu hefyd mewn ardal sy’n gyfoethog o ran treftadaeth grefyddol. Mae ein rhaglenni hefyd yn rhoi cipolwg ar amrywiaeth crefyddol yr 21ain ganrif, gan adlewyrchu arwyddocâd rôl crefydd mewn cymdeithas.  

Ochr yn ochr â hyn, mae ein rhaglenni Anthropoleg ac Athroniaeth yn archwilio helaethrwydd bodolaeth a meddwl dynol trwy ystod amrywiol o bynciau sy’n annog datblygu sgiliau craidd sy’n cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan gyflogwyr.  

Wrth i chi fynd i’r afael â gwahanol syniadau a chysyniadau’r rhaglenni hyn, byddwch yn meithrin ymwybyddiaeth feirniadol o gymdeithas ddynol ac yn gallu mynegi’n glir ac yn rhesymegol yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn fod dynol.   

Mae ein rhaglenni yn cynnig amrywiaeth hynod ddiddorol o fodiwlau, gydag opsiynau i astudio graddau cydanrhydedd, gan gynnig ffordd hyblyg a chyffrous i chi astudio trwy ein system addysgu trochol arloesol. Mae’n caniatáu i chi gynllunio rhaglen astudio i’ch siwtio chi fel unigolyn, gan ategu eich diddordebau, eich cryfderau academaidd, a’ch gobeithion ar gyfer y dyfodol. 

Wedi’u lleoli ar ein campws hardd yn Llambed, mae ein rhaglenni’n cynnig profiad ac amgylchedd dysgu cynhwysol gydag agwedd ymarferol ar y campws. Mae opsiynau dysgu o bell ar gael hefyd; gweler tudalennau’r rhaglen am y manylion. 

Mae ein dull addysgu trochol arloesol yn cynnwys dysgu bloc, seminarau mewn grwpiau bach a thiwtorialau un-i-un. Mae’n cynnig dealltwriaeth lawn o’r cysyniadau rydych chi’n ymwneud â nhw. 

Mae addysgu bloc, gan astudio un modiwl ar y tro, yn caniatáu i chi ymgolli’n llwyr yn y pwnc dan sylw wrth gydweithio gyda’ch cyfoedion o ddisgyblaethau eraill ar draws y dyniaethau. Mae’r dull unigryw hwn yn eich helpu i archwilio syniadau a chysyniadau o nifer o wahanol safbwyntiau.  

Mae’r addysgu ar draws ein clwstwr Athroniaeth, Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol yn cael ei arwain gan ymchwil, a diddordebau proffesiynol ac arbenigedd y darlithwyr yn sail iddo ac fel myfyriwr, byddwch yn elwa o gael staff addysgu gweithredol ym maes ymchwil a siaradwyr gwadd rheolaidd.

Pam astudio Athroniaeth, Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol yn PCYDDS?

01
Wedi'i leoli ar ein campws yn Llambed ac yn cynnig profiad dysgu unigryw, trochol, sy’n cynnig anogaeth.
02
Ceir amrywiaeth ddiddorol o fodiwlau sy'n eich galluogi i lywio'ch astudiaethau.
03
Mae opsiynau dysgu hyblyg yn cynnwys graddau sengl a graddau cydanrhydedd ar gael ar y campws a thrwy ddysgu o bell.
04
Addysgu sy’n cael ei arwain gan ymchwil, wedi'i wreiddio yn niddordebau proffesiynol ac arbenigedd y darlithwyr
05
Mae addysgu mewn grwpiau bach a thiwtorialau un-i-un yn caniatáu i fyfyrwyr elwa o'n dull ymarferol a'n haddysgu trochi arloesol.
06
Cartref i gangen Llambed o'r Sefydliad Athroniaeth Brenhinol.

Spotlights

Darlithydd yn cyflwyno o flaen sgrin

Cyfleusterau

Yn fyfyriwr gyda ni, bydd gennych fynediad i ystod eang o fannau dysgu ac addysgu yn ogystal â sawl llyfrgell, man astudio ac adnoddau cyffredinol y campws.  

Mae Llyfrgell Llambed yn rhoi mynediad i amrywiaeth o fannau dysgu hyblyg i gefnogi ein holl fyfyrwyr ac mae hefyd yn gartref i Lyfrgell ac Archifau Roderic Bowen, sy’n cynnwys Casgliadau Arbennig Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, llyfrau argraffedig, llawysgrifau ac archifau hynaf y Brifysgol, ac mae’n un o’r prif adnoddau ar gyfer ymchwil academaidd yng Nghymru a Llyfrgell y Sylfaenwyr.  

Mae Canolfan Ymchwil Profiad Crefyddol Alister Hardy hefyd wedi’i lleoli ar ein campws yn Llambed, sy’n gartref i archif gyda mwy na 6,000 o adroddiadau o brofiadau uniongyrchol pobl o bob rhan o’r byd sydd wedi cael profiad ysbrydol neu grefyddol. 

Dau fyfyriwr yn eistedd o flaen y ffynnon ar gampws Llambed

Beth sy’n gwneud PCYDDS yn unigryw?

Dechreuwch eich antur gyda gradd israddedig yn PCYDDS. Cewch eich trochi mewn pwnc sy’n eich ysbrydoli – gan archwilio gwahanol lwybrau gyrfaol ac opsiynau ar gyfer eich dyfodol ar hyd y daith. Beth bynnag fo’ch uchelgeisiau, gwnawn ni eich helpu i fwrw ati’n syth, gyda’ch goliau mewn golwg yn gadarn.

Testimonial

Roeddwn i wrth fy modd. Roedd y bobl a gwrddais â nhw yn anhygoel. Athrawon brwdfrydig ac ymroddedig, ond yn bwysicach fyth: ffrindiau rhyngwladol am oes!

Jacob, rhaglen dysgu o bell BA Athroniaeth, Crefydd a Moeseg