Skip page header and navigation

Therapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Llawn amser) (BSc Anrh)

Caerfyrddin
3 Blynedd Llawn amser
112 o Bwyntiau UCAS

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant sy’n cynnig y radd Therapi Chwaraeon achrededig gyntaf yng Nghymru. Mae’n un o 32 o raddau israddedig a achredwyd gan y Gymdeithas Therapyddion Chwaraeon, a hi yw’r unig raglen sy’n cynnig darpariaeth ddwyieithog. Mae myfyrwyr sy’n cwblhau’r radd lawn yn gymwys ar gyfer aelodaeth broffesiynol o’r gymdeithas, sy’n cynnwys indemniad meddygol, yswiriant atebolrwydd cyhoeddus a’r defnydd o’r teitl ‘Therapydd Chwaraeon Graddedig’.

Mae Therapyddion Chwaraeon Graddedig yn arbenigwyr clinigol ym maes anafiadau cyhyrysgerbydol ag arbenigedd yn yr amgylchedd chwaraeon ac ymarfer corff. Mae graddedigion yn dod o hyd i waith ym maes chwaraeon proffesiynol, rhannol broffesiynol ac amatur ac arfer clinigol preifat. Mae rhai wedi mynd ymlaen i weithio yn y GIG ac eraill yn y lluoedd arfog.

Ar ôl cwblhau’r rhaglen byddwch yn dod yn therapydd chwaraeon ac ymarfer corff cymwys sy’n gallu asesu, gwneud diagnosis, trin, adsefydlu ac atal anafiadau a salwch yn yr amgylchedd chwaraeon ac ymarfer corff. Ein nod yw datblygu ymarferwyr sy’n ymreolaethol yn glinigol ac yn gweithio o fewn eu cwmpas o ran arfer a gofynion meddygol-gyfreithiol y proffesiwn.

Mae’r modylau a’r asesiadau wedi’u llunio i sicrhau y byddwch yn gallu dangos y wybodaeth, dealltwriaeth, cymhwysiad a chymhwysedd sydd eu hangen i fodloni safon y corff proffesiynol.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
SET1
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
112 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Gradd Therapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff hynaf Cymru a achredir gan y Gymdeithas Therapyddion Chwaraeon.
02
Ar ôl graddio, bydd gan fyfyrwyr yr wybodaeth, sgiliau a hyder i weithio fel rhan o dîm neu’n annibynnol fel Therapydd Chwaraeon graddedig.
03
Yn ogystal â’r prif sgiliau sydd eu hangen ar therapydd chwaraeon bydd myfyrwyr hefyd yn cael y sgiliau sydd eu hangen i gynnal asesiadau ffitrwydd ac iechyd ac yn cael y cyfle i ymgymhwyso fel hyfforddwyr campfa a hyfforddwyr personol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Therapydd Chwaraeon Graddedig yw un sy’n gymwys ac yn gallu ymdrin ag anafiadau llym ‘ar ochr y cae’, perfformio asesiad clinigol i ddatblygu diagnosis, a defnyddio amrywiaeth o ddulliau triniaeth ochr yn ochr â thechnegau adsefydlu penodol chwaraeon i helpu’r athletwr yn ôl i gymryd rhan yn llawn mewn chwaraeon.

Bydd myfyrwyr yn dysgu mewn ystafelloedd therapi chwaraeon pwrpasol. 

Yn y flwyddyn gyntaf, bydd myfyrwyr yn dysgu’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen wrth asesu anafiadau chwaraeon, ynghyd â thechnegau meinwe meddal gan gynnwys tylino ar gyfer chwaraeon a chymorth cyntaf ar ochr y cae. Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i weithio fel ymarferwyr cymorth cyntaf ar ochr y cae a chael profiad clinigol yn ein clinig tylino ar gyfer chwaraeon. Ochr yn ochr â’r modylau penodol therapi chwaraeon hyn, bydd myfyrwyr hefyd yn astudio ffisioleg dynol cymhwysol a modylau hyfforddiant personol.

Yn yr ail flwyddyn, addysgir myfyrwyr i gwblhau archwiliad ac asesiad llawn o anaf chwaraewr a gwneud diagnosis, trin yr anaf gyda thechnegau therapi â llaw ac adsefydlu’r athletwr i allu cymryd rhan lawn mewn chwaraeon.

Ym mlwyddyn olaf y rhaglen, bydd myfyrwyr yn astudio rheolaeth trawma chwaraeon, electrotherapi ac yn ymgymryd â 200 awr o arfer clinigol. Caiff yr oriau clinigol hyn eu cefnogi gan ein Clinig Anafiadau Chwaraeon sy’n cynnig apwyntiadau Therapi Chwaraeon i staff, myfyrwyr a’r cyhoedd, dan oruchwyliaeth y tîm therapi chwaraeon. Hefyd, anogir myfyrwyr i ymgysylltu â darparwyr lleoliad gwaith lleol a chenedlaethol i adeiladu portffolio helaeth o Brofiad Therapi Chwaraeon.  

Yn ogystal, caiff prosiect ymchwil tebyg i draethawd hir mewn maes o ddiddordeb i’r unigolyn ei gwblhau yn y flwyddyn olaf hon. 

Gorfodol 

Hyfforddiant Personol

(20 credydau)

Ffisioleg Ddynol a Ffitrwydd

(20 credydau)

Cyflwyniad i Asesiad Clinigol

(20 credydau)

Cyflwyniad i Sgiliau Meinwe Meddal

(20 credydau)

Sgiliau Proffesiynol ar gyfer Therapyddion Chwaraeon

(20 credydau)

Anafiadau Chwaraeon ac Ymarfer Corff

(20 credydau)

Gorfodol 

Ffisioleg Ymarfer Corff

(20 credydau)

Asesiad Biomecanyddol o Berfformiad ac Anafiadau

(20 credydau)

Asesiad Clinigol

(20 credydau)

Adsefydlu Cynnar i Ganolradd

(20 credydau)

Therapi â Llaw

(20 credydau)

Ymchwil mewn Iechyd, Ymarfer Corff ac Addysg Gorfforol

(20 credydau)

Gorfodol 

Ymarfer Corff a Phoblogaethau Penodol

(20 credydau)

Adsefydlu Uwch ac Atal Anafiadau

(20 credydau)

Prosiect Ymchwil ar gyfer Therapyddion Chwaraeon ac Ymarfer Corff

(40 credydau)

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

Carmarthen Accommodation

Llety Caerfyrddin

Mae amrywiaeth o lety yng Nghaerfyrddin ac rydym yn gwarantu llety ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn 1af, gyda llety ar gael i fyfyrwyr yr 2il a’r 3edd flwyddyn hefyd.  Wedi’ch lleoli ar gampws Caerfyrddin byddwch chi reit ynghanol popeth, gydag opsiynau sy’n addas i bob cyllideb.  

Gwybodaeth allweddol

  • Disgwylir i fyfyrwyr gyflawni 120 o bwyntiau UCAS gyda ffocws ar bynciau seiliedig ar y gwyddorau ac addysg gorfforol. Rhaid i fyfyrwyr hefyd gael o leiaf Gradd C mewn TGAU Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth.

    Rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol gyflawni IELTS lefel 7 heb yr un elfen o dan 6.51. Bydd myfyrwyr aeddfed nad oes ganddynt bwyntiau UCAS digonol yn cael eu hystyried yn ôl eu haeddiant drwy broses gyfweld.  

    Mae unrhyw le a gynigir ar y rhaglen BSc (Anrh) Therapi Chwaraeon yn amodol ar ddatgeliad DBS. 

    Mae graddau’n bwysig; ond, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â chymwysterau.

    Os ydych yn ystyried gwneud cais i’r cwrs BSc (Anrh) Therapi Chwaraeon yn Y Drindod Dewi Sant, ond mae gennych anabledd ac rydych yn poeni am sut y gallai hyn effeithio ar eich gallu i gymryd rhan mewn dosbarthiadau ymarferol a chwblhau asesiadau’n llwyddiannus, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen.

  • Mae’r radd yn alwedigaethol ac felly caiff modylau eu hasesu drwy asesiadau ysgrifenedig ac ymarferol. Gall y rhain fod ar ffurf traethodau, adroddiadau, adolygiadau llenyddiaeth, archwiliadau clinigol eu natur a chyflwyniadau.

  • Bydd rhaid i fyfyrwyr brynu tracwisg a thopiau hyfforddi’r brifysgol y bydd eu hagen mewn sesiynau ymarferol ac wrth weithio gyda grwpiau allanol.

    Dillad chwaraeon (£80-£120) yn amodol ar y cwrs

    Efallai y bydd tâl cofrestru’n cael ei godi ar fyfyrwyr sy’n dymuno cyflawni cymwysterau galwedigaethol ychwanegol gan y corff dyfarnu.

    £30 ar gyfer gweithgaredd ymsefydlu dros nos i holl fyfyrwyr blwyddyn 1 

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.

  • Bydd myfyrwyr sy’n graddio o’r radd yn cael teitl Therapydd Chwaraeon Graddedig a byddant yn gymwys i gael aelodaeth lawn o’r Gymdeithas Therapyddion Chwaraeon. Yn ogystal, byddant yn gallu gwneud cais am aelodaeth o’r Gofrestr gweithwyr proffesiynol Ymarfer Corff. Fel y cyfryw mae myfyrwyr yn orau gweddu mynd yn Therapyddion Chwaraeon neu’n ymgynghorwyr iechyd a ffitrwydd. Gallent hefyd fynd ymlaen i’r rhaglenni Meistr ôl-raddedig.