Skip page header and navigation

Bwrsariaethau i Israddedigion

  • Bwrsariaeth sydd ar gael i fyfyrwyr o dan 25 oed sy’n dod i’r brifysgol o gefndir gofal (i helpu gyda chostau cychwynnol o ran adnoddau ac offer)


    Profiad o ofal (3 mis neu ragor yn byw o dan Ofal Awdurdod Lleol dros eu tair oed). Ar gael i rai o dan 25 yn unig.

    Bydd disgwyl i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth i gefnogi eu cais e.e. Cadarnhad o’ch amgylchiadau trwy lythyr gan eich Awdurdod Lleol (ALl) neu Awdurdod Gofal, yn cadarnhau eich bod o dan ofal eich ALl am gyfnod o 3 mis neu fwy dros eich tair oed.

    Swm y Dyfarniad: Hyd at £1,000

    Gwybodaeth Ychwanegol: Ffurflen gais i gynnwys tystiolaeth ategol

    Mae’r fwrsariaeth yn cael ei thalu mewn 3 thaliad (un bob tymor) – 25%, 25% a 50%

    Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen gais Bwrsariaeth Myfyrwyr  o gefndir gofal

  • Bwrsariaeth dilyniant penodol ar gyfer myfyrwyr sy’n cofrestru ar gwrs israddedig, amser llawn yn PCYDDS yn syth wedi cwblhau cwrs lefel 3 (neu gyfatebol) yng Ngholeg Sir Gâr neu Goleg Ceredigion.

    Swm y dyfarniad: Hyd at £500

    Gwybodaeth Ychwanegol: Bydd disgwyl i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth i gefnogi eu cais e.e. copi o’r dystysgrif neu drawsgrifiad yn cadarnhau eich bod wedi cwblhau’r cwrs coleg yn ystod y flwyddyn academaidd 2022–23.

    Gwnewch gais Nawr: Ffurflen Gais Bwrsariaeth Coleg Cyfansoddol

  • Bwrsariaeth ar gyfer unrhyw fyfyriwr sydd ag anabledd, neu’n cael asesiad o anabledd, i helpu gydag unrhyw gostau yn ymwneud a’r anabledd hwnnw i hyrwyddo’i astudiaethau.

    Meini Prawf Cymhwystra:

    Mae Gwasanaethau Myfyrwyr wedi nodi bod angen asesiad diagnostig ar y myfyriwr,

    a/neu 

    Mae angen offer arbenigol ar y myfyriwr ond nid yw’n gymwys i gael cymorth y Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA).

    Offer arbenigol (pan nad yw myfyrwyr yn gymwys i gael y Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) 

    Swm y Dyfarniad: Hyd at £700

    Dyddiad olaf i wneud cais: Gall myfyrwyr wneud cais unrhyw bryd

    Gwybodaeth Ychwanegol: Ni ellir dyfarnu’r arian hwn i fyfyrwyr sydd eisoes yn derbyn cymorth y DSA.

    Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen gais Bwrsariaeth Anabledd

  • ar gyfer myfyrwyr  dan 25 oed sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu rhieni


    Hyd at £1000 i gynorthwyo myfyrwyr (18–25 oed) sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu rhieni ac nad ydynt yn cael unrhyw gyswllt â nhw, neu nad ydynt mwyach yn cael eu cefnogi gan eu teulu oherwydd bod y berthynas wedi chwalu gan arwain at roi’r gorau i gysylltu ers 12 mis neu fwy. 

    Rhaid i fyfyrwyr fod o dan 25 oed a bydd yn ofynnol iddynt ddarparu tystiolaeth i gefnogi eu cais e.e. cadarnhad gan Gyllid Myfyrwyr eu bod yn cael eu hasesu am gyllid fel myfyriwr sydd wedi ymddieithrio, neu gopi o’r dystiolaeth a roddwyd i Gyllid Myfyrwyr yn rhan o’r cais ymddieithrio.  

    Swm y Dyfarniad: Hyd at £1,000

    Gwybodaeth Ychwanegol: Ffurflen gais i gynnwys tystiolaeth ategol.
    Mae’r fwrsariaeth yn cael ei thalu mewn tair rhan – 25% yn nhymor 1, 25% yn nhymor 2 a 50% yn nhymor 3.

    Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen gais Bwrsariaeth Myfyrwyr sydd wedi Ymddieithrio

  • Ar gyfer myfyrwyr Lefel 4, 5 a 6 o gefndir BAME / Teithwyr sy’n dymuno gwneud gweithgaredd ymchwil neu berfformiad.


    Meini Prawf Cymhwystra:

    Bydd myfyrwyr cymwys yn nodi eu bod yn perthyn i un o’r grwpiau ethnig o dan y penawdau canlynol ar restr gyhoeddedig Llywodraeth y DU:

    • Grwpiau Cymysg neu Amlethnig
    • Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig
    • Du, Affricanaidd, Caribïaidd neu Ddu Prydeinig
    • Grŵp Ethnig Arall

    Mae myfyrwyr o ethnigrwydd Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig hefyd yn gymwys am y fwrsariaeth hon.

    Rhaid i ymgeiswyr fod wedi cofrestru eu hethnigrwydd gyda’r Brifysgol fel rhan o’u proses gofrestru.

    Swm y Dyfarniad: Hyd at £500 ar gyfer costau cynhadledd neu ymchwil (neu hyd at £250 tuag at gostau academaidd a theithio)

    Gwybodaeth Ychwanegol: Gall y gweithgareddau gynnwys:  Mynychu neu gyflwyno mewn cynhadledd; Costau’n gysylltiedig â phrosiect ymchwil neu sioe; Costau teithio a chostau academaidd.


    Tystiolaeth: Bydd angen i chi gyflwyno prawf o’r costau e.e Talebau ar gyfer offer academaidd, tocynnau teithio ayyb

    Gwnewch Gais Nawr:  Ffurflen gais Bwrsariaeth Cydraddoldeb Ethnig

  • Mae’n bosibl y gellid hepgor ffioedd myfyrwyr sy’n byw yng Nghymru ac sy’n astudio cwrs addysg uwch yn rhan-amser os ydyn nhw’n bodloni amodau penodol, gan ddibynnu ar bryd y dechreuwyd y cwrs.

    Gallai ffioedd myfyrwyr sy’n astudio llai na 30 credyd yn ystod y flwyddyn academaidd hon gael eu hepgor os ydyn nhw’n astudio gradd gyntaf, Gradd Sylfaen, HNC neu HND, neu gwrs addysgu uwch arall â chredydau ac a ariennir gan CCAUC (Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru). 

    Meini prawf cymhwysedd myfyrwyr

    Mae’n rhaid i fyfyriwr fod wedi’i gofrestru ar gwrs cymwys yn ogystal â:

    (i) chael ei ystyried yn gymwys i gael cyllid yn unol â’r diffiniad sydd yn arolwg Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch CCAUC (HESES)

    (ii) byw yng Nghymru (byddai cyfeiriad yng Nghymru yn cael ei ystyried yn dystiolaeth ddigonol mai Cymru yw eu cartref fel arfer).

    yn ogystal â bodloni un neu fwy o’r amodau canlynol:

    (a) bod y myfyriwr neu deulu’r myfyriwr yn derbyn:

    • Credyd Cynhwysol neu un o’r cynlluniau blaenorol
    • Lwfans Ceisio Gwaith
    • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

    (b) bod y myfyriwr yn derbyn:

    • Lwfans gofalwyr neu gredyd gofalwr
    • Premiwm anabledd neu gymorth ariannol arall sy’n gysylltiedig ag anabledd 
    • Budd-dal profedigaeth

    c) yn dod o grŵp sydd wedi’u tangynrychioli mewn addysg uwch, megis:

    • myfyrwyr o unrhyw oed ac ardal sydd yn nau gwintel isaf Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019
    • myfyrwyr o unrhyw oed sy’n dod o ardaloedd yn y DU lle nad oes llawer yn parhau at Addysg Uwch, a fesurir yn ôl y gyfran o oedolion oed gwaith oedd â chymwysterau AU yng nghyfrifiad 2011 (y ddau gwintel isaf)
    • myfyrwyr o gefndir gofal neu fyfyrwyr sydd â phrofiad gofal • myfyrwyr ag anableddau • myfyrwyr o gefndiroedd ethnig lleiafrifol
    • Myfyrwyr LGBTQ+
    • ffoaduriaid a cheiswyr lloches
    • myfyrwyr â chyfrifoldebau gofalu
    • y rhai sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.

    At ddibenion y maen prawf (a), mae’r diffiniad o “deulu” fel a ganlyn: cwpl sy’n briod, mewn partneriaeth sifil neu’n ddibriod ac sydd â phlant dibynnol, neu unig riant â phlant dibynnol.

    Rhaid i fyfyrwyr cymwys fyw yng Nghymru.  

    Er mwyn gweld y manylion cymhwyso yn llawn, darllenwch y ddogfen hon:

    Rheoliadau CCAUC

    Ni fydd myfyrwyr sydd eisoes â gradd, Gradd Sylfaen, HNC neu HND, neu sydd wedi cwblhau cwrs addysg uwch israddedig arall sydd â chredyd ac a ariennir gan CCAUC (Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru) ac sy’n astudio ar gyfer cymhwyster o’r un lefel neu lefel is yn gymwys i gael hepgoriad ffi. Nid yw cyrsiau heb gredydau a chyrsiau ôl-raddedig yn gymwys ar gyfer y cynllun.

    Nid ellir cael cyllid i ail-wneud cwrs neu unrhyw fodiwlau neu unedau o fewn cwrs o dan unrhyw amgylchiadau.

    Dylech hefyd nodi bod y cynllun hwn yn cael ei adolygu’n flynyddol gan CCAUC; gallai gael ei ddiddymu cyn y byddwch yn ennill eich cymhwyster yn llwyr.

    Os hoffech wneud cais, dilynwch y ddolen hon i gael y ffurflen gais: Ffurflen Hepgor Ffi

  • ar gyfer myfyrwyr sy’n ofalwyr a/neu rieni â chostau gofal plant


    Myfyrwyr dan 25 oed sy’n Oedolion Ifanc sy’n Ofalwyr 

    Myfyrwyr dros 25 oed sy’n Ofalwyr 

    Myfyrwyr sydd â phlant ac sydd angen help gyda chostau gofal plant

    Lefelau bwrsariaethau:

    Hyd at £500 i gefnogi costau gofal plant (mewn meithrinfa, crèche neu ofalwr plant cofrestredig yn y DU), pan na fydd cyllid gofal plant ar gael drwy’r llywodraeth neu Gyllid Myfyrwyr. Telir y fwrsariaeth hon mewn dau randaliad – 50% y semester.

    neu 

    Hyd at £500 i gefnogi oedolion dibynnol, pan nad yw myfyriwr yn gymwys am y Grant Oedolion Dibynnol a’r Grant Cymorth Arbennig drwy Gyllid Myfyrwyr (byddai’r dystiolaeth sy’n ofynnol yn cynnwys y Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) neu’r Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) perthnasol). Telir y fwrsariaeth hon mewn dau randaliad – 50% y semester.

    neu

    Hyd at £1000 i fyfyrwyr dan 25 oed sy’n Oedolion Ifanc sy’n Ofalwyr (y dystiolaeth angenrheidiol fydd llythyr gan eich Awdurdod Lleol/Gwasanaethau Cymdeithasol neu Grŵp Cymorth Gofalwyr). Telir y fwrsariaeth hon mewn tri rhandaliad – 25% yn nhymor 1, 25% yn nhymor 2 a 50% yn nhymor 3. 

    Swm y Dyfarniad: Hyd at £1,000

    Gwybodaeth Ychwanegol: Dylai’r cais gynnwys tystiolaeth ategol.

    Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen gais Bwrsariaeth Rhieni a Gofalwyr

  • ar gyfer myfyrwyr sy’n dod o ardaloedd Ehangu Cyfranogiad MALIC 40 


    Hyd at £100 i gefnogi myfyrwyr sy’n dod o ardaloedd Ehangu Cyfranogiad fel y’u dynodwyd gan Lywodraeth Cymru.

    Meini Prawf Cymhwystra: Mae cod post cartref y myfyrwyr (nid eu cyfeiriad adeg tymor) yn perthyn i ddau gwintel isaf MALlC 40 fel y’u darperir gan Lywodraeth Cymru.

    Gwybodaeth Ychwanegol: Gall myfyrwyr dderbyn y fwrsariaeth unwaith yn y flwyddyn academaidd a phrosesir y fwrsariaeth ym mis Mai.

    Dyddiad olaf i wneud cais: Nid oes angen gwneud cais cychwynnol; bydd y Brifysgol yn cysylltu â myfyrwyr sy’n gymwys am y fwrsariaeth hon.

  • cymorth â chostau cefnogaeth llesiant


    Myfyrwyr Trawsryweddol ac Anneuaidd

    Hyd at uchafswm o £250 i bob myfyriwr cymwys, a ddarperir fel arfer yn ôl-weithredol ar ôl cyflwyno derbynebau prynu.

    Rhagwelir y bydd y fwrsariaeth hon yn cynorthwyo myfyrwyr Trawsryweddol ac Anneuaidd i gael cymorth llesiant priodol – er enghraifft, teithio i apwyntiadau, presgripsiynau, gwasanaethau cymorth a lloches.  

    Bydd myfyrwyr yn nodi eu bod yn Drawsryweddol neu’n Anneuaidd a byddant wedi ysgwyddo costau llesiant perthnasol.

    Swm y Dyfarniad: Hyd at £250

    Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen Bwrsariaeth Llesiant Myfyrwyr Trawsryweddol ac Anneuaidd 

  • Bydd yr ysgoloriaeth hon ar gael i gefnogi pedwar myfyriwr sydd â statws ffoadur neu sy’n ceisio lloches yn y DU.

    Mynediad i’r Brifysgol a chefnogaeth i fyfyrwyr â statws ceisiwr lloches y DU neu statws ffoadur.

    Bydd y fwrsariaeth hon yn hepgor ffioedd ac yn cynnwys cefnogaeth atodol ar gyfer astudio gan gychwyn ym mlwyddyn academaidd 2024/25.

    Er mwyn gwneud cais am y fwrsariaeth hon bydd angen bod ymgeiswyr yn cwrdd â’r meini prawf a nodwyd yn y telerau ac amodau.

    Mae’r meini prawf yn cynnwys:

    • Dal statws o’r rhestr a nodwyd uchod a
    • Derbyn cais di-amod neu amodol ar gyfer astudio ar gwrs amser llawn yn PCYDDS.

    University of Sanctuary Bursary Terms and Conditions

    Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 30ain Mai 2024

    Ffurflen gais: Ffurflen gais Bwrsariaeth Noddfa PCYDDS

  • Cymorth â chostau datblygu gyrfa neu brofiad gwaith


    Telir costau o hyd at £200 ar gyfer cyrsiau datblygu byr neu Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (yn ychwanegol at y cwrs) neu hyd at £1000 ar gyfer interniaethau a drefnwyd gan y myfyriwr (yn dibynnu ar y profiad). Rhaid i gyrsiau neu interniaethau fod yn berthnasol i’r rhaglen academaidd.

    Er y gall myfyrwyr wneud mwy nag un cais, yr uchafswm y gellir ei ddyfarnu at ei gilydd i unrhyw fyfyriwr mewn blwyddyn academaidd yw £1000.

    Award Amount: Up to £200 for CPD or up to £1,000 for internships

    Ni chaiff myfyrwyr sydd wedi’u penodi’n interniaid INSPIRE neu sy’n elwa o interniaethau STEM y Brifysgol wneud cais yn ychwanegol trwy’r gronfa hon oherwydd ariennir y rolau hynny drwy’r gronfa hon eisoes. Mae myfyrwyr sy’n cynrychioli’r Brifysgol yn yr Eisteddfod hefyd yn cael eu cefnogi drwy’r gronfa hon, felly mae unrhyw daliadau’n cyfrannu at yr uchafswm dyfarniad o £1000.

    Bwriedir i’r Fwrsariaeth Datblygu Gyrfa gynorthwyo â phrofiad gwaith o ran costau teithio / llety. Ni ddylai’r profiad gwaith fod yn elfen orfodol o leoliad gwaith o fewn y cwrs.

    Ymgeisiwch nawr: Ffurflen gais Bwrsariaeth Datblygu Gyrfa

  • cymorth â chosatu cwrs


    Myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig

    Hyd at £250 i gynorthwyo myfyrwyr amser llawn i wneud cais am gostau yn gysylltiedig â’u cwrs

    Dyfernir y fwrsariaeth hon fel arfer fel ad-daliad ar ôl cyflwyno derbynebau prynu. Os na all myfyrwyr dalu costau ymlaen llaw yna anogir ceisiadau i’r Gronfa Cymorth Ariannol i Fyfyrwyr.

    Gall costau yn gysylltiedig â’r cwrs gynnwys: llyfrau arbenigol, offer arbenigol ac ati.

    Er y gall myfyrwyr wneud mwy nag un cais lle mae’r cymorth y gofynnir amdano yn llai na £250, yr uchafswm y gellir ei ddyfarnu at ei gilydd i unrhyw fyfyriwr mewn blwyddyn academaidd yw £250

    Swm y Dyfarniad: Hyd at £250

    Gwybodaeth Ychwanegol: Bydd angen i fyfyrwyr gyflwyno copïau o dderbynebau fel prawf o’r costau

    Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen gais Bwrsariaeth Costau Cwrs

  • am gymorth â dyfais neu gostau rhyngrwyd


    O Chwefror 5ed ymlaen:

    Oherwydd galw digynsail yn y flwyddyn academaidd hon, mae ceisiadau i’r Fwrsariaeth Cysylltedd Digidol bellach yn cael eu cyfyngu i fyfyrwyr a ddechreuodd eu rhaglen astudio ym mis Ionawr 2024 (neu’n hwyrach).

    Mae’r penderfyniad hwn wedi’i wneud i alluogi myfyrwyr sy’n cofrestru ym mhob tymor academaidd i gael mynediad at y fwrsariaeth ar ddechrau eu hastudiaethau.

    Gall myfyrwyr cymwys sydd angen cymorth ariannol a gofrestrodd yn gynharach nag Ionawr 2024 wneud cais am gymorth drwy’r Gronfa Cymorth Ariannol i Fyfyrwyr neu’r Fwrsariaeth Costau Cyrsiau.

    Sylwch nad yw unrhyw un o’n bwrsariaethau’n cael eu dyfarnu’n awtomatig ac mae’n rhaid i chi ddangos cymhwysedd ar gyfer pob bwrsariaeth y gwnewch gais amdano.

    Myfyrwyr amser llawn a rhan amser sydd wedi cofrestru ar gwrs yn PCYDDS

    Bwriad y fwrsariaeth Cysylltedd Digidol hon yw rhoi cymorth i fyfyrwyr nad oes ganddynt fynediad at ddyfais a/neu ddarpariaeth rhyngrwyd ar gyfer eu hastudiaethau ac y mae cyllid yn rhwystr iddynt brynu eu dyfais eu hunain. Dyfernir y fwrsariaeth i fyfyrwyr cymwys sy’n ceisio cyfraniad ariannol tuag at gysylltedd digidol (hyd at £100) neu gostau dyfais (hyd at £500).

    Er mwyn bod yn gymwys, rhaid bod myfyrwyr wedi cael eu cofrestru ar isafswm o 40 credyd ar gwrs PCYDDS a byddant yn derbyn y lefel uchaf o gymorth Cyllid Myfyrwyr.

    Bydd angen i fyfyrwyr sy’n derbyn yr uchafswm Cyllid Myfyrwyr ac sy’n dymuno derbyn cymorth drwy’r llwybr ymgeisio hwn:

    • Gwblhau’r ffurflen gais ar-lein;
    • Darparu copi o’u llythyr Cyllid Myfyrwyr yn dangos eu bod yn derbyn y lefel uchaf o gymorth ariannol.

    Os ydych eisoes wedi prynu dyfais a/neu fand eang i gefnogi eich astudiaethau, a fyddech cystal â chynnwys prawf prynu hefyd.

    Uchafswm y dyfarniad drwy’r fwrsariaeth hon yw £500.

    NODER:

    Os nad ydych yn cael y cymorth ariannol mwyaf gan Gyllid Myfyrwyr mae gennych ddau lwybr amgen ar gyfer cymorth.

    • Os ydych wedi prynu’ch dyfais eich hun gallwch wneud cais am hyd at £250 tuag at y gost trwy’r fwrsariaeth Costau Cwrs. Bydd angen i chi ddarparu copi o’r dderbynneb ar gyfer eich pryniant. Ffurflen gais Bwrsariaeth Costau Cwrs
    • Os na allwch fforddio prynu’ch dyfais eich hun gallwch wneud cais am gymorth drwy’r fwrsariaeth hon ond gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth a thystiolaeth ychwanegol i gefnogi’ch cais. Bydd angen i chi:
      • Gwblhau’r ffurflen gais ar-lein
      • Darparu copi o’ch llythyr Cyllid Myfyrwyr yn dangos lefel y cymorth ariannol yr ydych yn ei dderbyn (dadansoddiad llawn gan gynnwys unrhyw hawl i grant gofal plant)
      • Cwblhau ffurflen incwm a gwariant y byddwn yn ei hanfon atoch ar ôl derbyn y cais ar-lein
      • Darparu mis o gyfriflenni banc cyfredol ar gyfer pob cyfrif sydd gennych gan gynnwys balans cyfredol, gyda nodiadau i gadarnhau eich costau craidd.

     Dyddiad olaf i wneud cais: Ceisiadau ar agor drwy gydol y flwyddyn academaidd.

    Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen gais Bwrsariaeth Cysylltedd Digidol

  • cymorth â chostau graddio


    Hyd at £100 i gynorthwyo graddedigion sydd mewn trafferthion ariannol gyda chostau sy’n gysylltiedig â mynychu seremoni raddio.

    Er mwyn gwneud cais am y fwrsariaeth hon bydd angen i chi: 

    • fod ar fin graddio o gwrs PCYDDS ac yn gymwys i fynychu’r seremoni raddio
    • bod wedi cadarnhau eich bod yn bwriadu mynychu seremoni raddio PCYDDS
    • dangos bod angen cymorth ariannol gyda chostau rhesymol yn ymwneud â graddio

    Swm y Dyfarniad: Hyd at £100

    Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen gais Bwrsariaeth Costau Graddio

  • cymorth â chostau cyfnod lleoliad gorfodol


    Hyd at £250 i gynorthwyo myfyrwyr sy’n ymgymryd â lleoliad gorfodol fel rhan o’u cwrs.

    Dyfernir y fwrsariaeth hon fel arfer fel ad-daliad ar ôl cyflwyno derbynebau prynu. Os na all myfyrwyr dalu costau ymlaen llaw yna anogir ceisiadau i’r Gronfa Cymorth Ariannol i Fyfyrwyr.

    Er y gall myfyrwyr wneud mwy nag un cais lle mae’r cymorth y gofynnir amdano yn llai na £250, yr uchafswm y gellir ei ddyfarnu at ei gilydd i unrhyw fyfyriwr mewn blwyddyn academaidd yw £250

    Swm y Dyfarniad: Hyd at £250

    Gwybodaeth Ychwanegol: Bydd angen i fyfyrwyr gyflwyno derbynebau fel prawf o’r costau a nodi cyfeiriad y lleoliad a phellter y siwrnai.

    Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen gais Bwrsariaeth Cyfnod Lleoliad

  • cymorth â chostau semester o Astudio Dramor


    Myfyrwyr israddedig amser llawn y DU/yr Undeb Ewropeaidd. 

    Swm y Dyfarniad: Hyd at £250

    Dyddiad olaf i wneud cais: 30ain Hydref 2023 a 6ed Mawrth 2024

    Gwybodaeth Ychwanegol: Ffurflen gais i gynnwys copi o’r llythyr cynnig oddi wrth y Swyddfa Ryngwladol
    Noder bod y fwrsariaeth hon yn cael ei thalu wedi i’r Swyddfa Ryngwladol gadarnhau bod y myfyriwr wedi cyrraedd y sefydliad partner

    Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen gais Bwrsariaeth Astudio Dramor

  • Athrofa Rheolaeth ac Iechyd: Bwrsariaeth Rhagoriaeth Academaidd (mynediad)

    Bydd myfyrwyr sy’n gymwys i wneud cais am y gwobrau hyn yn fyfyrwyr sy’n dychwelyd i Addysg Uwch o ganlyniad i effaith pandemig COVID 19. Bydd y fwrsariaeth yn cael ei dyfarnu i ymgeiswyr sydd wedi dangos rhagoriaeth academaidd yn ystod y broses ymgeisio ac sy’n dychwelyd i addysg uwch o ganlyniad i effaith COVID ar eu gyrfaoedd blaenorol. 

    Mae croeso i fyfyrwyr a gychwynnodd eu cwrs ym mis Medi, Ionawr neu Ebrill wneud cais am y fwrsariaeth hon.

    Bydd y wobr fel arfer yn cael ei thalu mewn dwy ran: 50% adeg dyfarnu’r fwrsariaeth a 50% ar ddiwedd y semester cyntaf o’ch astudiaethau (ar sail presenoldeb a chyrhaeddiad).

    Rhaid i ymgeiswyr fod wedi cofrestru ar raglen academaidd yr Athrofa Rheolaeth ac Iechyd, gan astudio o leiaf 40 credyd. Bydd pum gwobr o £1000 yr un ar gael ar gyfer y disgyblaethau canlynol:

    • Busnes
    • Academi Golau Glas
    • Chwaraeon a Byw’n Iach
    • Lletygarwch a Thwristiaeth
    • Iechyd a Gofal Digidol

    Mae’r wobr yn un gystadleuol. Bydd angen i ymgeiswyr gyflwyno datganiad ysgrifenedig byr (dim mwy na 350 o eiriau) yn esbonio rhai o’r rhwystrau maent wedi eu hwynebu o ganlyniad i bandemig COVID 19 a sut y bydd eu hastudiaethau yn eu cefnogi wrth ddilyn eu llwybr gyrfaol.

    Ffurflen gais: Athrofa Rheolaeth ac Iechyd – Bwrsariaeth Rhagoriaeth Academaidd

    Dyddiad cau: 1af Tachwedd 2023 - n.b Mae ceisiadau ar gyfer 23-24 bellach wedi cau.

  • Mae’r Athrofa Dysgu Canol Dinas yn falch o gynnig nifer o fwrsariaethau cyflawniad sydd werth hyd at £750 er mwyn cefnogi cyrhaeddiad ar lefel 4 a dilyniant i Lefel 5 ar y cwrs BA Arweinyddiaeth a Rheolaeth neu BSc Iechyd a Gofal Cymdeithasol. 

    Bydd ymgeiswyr cymwys:

    • Wedi cwblhau Lefel 4 y Dystysgrif Addysg Uwch Sgiliau ar gyfer y Gweithle neu’r Dystysgrif Addysg Uwch Sgiliau ar gyfer y Gweithle Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
    • Wedi ennill gradd Rhagoriaeth ar eu rhaglen Tystysgrif Addysg Uwch.
    • Wedi cyflwyno uwchraddiad Cydnabyddiaeth o Ddysgu Ardystiedig Blaenorol (PL3c) ar-lein o leiaf 4 wythnos cyn dechrau’r tymor.
    • Heb wynebu unrhyw weithdrefnau arfer annheg, llên-ladrad, na chamymddwyn academaidd yn ystod eu hastudiaethau.
    • Â chyfradd presenoldeb o 70%+.
    • Wedi pasio pob Modiwl Lefel 4 gan Fwrdd Arholi Birmingham / Llundain heb orfod ailsefyll/ailgyflwyno.
    • Wedi cofrestru ar eu rhaglen newydd 1 wythnos cyn dechrau’r tymor.
    • Rhaid i randaliad cyntaf y benthyciad ffioedd dysgu ar gyfer y rhaglen newydd fod wedi’i thalu i’r Brifysgol gan Student Finance England (SFE).

    Ffurflen gais: Ffurflen gais Bwrsariaeth Rhagoriaeth Academaidd yr Athrofa Dysgu Canol Dinas

    Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 31 Mai 2024

  • ar gyfer myfyrwyr sy’n cofrestru ar gwrs israddedig amser llawn mewn pwnc Gwyddoniaeth neu’r Celfyddydau

    Dyfernir y fwrsariaeth i ymgeiswyr sydd wedi dangos rhagoriaeth academaidd yn ystod y broses ymgeisio.

    Bydd ymgeiswyr sydd wedi derbyn eu cynnig gan y Drindod Dewi Sant (fel cynnig CADARN) i astudio rhaglen israddedig amser llawn ym mhortffolio WISA yn gymwys i gael eu hystyried.

    Swm y Dyfarniad: Hyd at £2,500

    Dyddiad cau: 1af Tachwedd 2023 - n.b Mae ceisiadau ar gyfer 23-24 bellach wedi cau.

    Gwybodaeth Ychwanegol: Bydd y fwrsariaeth yn cael ei thalu mewn rhandaliadau.

    Ymgeisiwch nawr: Ffurflen gais Rhagoriaeth Academaidd Ethnig o fewn WISA


    Rhagoriaeth Academaidd BAME o fewn WISA

    ar gyfer myfyrwyr sy’n cofrestru ar gwrs israddedig llawn-amser yn y Gwyddorau neu’r Celfyddydau

    Dyfernir y fwrsariaeth i ymgeiswyr sydd wedi dangos rhagoriaeth academaidd yn ystod y broses ymgeisio.

    Bydd ymgeiswyr sydd wedi rhoi derbyniad cadarn i gynnig PCYDDS i astudio rhaglen israddedig llawn-amser ym mhortffolio WISA yn gymwys i gael eu hystyried.

    Swm y Dyfarniad: Hyd at £2,500

    Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen gais Bwrsariaeth Rhagoriaeth Academaidd Ethnig o fewn WISA


    Rhagoriaeth Academaidd yn y Celfyddydau Creadigol Ôl-Covid o fewn WISA

    Ar gyfer myfyrwyr sy’n dychwelyd i addysg uwch o ganlyniad i effaith Covid ar eu gyrfa                            

    Bydd y fwrsariaeth yn cael ei dyfarnu i ymgeiswyr sydd wedi dangos rhagoriaeth academaidd yn ystod y broses ymgeisio ac sy’n dychwelyd i addysg uwch o ganlyniad i effaith COVID ar eu gyrfaoedd blaenorol.

    Bydd ymgeiswyr sydd wedi rhoi derbyniad cadarn i gynnig PCYDDS i astudio rhaglen israddedig llawn-amser ym mhortffolio WISA yn gymwys i gael eu hystyried.

    Swm y Dyfarniad: Hyd at £2,500 

    Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 1 Tachwedd 2023 - n.b Mae ceisiadau ar gyfer 23-24 bellach wedi cau.

    Gwybodaeth Ychwanegol: Bydd y fwrsariaeth yn cael ei dalu mewn rhandaliadau.

    Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen gais Rhagoriaeth Academaidd yn y Celfyddydau Creadigol Ôl-Covid WISA

    Apply Now: WISA Post Covid Creative Arts Academic Excellence bursary application form


    Rhagoriaeth Academaidd ym mae STEM Ôl-Covid o fewn WISA

    Ar gyfer myfyrwyr sy’n dychwelyd i addysg uwch o ganlyniad i effaith Covid ar eu gyrfa

    Bydd y fwrsariaeth yn cael ei dyfarnu i ymgeiswyr sydd wedi dangos rhagoriaeth academaidd yn ystod y broses ymgeisio ac sy’n dychwelyd i addysg uwch o ganlyniad i effaith COVID ar eu gyrfaoedd blaenorol.

    Bydd ymgeiswyr sydd wedi rhoi derbyniad cadarn i gynnig PCYDDS i astudio rhaglen israddedig llawn-amser ym maes PeiriannegCyfrifiadura, Adeiladu neu Gadwraeth Amgylcheddol yn gymwys i gael eu hystyried

    Swm y Dyfarniad: Hyd at £2,500

    Gwybodaeth Ychwanegol: Mae’r wobr hon yn cael ei thalu mewn rhandaliadau.

    Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen gais Rhagoriaeth Academaidd ym maes STEM Ôl-Covid WISA

  • Bwrsari Anabledd Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau

    Bwrsari Anabledd Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau

    Ar agor i fyfyrwyr yn eu blwyddyn gyntaf o astudio yn y Brifysgol ac sydd wedi datgan anabledd neu wahaniaeth dysgu penodol megis Dyslecsia, Dyspracsia, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio (ADD) neu Syndrom Asperger.

    Rhaid bod ymgeiswyr wedi cofrestru ar gwrs academaidd o fewn yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau ac yn astudio 40 credyd neu fwy, a rhaid eu bod wedi datgan eu hanabledd i’r Brifysgol o’r blaen fel rhan o’r broses ymgeisio neu gofrestru. 

    Mae’r wobr yn un gystadleuol. Bydd angen i ymgeiswyr gyflwyno datganiad ysgrifenedig byr (dim mwy na 350 o eiriau) yn egluro rhai o’r rhwystrau maen nhw wedi’u goresgyn er mwyn ennill lle yn AU a sut y bydd eu hastudiaethau yn eu cefnogi wrth ddilyn eu llwybr gyrfaol. Fe gewch e-bost yn gofyn i chi gyflwyno’r datganiad wedi i chi gwblhau’r ffurflen hon. 

    Ffurflen gais: Ffurflen gais Bwrsariaeth Anabledd Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau 


    Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau: Bwrsariaeth Academaidd Cydraddoldeb Ethnig

    Ar agor i fyfyrwyr yn eu blwyddyn gyntaf o astudio yn y Brifysgol sy’n nodi eu bod yn perthyn i un o’r grwpiau ethnig o dan y penawdau canlynol ar restr gyhoeddedig Llywodraeth y DU:

    • Grwpiau Cymysg neu Amlethnig

    • Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig

    • Du, Affricanaidd, Caribïaidd, neu Ddu Prydeinig

    • Grŵp Ethnig Eraill

    • Mae myfyrwyr o ethnigrwydd Sipsi neu Deithwyr Gwyddelig hefyd yn gymwys am y fwrsariaeth hon.

    Rhaid i ymgeiswyr fod wedi cofrestru ar raglen academaidd yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau, gan astudio o leiaf 40 credyd. 

    Mae’r wobr yn un gystadleuol. Bydd angen i ymgeiswyr gyflwyno datganiad ysgrifenedig byr (dim mwy na 350 o eiriau) yn egluro rhai o’r rhwystrau maen nhw wedi’u goresgyn er mwyn ennill lle mewn Addysg Uwch (AU) a sut y bydd eu hastudiaethau yn eu cefnogi wrth ddilyn eu llwybr gyrfaol.

    Ffurflen gais: Ffurflen gais Bwrsariaeth Rhagoriaeth Academaidd Ethnig yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau

    Ffurflen gais: Ffurflen gais Bwrsariaeth Rhagoriaeth Academaidd Ethnig yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau


    Bwrsariaeth Cyfranogiad Addysg Uwch yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau

    Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau (IEH): Bwrsariaeth Cyfranogiad Addysg Uwch

    Ar agor i fyfyrwyr yn eu blwyddyn gyntaf o astudio yn y Brifysgol ac sy’n bodloni o leiaf un o’r meini prawf canlynol:

    • Yn dod o ardal yn y DU lle nad oes llawer yn parhau i lefel Addysg Uwch (fel y’i diffinnir gan ddata AU POLAR4/Oedolion yn Lloegr a data MALIC yng Nghymru)

    • O dan 25 oed ac â phrofiad o system Ofal y DU

    • Y person cyntaf o’u cartref i fynd i’r Brifysgol

    • A chyfrifoldebau rhiant neu chyfrifoldeb gofalu

    • A diagnosis o anabledd neu wahaniaeth dysgu penodol 

    Rhaid i ymgeiswyr fod wedi cofrestru ar raglen academaidd yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau, gan astudio o leiaf 40 credyd. 

    Mae’r wobr yn un gystadleuol. Bydd angen i ymgeiswyr gyflwyno datganiad ysgrifenedig byr (dim mwy na 350 o eiriau) yn egluro rhai o’r rhwystrau maen nhw wedi’u goresgyn er mwyn ennill lle mewn Addysg Uwch a sut y bydd eu hastudiaethau yn eu cefnogi wrth ddilyn eu llwybr gyrfaol.

    Ffurflen gais: Ffurflen gais Bwrsariaeth Cyfranogiad Addysg Uwch yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau


    Bwrsari Cyfiawnder Cymdeithasol a Chynhwysiant yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau

    Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau: Bwrsari Cyfiawnder Cymdeithasol a Chynhwysiant 

    Ar agor i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf sydd ar hyn o bryd, neu wedi bod, yn rhan o fenter neu brosiect â’r nod o gynyddu a hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol a chyfiawnder cymdeithasol.

    Rhaid i ymgeiswyr fod wedi cofrestru ar raglen academaidd yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau, gan astudio o leiaf 40 credyd. 

    Mae’r wobr ar agor i ymgeiswyr o unrhyw gefndir sydd ag amrywiaeth o wahanol ddiddordebau. Rydym yn gweithio ar y dybiaeth bod cyfiawnder cymdeithasol a chynhwysiant yn cwmpasu ystod eang iawn o wahanol weithgareddau a materion.

    Mae’r wobr hon yn gystadleuol a bydd angen cyflwyno disgrifiad byr o’r prosiect neu fenter gymdeithasol/cynhwysol y mae’r ymgeisydd wedi bod yn rhan ohono, a’u heffaith nhw eu hunain ar ei lwyddiant. (Uchafswm o 350 o eiriau). Fe gewch e-bost yn gofyn i chi gyflwyno’r datganiad wedi i chi gwblhau’r ffurflen hon. 

    Ffurflen gais: Bwrsari Cyfiawnder Cymdeithasol a Chynhwysiant yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau

  • ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio modiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg


    Myfyrwyr sydd un ai’n astudio eu rhaglen gyfan trwy’r Gymraeg neu’n rhannol trwy’r Gymraeg.

    Rhoddir y fwrsariaeth hon i fyfyrwyr sy’n astudio unai trwy’r Gymraeg yn gyfan gwbl neu’n yn rhannol.
    £50 am bob 10 credyd a gwblheir drwy gyfrwng y Gymraeg/yn ddwyieithog. (Rhaid i’r modiwlau fod o leiaf 50% yn ddwyieithog a rhaid iddynt fod â chod C).

    Swm y Dyfarniad: Hyd at £900 (neu hyd at £1200 i fyfyrwyr ar gyrsiau gradd dwy flynedd llwybr cyflym)

    Gwybodaeth Ychwanegol: Sylwch na fydd myfyrwyr sydd eisoes yn derbyn Ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gymwys i gael £500 cyntaf yr ysgoloriaeth hon, ond fe allan nhw wneud cais am y gwahaniaeth rhwng y ddwy wobr os ydynt yn astudio mwy na 100 credyd mewn blwyddyn academaidd.

    Dyfernir y fwrsariaeth ym mis Gorffennaf 2024 ar ôl byrddau arholi terfynol y flwyddyn academaidd.

    Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 29 Ebrill 2024

    Gwnewch Gais Nawr: Ffurflen gais Bwrsariaeth Cyfrwng Cymraeg/Dwyieithog

  • Faint: £1,000 y flwyddyn am hyd at 3 blynedd (cyfanswm o £3,000) 

    Pwy: Myfyrwyr sy’n astudio o leiaf 66%/80 credyd y flwyddyn o’u cwrs yn Gymraeg ac yn cychwyn yn y Brifysgol ym Medi 2024.

    Cyrsiau: Defnyddia ein chwilotydd cyrsiau Coleg Cymraeg i weld a yw dy gwrs di ar y rhestr. 

    Cyfnod ymgeisio: 11 Medi - 24 Ionawr

    Sut i ymgeisio: Bydd angen llenwi’r ffurflen gais erbyn 24 Ionawr

  • Faint: £500 y flwyddyn am 3 blynedd (cyfanswm o £1,500) 

    Pwy: Myfyrwyr sydd wedi cychwyn yn y brifysgol yn Medi/Hydref 2023 ac sy’n astudio o leiaf 33%/40 credyd o’u cwrs yn Gymraeg mewn UNRHYW BWNC 

    Cyrsiau: Unrhyw gwrs sy’n cynnig 33% o’r cwrs yn Gymraeg. Defnyddia chwilotydd cyrsiau Coleg Cymraeg Cenedlaethol i weld a yw dy gwrs di ar y rhestr

    Dyddiad cau: Mae’r cyfnod ymgeisio ar gyfer eleni wedi cau.

  • Faint: £1,000 y flwyddyn am hyd at 3 blynedd (cyfanswm o £3,000) 

    Pwy: Myfyrwyr sy’n byw yn ardal Gwynedd sy’n astudio eu cwrs cyfan (100%) yn Gymraeg 

    Cyrsiau: Defnyddia chwilotydd cyrsiau Coleg Cymraeg i weld a yw dy gwrs di ar y rhestr 

    Dyddiad cau: 17 Ionawr 2023 (cyfnod ymgeisio wedi cau ar gyfer eleni)

    Sut i ymgeisio: Bydd angen llenwi ffurflen fan hyn pan fydd y cyfnod ymgeisio nesaf yn agor (tymor yr hydref 2023)

  • Faint: £500 y flwyddyn am hyd at 3 blynedd (cyfanswm o £1,500) 

    Pwy: Myfyrwyr sy’n byw yn ardal Ynys Môn, sy’n astudio o leiaf 33%/40 credyd y flwyddyn o’u cwrs yn Gymraeg 

    Cyrsiau: Defnyddia chwilotydd cyrsiau Coleg Cymraeg Cenedlaethol i weld a yw dy gwrs di ar y rhestr 

    Dyddiad cau: Hydref 2023

    Sut i ymgeisio: Os wyt ti’n cyflwyno ffurflen gais cymhelliant, ac yn dod o Ynys Môn, byddwn yn dy wahodd i wneud cais am yr Ysgoloriaeth hon ar ddiwedd Hydref.