Skip page header and navigation

Gwneud cais i'r Brifysgol

P’un ai a ydych chi’n bwriadu astudio ar gyfer gradd baglor, meistr neu ddoethuriaeth, rydyn ni yma i’ch helpu chi i wneud y broses ymgeisio mor rhwydd â phosib. Rydym yn deall y gall meddwl am wneud cais i brifysgol fod yn gyffrous ac yn anodd.​ Ein nod yw sicrhau bod yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch gyda chi er mwyn gwneud y penderfyniad hollbwysig hwnnw i wneud cais i brifysgol.  

O gyngor ar wneud cais trwy UCAS, gwneud cais yn uniongyrchol neu drwy asiant, i gynnig awgrymiadau da ar ysgrifennu datganiad personol rhagorol neu gyngor ar gefnogi ymgeisydd, rydym yma i’ch helpu. Wrth i chi ymchwilio i’r adnoddau rydyn ni wedi’u casglu at ei gilydd, byddwch chi’n dod o hyd i gamau gweithredu, awgrymiadau o lygad y ffynnon, a phrofiad uniongyrchol myfyrwyr presennol sydd wedi dewis yr un llwybr. 

Mae’n bwysig sicrhau eich bod yn rhoi cyfeiriad e-bost dilys ar eich cais er mwyn sicrhau nad ydych yn colli unrhyw negeseuon pwysig oddi wrth y Brifysgol, ac oddi wrth UCAS lle bo’n berthnasol.

Os oes gennych unrhyw anableddau neu gyflyrau iechyd, nodwch hyn ar eich ffurflen gais.​ Yna gallwn weithio gyda chi i ystyried pa gymorth ac addasiadau y gallai fod angen eu rhoi ar waith i ganiatáu i’ch astudiaethau fod yn hygyrch ac er mwyn eich galluogi i gael y gorau o’ch profiad prifysgol.

Explore our Carmarthen Campus

Mae eich antur israddedig yn dechrau nawr. P'un ai a ydych chi'n chwilio am ragor o wybodaeth ynglŷn â gwneud cais ar gyfer gradd baglor neu gyngor ar baratoi cais rhagorol, rydyn ni yma i roi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn i chi ddilyn eich trywydd eich hun.

Girl smiling over laptop

Sut i Wneud Cais Israddedig

Student sitting relaxed smiling

Gan ddibynnu ar y rhaglen, gallwch wneud cais am le ar ein rhaglenni Ar-lein a Dysgu o Bell yn uniongyrchol i ni neu drwy UCAS - gwasanaeth derbyn y prifysgolion a’r colegau

Student studying in Cwad, Carmarthen Campus

Er y gall dewis astudio mewn gwlad wahanol ymddangos yn anodd i ddechrau, rydym yn ymroi i sicrhau fod y broses yn un rhwydd i chi.

Student looking at camera smiling

Gyda rhaglenni Prentisiaeth PCYDDS cewch barhau i weithio tra byddwch yn astudio, gan ddatblygu eich cymhwysedd yn y gweithle yn ogystal ag ennill cymhwyster cydnabyddedig (fel HNC, HND, gradd, neu Radd Meistr).

Apprentice working machinery wearing blue overalls

Mae gennym rwydwaith o asiantau ar draws y byd yn barod i'ch helpu gyda'ch cais.
Mae'r Brifysgol wedi penodi cynrychiolwyr/asiantau lleol a all gynnig cyngor, gwybodaeth a chymorth gyda cheisiadau gan ddarpar fyfyrwyr.

Student facing forward

Rydyn ni’n ymdrechu i roi arweiniad gwerthfawr i’n myfyrwyr pan fyddan nhw ar ddechrau eu taith academaidd.

Staff and students working in a Pod

Cysylltu â’r Tîm Derbyn

  • Ffôn: 0300 500 5054
    E-bost: admissions@uwtsd.ac.uk


    Campws Caerfyrddin

    Swyddfa Dderbyniadau
    Y Gofrestrfa
    PCYDDS
    Llawr 1af Adeilad Dewi
    Heol y Coleg
    Caerfyrddin 
    SA31 3EP


    Campws Llambed

    Swyddfa Dderbyniadau
    Y Gofrestrfa
    PCYDDS
    Adeilad Caergaint
    Llanbedr Pont Steffan
    SA48 7ED


    Campws Abertawe

    Swyddfa Dderbyniadau
    Y Gofrestrfa
    PCYDDS
    Technium 1
    Heol y Brenin
    Abertawe
    SA1 8PH

  • Ffôn: 0300 373 0651
    E-bost: homerecruitmentwales@uwtsd.ac.uk 

  • Ffôn: 0121 229 3000
    E-bost: birminghamadmissions@uwtsd.ac.uk

  • Ffôn: 0207 566 7600
    E-bost: londonadmissions@uwtsd.ac.uk

  • Ffôn: 01792 482050
    E-bost: international.registry@uwtsd.ac.uk

  • Ffôn: 01267 676849
    E-bost: RegistryPGR@uwtsd.ac.uk 

  • Os oes gennych unrhyw ymholiadau’n ymwneud â’ch cofnod cofrestru myfyriwr, arholiadau, graddio neu os ydych am wneud cais am drawsgrifiad/tystysgrif mewn perthynas â’ch astudiaethau yn PCYDDS, cysylltwch â Thîm Gwasanaethau’r Gofrestrfa. 

Cofrestru

Rhaid i bob myfyriwr gofrestru cyn y gallant ymuno â’r Brifysgol yn swyddogol.

  • Cofrestru yw’r broses sy’n sicrhau eich bod yn:

    • Cytuno bod yn fyfyriwr yn y Brifysgol am flwyddyn academaidd gyfan neu ran ohoni
    • Cytuno cadw at Statudau, Ordinhadau a Rheoliadau’r Brifysgol a thalu’r holl ffioedd perthnasol (megis ffioedd dysgu).
    • Creu a/neu newid eich cofnod myfyriwr. 

    Os na chofrestrwch, ni fydd gennych yr hawl i:

    • Dderbyn eich cerdyn adnabod myfyriwr
    • Cael amserlen eich cwrs ac adnoddau eraill sydd eu hangen ar eich rhaglen astudio
    • Cymryd rhan mewn asesiadau
    • Derbyn Tystysgrif Eithrio rhag y Dreth Gyngor (lle’n briodol)
    • Derbyn eich cyllid myfyriwr (lle’n briodol)
    • Byw mewn neuaddau preswyl (lle’n briodol)
    • Cael mynediad i wasanaethau a gwybodaeth ychwanegol gan y Brifysgol
  • Dylai’r broses gofrestru barhau am tua 15 munud. Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch:

    Dechreuwch gofrestru