Seminar Ethnigrwydd ac Addysg

09.12.2015

Mae Canolfan Cymru er Cydraddoldeb mewn Addysg yn datblygu strand o waith yn ymwneud ag ethnigrwydd ac addysg, gan edrych ar brofiadau grwpiau Du a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru a’r ffactorau posibl sy’n dylanwadu ar eu dyheadau a’u cyrhaeddiad. Fel rhan o’r gwaith hwn rydym yn falch iawn i’r Athro Simon Burgess, ymchwilydd blaenllaw ym maes economeg addysg ym Mhrifysgol Bryste, ddod i siarad yn ein seminar am ei ymchwil ar oblygiadau ethnigrwydd i gyrhaeddiad addysgol yn Lloegr. Roedd y seminar yn llwyfan i gynrychiolwyr fynegi a chyfnewid syniadau’n ymwneud ag addysg disgyblion o wahanol gefndiroedd ethnig gan hwyluso ein meddylfryd am sut y gallai canfyddiadau yn Lloegr fod yn ddefnyddiol ar gyfer gwella addysg yng Nghymru.

Rhannodd Simon olwg difyr â ni ar gyfansoddiad ethnig ysgolion Llundain a’r berthynas â chyrhaeddiad uchel, a elwir yn aml ym maes addysg yn ‘effaith Llundain’. Roedd ei ganfyddiadau’n awgrymu, o ganlyniad i’r ffaith fod gan Lundain boblogaeth uchel o ddisgyblion o gefndiroedd Lleiafrifoedd Ethnig, yr honnir bod iddynt ‘mwy o uchelgais, dyhead ac yn gweithio’n galetach yn yr ysgol’, bod Llundain yn cyflawni sgôr TGAU uwch ar gyfartaledd na gweddill y wlad. Yn syml, mae gan Lundain gyfran uwch o ddisgyblion sy’n sgorio’n uchel, fel y dywedodd Simon yn ei adroddiad Understanding the success of London’s schools

Dadleuwyd mai ffactor hanfodol i’r llwyddiant hwn oedd mewnfudo. Honnwyd fod gan blant i fewnfudwyr diweddar obeithion a disgwyliadau uwch o’u haddysg a’u bod yn fwy tebygol o ymgysylltu â’u gwaith ysgol. Edrychwyd ar yr achosiaeth dyhead-cyrhaeddiad gan gyfeirio at farn y plant am yr hyn roedden nhw’n ei ddymuno a barn y rhieni am yr hyn roedden nhw am i’w plant ei wneud, erbyn diwedd cyfnod allweddol 4. Canfuwyd fod gan rieni disgyblion o Leiafrifoedd Ethnig ddyheadau uchel iawn i’w plant o’u cymharu â rhieni plant Gwyn. Roedd 75% o rieni Gwyn a 93% o rieni Lleiafrifoedd Ethnig yn dymuno ac yn disgwyl i’w plant aros ymlaen mewn addysg.

Er bod grwpiau Lleiafrifoedd Ethnig yn dechrau’r ysgol uwchradd ar lefel is na disgyblion Gwyn Prydeinig, canfuwyd eu bod yn y pen draw yn llwyddo i fod cystal ac yn aml yn eu goddiweddyd ac felly ar gyfartaledd canfuwyd mai disgyblion Gwyn oedd yn gwneud y cynnydd mwyaf araf drwy’r ysgol uwchradd. Ar gyfer y mwyafrif o grwpiau ethnig, nodwyd bod y cynnydd hwn mewn perthynas â disgyblion Gwyn yn dreiddiol, ac yn digwydd yn y mwyafrif o ysgolion.

Canfyddiad diddorol arall oedd bod tlodi i’w weld yn cael llai o effaith ar ddisgyblion o Leiafrifoedd Ethnig nag ar ddisgyblion Gwyn yn Llundain. Mae rhai o’r cymdogaethau tlotaf yn cynnwys llawn cymaint o ddisgyblion o Leiafrifoedd Ethnig sy’n perfformio’n uchel â’r cymdogaethau mwyaf cyfoethog ac unwaith eto mae hyn yn ymwneud â’r cyfansoddiad ethnig, tra bo disgyblion Gwyn Prydeinig yn 34% o’r disgyblion yn Llundain. Yn hyn o beth, mae disgyblion Gwyn mewn ardaloedd tlawd yn wynebu anfanteision uwch na disgyblion o Leiafrifoedd Ethnig mewn ardaloedd tlawd.

Prociodd y seminar lawer o syniadau a chwestiynau diddorol o ran cyrhaeddiad gwahanol grwpiau ethnig. Codwyd cwestiwn difyr ynghylch pam nad yw ‘effaith Llundain’ i’w weld yng Nghaerdydd. Caerdydd yw cartref y boblogaeth Lleiafrifoedd Ethnig uchaf yng Nghymru, cyn Abertawe a Chasnewydd. Os yw cyfansoddiad ethnig Llundain yn ffactor canolog yn llwyddiant ei hysgolion, pam nad yw ysgolion a disgyblion yn y dinasoedd hyn yng Nghymru sydd â llawer o Leiafrifoedd Ethnig yn gwneud gystal? Gallem ddadlau bod gan blant mewnfudwyr yn y dinasoedd hyn yr un dyheadau uchel â’r rheini yn Llundain, felly pam fod y mwyafrif o grwpiau Lleiafrifoedd Ethnig yn parhau i gynnwys y grwpiau sy’n perfformio isaf yng Nghymru?

Arweiniodd trafodaethau’r seminar at syniadau ar gyfer datblygu gwaith yn y dyfodol ar y pwnc hwn yn y Grŵp Diddordeb Arbennig ar gyfer Ethnigrwydd ac Addysg a sefydlwyd gan WCEE. Y teimlad oedd mai’r canlynol fydd yn digwydd nesaf yng Nghymru a’i meysydd blaenoriaeth o ran ethnigrwydd a chyrhaeddiad: 

Anghenion disgyblion Saesneg fel Iaith Ychwanegol/Ffoaduriaid/Mewnfudwyr Newydd - Mae angen ymchwilio i anghenion a’r rhwystrau a wynebir gan y disgyblion hyn a sut y gallai hyn ddylanwadu ar eu dyheadau a’u huchelgais addysgol. Hefyd, i ba raddau mae athrawon yn cael eu hyfforddi ac yn hyderus wrth ymdrin ag a diwallu anghenion diwylliannol, ymddygiadol a dysgu penodol y disgyblion hyn?

Gwahaniaethau Trefol/Gwledig – Yn gyffredinol deellir bod cymunedau clos a rhwydweithiau cymdeithasol yn cynnig manteision yn nhermau cymorth ac ymgysylltu. Rydyn ni’n tueddu i ganfod bod yr ‘ymdeimlad o gymuned’ hwn yn wir mewn ardaloedd trefol i grwpiau Du a Lleiafrifoedd Ethnig. Fodd bynnag pan ddaw’n fater o gyrhaeddiad mewn addysg fe welwn nad yw’r grwpiau hyn yn gwneud gystal er gwaethaf yr ymdeimlad hwn o gymuned a pherthyn. Felly beth y gellid ei ddweud am y grwpiau Du a Lleiafrifoedd Ethnig hynny sy’n byw mewn ardaloedd gwledig lle gellid dadlau nad oes ganddyn nhw gymuned/rhwydweithiau? I ba raddau mae ymgysylltu cymunedol a hunaniaeth ethnig yn chwarae rhan yn ffurfio dyheadau a pherfformiad disgyblion Du a Lleiafrifoedd Ethnig mewn ardaloedd gwledig?

Mae canfyddiadau Simon Burgess yn ein helpu i gyfeirio at y gobaith mawr a osodir yn y system addysg gan grwpiau Lleiafrifoedd Ethnig a’r modd maen nhw’n ymgysylltu â dysgu. Yr hyn y dysgodd y seminar hwn i ni yw mai sail llwyddiant ysgolion Llundain yn sylfaenol yw dyheadau disgyblion a rhieni. Y cwestiynau pwysig nawr yw, sut mae cynnal dyheadau disgyblion? A sut gallwn ni helpu i godi cyrhaeddiad grwpiau Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru?

Awdur: Henna Nisa, Cynorthwyydd Polisi ac Ymchwil.