Cyfleusterau Cerddoriaeth

  • Music Facilities 1
  • Music Facilities 2
  • Music Facilities 3
  • Music Facilities 4

Yn bennaf, mae’r cyrsiau cerddoriaeth wedi’u lleoli yn yr Adeilad BBC hanesyddol ac mae’n cynnwys tair stiwdio recordio o’r radd flaenaf a neuadd ddarlledu cyngherddau mawr. Mae’r stiwdios wedi croesawu artistiaid amrywiol, fel Dylan Thomas, Peter Sellers a Catatonia. Ar hyn o bryd, mae Cerddorfa Gliniadur Abertawe mewn preswyliaeth yno. Mae gan y myfyrwyr fynediad llawn i’n lab Mac, sy’n llawn o’r feddalwedd ddiweddaraf, fel Pro Tools a Logic X. Cynigir hyfforddiant dwys mewn ystod eang o sgiliau a gweithgareddau cysylltiedig â thechnoleg cerddoriaeth. Mae’r casgliad o stiwdios yn y brifysgol yn llawn offer sy’n cynnig ystod eang o feddalwedd a chaledwedd o safon ddiwydiannol a lleoedd recordio a pherfformio pwrpasol.