Online technology to support research
Christine Davies
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Campws Caerfyrddin, Caerfyrddin SA31 3EP; Christine.Davies@uwtsd.ac.uk
4ydd Mai 2017
Crynodeb
Mae llawer o gymwysiadau ar y we sy’n gallu cefnogi agweddau ar ymchwil boed yn rhan o raglen astudio, neu’n gysylltiedig â rôl academaidd. Mae llawer o’r rhain ar gael fel ‘apiau’ symudol ac felly’n hawdd eu defnyddio ar amrywiaeth o ddyfeisiau sy’n defnyddio’r we. Hefyd gellir defnyddio llawer ohonynt yn rhad ac am ddim.
Yn aml bydd angen i ymchwilwyr ddarganfod gwybodaeth ynghylch dulliau ymchwil, dadansoddi a seiliau athronyddol ymchwil. Gellir cael gwybodaeth o’r fath o ‘Adnoddau Addysgol Agored’, a grëir yn aml gan brifysgolion a ffynonellau dibynadwy eraill. Mae ‘Cyrsiau Agored Anferth Ar-lein’ yn dod i mewn i’r categori hwn, a gallant fod yn ffordd o gael gwybodaeth o safon yn rhad ac am ddim mewn cyd-destun ‘cymunedol’.
Mae offer ar gyfer cynllunio ac adolygu hefyd yn bwysig i ymchwilwyr. Mae offer mapiau meddwl megis ‘Mindmeister’ (https://www.mindmeister.com) yn darparu dulliau gweledol ar gyfer y prosesau hyn, ac maent hefyd â photensial cydweithredol oherwydd yr opsiwn i olygu gan fwy nag un unigolyn ar yr un pryd. Gall ymchwilwyr sy’n defnyddio arolygon gael budd o offer arolwg ar-lein, gyda gwefannau megis SurveyMonkey yn caniatáu gweinyddu arolygon, ac yn cynnwys amcangyfrifydd maint samplau ac offer dadansoddol. Mae cyfeirnodi’n fater pwysig i ymchwilwyr, a gall set bellach o offer ar-lein helpu gyda hyn, er enghraifft, ‘Refworks’ a ‘Mendeley’ (https://www.mendeley.com ).
Mae cyfathrebu a chydweithio'n bwysig i ymchwilwyr er mwyn cadw’n gyfredol a hyrwyddo’u gwaith. Er gall y cyfryngau cymdeithasol megis Facebook a Twitter ymddangos yn ddibwys, mae potensial anferth iddynt hwythau yn y maes hwn hefyd. Hefyd ceir gwefannau ‘cymdeithasol’ â ffocws academaidd penodol megis ‘Academia.edu’.