The more you learn – the more you earn!?

Sandra Dettmer

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Campws Busnes Abertawe, Y Stryd Fawr, Abertawe, Cymru, SA1 1NE; sandra.dettmer@uwtsd.ac.uk

5ydd Mai 2017

Crynodeb

Mae’r astudiaeth hon yn edrych ar adenillion addysg.  Mae llawer o economegwyr llafur yn y gorffennol wedi astudio’r berthynas hon rhwng addysg ac enillion ac yn gyffredinol mae’r astudiaethau’n cadarnhau perthynas gadarnhaol rhwng y ddau newidyn.  Awgryma’r llenyddiaeth berthnasol fod pob blwyddyn ychwanegol o addysg yn gysylltiedig â chodiad o 8-13% mewn enillion fesul awr yn hwyrach mewn oes.

Gan yr ymddengys fod addysg yn talu'r ffordd yn ariannol, nid yw’n syndod bod mwy a mwy o bobl ifanc yn y DU yn penderfynu mynd i’r brifysgol. Mae adroddiad diweddaraf UCAS (2015) yn cyfeirio at y nifer mwyaf erioed o fyfyrwyr yn y DU, gyda 532,300 o bobl yn cychwyn ar addysg uwch, sy’n gynnydd o 3.1% ar 2014.  

Ar sail y mesuriad hwnnw ac yn dilyn egwyddor economaidd cyflenwad a galw, mae’r cwestiwn yn codi a ellir cadarnhau’r berthynas gadarnhaol hon ar gyfer y DU o hyd?  Wrth i fwy o raddedigion ymuno â’r farchnad lafur, mae’r cyflenwad o weithwyr addysgedig iawn yn cynyddu, a allai arwain yn y pen draw at bremiwm is ar gyfer graddedigion.   

Hefyd ymddengys fod technoleg yn ystumio’r rheol syml fod mwy o addysg ffurfiol yn arwain yn awtomatig at enillion uwch.  Mae papur gan Beaudry et al (2013) yn nodi lleihad yng nghyfran y gyflogaeth y rhoddir cyfrif amdani gan swyddi sgiliau uchel.  Mae hyn yn gorfodi unigolion sydd wedi cael gwell addysg i mewn i swyddi y maent yn orgymwysedig amdanynt ac y maent yn cael llai o dâl amdanynt.  

Defnyddia’r papur hwn y data diweddaraf sydd ar gael o’r Arolwg o’r Llafurlu (LFS) i ymchwilio i adenillion addysg yn fwy manwl.  Bydd yn edrych i weld a ydy adenillion addysg wedi newid dros amser ac mae’n ymchwilio i wahaniaethau rhanbarthol ar draws y DU, h.y. oes cymhelliad ariannol mwy o faint i raddedigion yn Llundain neu’r de-ddwyrain nag sydd yng Nghymru? Hefyd mae’n ymdrin â mater rhyw ac yn rhoi prawf i weld a ydy adenillion addysg yn wahanol i wrywod ac i fenywod.  

Mae’r cwestiwn terfynol yn codi ynghylch argymhellion polisi, ond yn fwy pwysig:  beth yw ein neges i genhedlaeth y dyfodol?