TAR Uwchradd Cemeg gyda SAC

Mae’r cwrs TAR Uwchradd yn rhaglen hyfforddi gyffrous a heriol dros 36 wythnos a fydd yn eich paratoi ar gyfer proffesiwn fel athro/athrawes (gweler calendr y cwrs isod). Nod y cwrs yw’ch paratoi i fod yn athro/athrawes hyderus a rhagorol mewn Cemeg a Gwyddoniaeth mewn ysgolion uwchradd. 

Ffeithiau Allweddol

Côd UCAS: 2X5V
Côd sefydliad: T80
Hyd y cwrs:
Un flwyddyn

Lleoliad:
Abertawe
Ysgol/Cyfadran:
Canolfan Addysg Athrawon DOC
Enw Cyswllt:
Hilary Chivers
E-bost Cyswllt:
hilary.chivers@sm.uwtsd.ac.uk
Dewis Iaith
Saesneg  



Mae creadigrwydd, arloesi, adfyfyrio beirniadol, trylwyredd academaidd a phroffesiynoldeb yn nodweddion allweddol rydym yn rhoi parch mawr iddynt, yn eu meithrin ac yn eu disgwyl gennych chi os cewch eich derbyn ar ein cwrs.

Modwl 01: Principles of Teaching, Learning and Pedagogy in Secondary Education (Lefel 6 - cyfrwng Saesneg yn unig.  Llwybr Ôl-raddedig neu Dystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg ar gael)

Modwl 02: Sgiliau a Dysgu ar draws y Cwricwlwm (Lefel 6 - cyfrwng Cymraeg neu Saesneg. Llwybr Ôl-raddedig neu Dystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg ar gael)

Modwl 03: Ymchwilio i Faterion mewn Addysg Uwchradd (Lefel 6 a 7 - cyfrwng Cymraeg neu Saesneg. Llwybr Ôl-raddedig neu Dystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg ar gael)

Modwl 04: Curriculum Development and Enhancement (Lefel 6 - Tystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg a Lefel 7 – Tystysgrif Addysg i Raddedigion.  Y modwl yn gyfrwng Saesneg yn unig ar y ddau lwybr)

Modwl 05: Profiad Addysgu Proffesiynol (Lefel 6 - cyfrwng Saesneg neu Gymraeg/dwyieithog. Llwybr Ôl-raddedig neu Dystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg ar gael)

  • Staff newydd a hirsefydlog o safon uchel ac â phrofiad diweddar a pherthnasol o ddarpariaeth ysgolion uwchradd
  • Darpariaeth ar gyfer myfyrwyr cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg
  • Rydym mewn lleoliad daearyddol da i wasanaethu de Cymru i gyd
  • Ein rhaglen ni yw darparwr mwyaf hyfforddiant TAR Uwchradd yng Nghymru
  • Ysgolion partneriaeth cyfrwng Cymraeg a Saesneg hirsefydlog ynghyd â mentoriaid ysgol/coleg profiadol iawn
  • Adnoddau pwnc a TGCh ardderchog ar gael i fyfyrwyr
  • Cyfleoedd Datblygiad Proffesiynol Parhaus wedi’r cwrs
  • Ni sydd â’r gyfradd cyflogaeth orau ar draws Cymru
  • Mae’r cwrs yn cwmpasu hyfforddiant mewn amrywiaeth eang o dechnegau addysgu â chyfleoedd i roi cynnig ar syniadau yn ysgolion y bartneriaeth.  Bydd y cwrs yn paratoi hyfforddeion i addysgu Cemeg o fewn yr ystod oed 11-18 mewn amrywiaeth o ysgolion a cholegau (yn cynnwys cyfrwng Cymraeg ar gais).  Mae’r cwrs hwn yn darparu hyfforddiant ar eich cyfer i addysgu Cemeg hyd at arholiadau Safon Uwch ac UG a phob pwnc gwyddoniaeth hyd at o leiaf Blwyddyn 9 yn yr ysgol uwchradd.  
  • Nodau sylfaenol y rhaglen TAR Cemeg yw datblygu sgiliau athrawon Cemeg/Gwyddoniaeth dan hyfforddiant sy’n gallu adfyfyrio ar arfer a gafwyd drwy brofiad addysgu yn yr ysgol; sy’n gallu dadansoddi’r profiad hwnnw yng ngoleuni trafodaeth â mentoriaid ac eraill ac yng ngoleuni’u gwaith darllen; a gwerthuso’u harfer yn effeithiol er mwyn dangos gwelliant graddol o ran safonau eu haddysgu hwythau a'r dysgu gan y disgyblion.

Modwl 01 Principles of teaching, learning and pedagogy in secondary   education 

 

  • Gwaith cwrs: 8000 o eiriau
  • Adolygiadau llenyddiaeth / Cyflwyniad adfyfyriol / Sylwadau gwerthusol

Modwl 02 Sgiliau a dysgu ar draws y cwricwlwm

 

  • Gwaith cwrs - 4000 o eiriau
  • Papur cynhadledd  

Modwl 03a neu 03 Ymchwilio i faterion mewn addysg   uwchradd

 

  • Gwaith cwrs: cyfwerth â   4000 o eiriau
  • Ymchwiliad gan ddefnyddio dysgu seiliedig ar broblemau a gwerthuso beirniadol.

 

 

Modwl 04a neu 04    Curriculum development and enhancement

 

  • Gwaith cwrs: cyfwerth â   4000 o eiriau
  • Dadansoddiad beirniadol o ymyriad addysgu

 

Profiad Addysgu Proffesiynol

  • Lleoliad [100%]
  • Cyflawni SAC ar sail tystiolaeth drwy PDP ac asesiadau ffurfiannol a chrynodol gan fentoriaid, uwch fentoriaid a thiwtoriaid. Cymedroli gan arholwyr mewnol ac allanol y Brifysgol.

Ar gyfer mynediad ym mis Medi 2015 bydd arnoch angen gradd B TGAU yn y Saesneg a Mathemateg ac os ydych yn bwriadu dilyn eich cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg, gradd C yn y Gymraeg.

Os oes gennych radd C mewn Saesneg Iaith neu Fathemateg, ac rydych wedi bod yn llwyddiannus yn agweddau eraill y broses ddethol, yna cewch gyfle i sefyll y prawf cywerthedd. Os ydych yn llwyddiannus ac yn derbyn lle i astudio gyda ni, yna, gallwch ddechrau ar eich rhaglen yn ôl y bwriad. Mae mynychu’r gweithdai a gynhelir cyn y prawf yn rhan orfodol o’r rhaglen profi cywerthedd.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Ceri Hadler: ceri.hadler@pcydds.ac.uk 01792 482103

Yn gyffredinol disgwylir cymwysterau da ar lefel TGAU a Safon Uwch yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Fel arfer y gofynion mynediad lleiaf i’r rhaglen yw gradd anrhydedd ail ddosbarth mewn un o’r meysydd pwnc a gynigir gan y rhaglen neu mewn disgyblaeth gytras iawn.    Rhoddir ystyriaeth hefyd i gymwysterau sy’n ‘gyfatebol’ i Safon Uwch megis BTEC Uwch. Gellir cael manylion gofynion mynediad pwnc penodol drwy gysylltu â'r tiwtoriaid a enwir isod.

Os cewch eich derbyn ar ein cwrs, bydd gofyn ichi gael gwiriad manylach clir gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Swyddfa Cofnodion Troseddol gynt) cyn gynted â phosibl.

Os cynigir cyfweliad ichi, byddai’n fanteisiol petaech wedi cael peth profiad gwaith mewn ysgol uwchradd fel modd o ddechrau sylweddoli beth mae’n ei olygu i fod yn athro yn yr ystafell ddosbarth ac er mwyn deall y gofynion y byddech yn eu hwynebu yn eich dewis yrfa.

Mae gan y rhaglen TAR Uwchradd gysylltiad hirsefydlog â rhaglen CANTEACH sy’n cefnogi ac yn hwyluso ceisiadau gan raddedigion o Ganada i’r rhaglen TAR Uwchradd.  

Gradd mewn Cemeg neu bwnc cysylltiedig, a TGAU neu gymwysterau cyfatebol mewn Mathemateg a Saesneg gradd B neu uwch; mae angen datgeliad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae’r broses dderbyn yn cynnwys prawf ar sgiliau, cyflwyno episod addysgu byr a chyfweliad.

Mae ystadegau’n nodi lefel recriwtio eithaf sefydlog i’r proffesiwn addysgu rhwng 50% a 60%, sy'n cymharu'n ffafriol â ffigurau cenedlaethol (Cymru). Er enghraifft, dengys data CyngACC ar gyfer 2009-10 fod canran y myfyrwyr a gafodd swyddi fel athrawon yng Nghymru yn 2009-10 yn 60%.  Roedd hyn yn uwch na’r ffigur cyfartalog yng Nghymru yn ystod yr un flwyddyn, sef 52%.

Os cewch wahoddiad i gyfweliad, bydd gofyn ichi sefyll profion 30 munud mewn Llythrennedd Saesneg a Rhifedd ac os dewiswch astudio’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg, prawf Llythrennedd Cymraeg ychwanegol. Mae’n bosibl hefyd y gofynnir ichi wneud y canlynol: cyflwyniad yn gysylltiedig â’ch maes pwnc, trafodaeth grŵp, ymarfer ysgrifennu estynedig, cyfweliad ffurfiol gyda thiwtor pwnc a mentor ysgol.

Bydd angen ichi ddangos diddordeb angerddol a brwdfrydedd am eich pwnc.