Cydymffurfiaeth a Risg
Croeso i adran cydymffurfiaeth a risg y Gwasanaethau Corfforaethol.
Mae prif gyfrifoldebau’r swyddogaeth yn cynnwys y canlynol:
- Darparu canllawiau cyfreithiol cychwynnol i staff mewnol y mae angen iddynt greu cytundebau cyfreithiol, a
- Materion yn ymwneud â Risg, Parhad Busnes, y Comisiwn Elusennau, cydymffurfio â Thŷ’r Cwmnïau;
- Sicrhau cydymffurfio â gofynion trwyddedu (nid yw hyn yn cynnwys trwyddedu meddalwedd TG);
- Cydymffurfio â’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2005 a’r Ddeddf Diogelu Data 1998, yn cynnwys llunio a chynnal Cynllun Cyhoeddi’r Brifysgol; gweithdrefnau Rheoli Cofnodion, llunio Amserlen Cadw Cofnodion y Brifysgol, canllawiau a pholisïau;
- Rheoli Archif Prifysgol Fetropolitan Abertawe a gedwir ar Gampws Abertawe.
Mae’r swyddogaeth hon dan arweiniad Paul Osbourne (anfonwch e-bost at Paul neu cysylltwch ag ef ar Abertawe 4180). Mae Paul yn arwain ar ganllawiau cyfreithiol cychwynnol a chreu cytundebau cyfreithiol, rhyddid gwybodaeth, diogelu data a chynllun cyhoeddi’r Brifysgol.