Caplaniaeth Llambed

 

Gewch chi gyfeirio ymholiadau at Mrs Anne Milcoy a.milcoy@tsd.ac.uk 01570 424704 yn y lle cyntaf os gwelwch yn dda.

Dydd Sul

11am: Cymundeb y Coleg: Cymundeb y Coleg yw rhan ganolog addoli’r Capel, pan ddaw staff, myfyrwyr a phobl y dref at ei gilydd. Mae’r Cymundeb yn dilyn defod gyfoes yr Eglwys yng Nghymru. Bob tymor gwahoddir pregethwr gwadd o’r Brifysgol neu tu hwnt. Arweinir yr addoli corawl gan gôr y Brifysgol, sydd hefyd yn canu anthem.

6.30pm: Gwasanaeth Taizé

Gwasanaethau Canol Wythnos

Yn ystod yr wythnos cynhelir amrywiol wasanaethau. Dywedir Gweddi Foreol a Hwyrol yn ddyddiol am 9am a 5pm, ac eithrio ar ddyddiau Mercher a Gwener. Ar Ddydd Mercher am 5.00 pm cynhelir Cymun Bendigaid ble y mae’r Weinidogaeth Iachau ar gael i unrhyw un allai fod ei eisiau. Mae’r Gaplaniaeth yn Gabidwl Urdd Iachau Sant Luc. Mae’r Gaplaniaeth yn cynnwys dimensiwn eciwmenaidd deinamig i’w addoli. Mae’r gwasanaethau yn gyson yn denu myfyrwyr sy’n Fethodistiaid, Catholigion Rhufeinig ac URC yn ogystal ag Anglicaniaid.

Mae cymuned y Capel hefyd yn cyfarfod yn rheolaidd ond yn anffurfiol trwy gydol y tymor. Caiff sawl cyfeillgarwch cryf eu meithrin trwy’r Capel, all barhau trwy gydol eich cyfnod yma a thu hwnt.

Pererindod Tyddewi

Fe fydd Pererindod Caplaniaeth Llambed at Dyddewi ar Ddydd Sadwrn 16 Mawrth

Mae’r Côr yn canu bob wythnos yng Nghymundeb y Coleg ar fore Sul a hefyd yn ystod y prif ‘ddyddiau gŵyl’ yn ystod y tymor, fel Hwyrol Weddi Diwrnod y Sylfaenwyr a Dydd Gŵyl Ddewi a gwasanaeth blynyddol Naw Llith a Charol.

Yn unol â llawer o gorau eglwysi a cholegau Anglicanaidd, nid yw meddu ar y Ffydd Gristnogol yn rhag-amod ar gyfer ymuno. Mae aelodau’r côr yn cynnwys pobl a chanddynt amrywiol gredoau crefyddol a dim cred o gwbl.

Cysegrwyd y Capel gan yr Esgob Jenkinson o Dŷ Ddewi ar 23 Awst 1827, bron chwe mis ers i’r myfyrwyr cyntaf gael eu derbyn i Goleg Dewi Sant. Cynhaliwyd gwasanaethau dyddiol o’r cychwyn, yr oedd yr holl staff a myfyrwyr yn eu mynychu. Roeddent yn cynnwys ffurfiau byrrach o Weddi Foreol a Hwyrol ar ddyddiau’r wythnos a gwasanaethau llawn Gweddi Foreol a Hwyrol ar y Sul. Dathlwyd Cymun Bendigaid unwaith y mis, sef y drefn arferol yn y cyfnod hwn. Roedd tua hanner y gwasanaethau yn Saesneg a hanner yn Gymraeg. Cafodd y paentiad sydd i’w weld erbyn hyn yn Ale’r Ymwelwyr, copi o’r Teulu Bendigaid gan Correggio, y mae’r gwreiddiol ohono yn Parma, ei osod yn wreiddiol y tu cefn i’r allor. Trwy gydol esgobaeth yr Esgob Jenkinson, ac am gyfnod helaeth o deyrnasiad ei olynydd, Connop Thirlwall, y Capel oedd y lleoliad arferol ar gyfer ordeiniadau yn esgobaeth Tŷ Ddewi. Y Capel oedd un o’r addoldai Anglicanaidd cyntaf yng Nghymru i gyflwyno dathliad wythnosol o’r Cymun Bendigaid, a hynny yn yr 1870au.

Er mwyn dathlu jiwbilî aur Coleg Dewi Sant yn 1877 penderfynwyd ail-adeiladu’r Capel oedd erbyn hynny’n cael ei ystyried yn annigonol. Cynlluniwyd y Capel newydd gan T G Jackson a daeth y gwaith pren ar gyfer y seddi bwaog o’r Coleg Newydd, Rhydychen. Nid oedd ei gynlluniau’n cynnwys unrhyw ddarpariaeth ar gyfer pulpud ond roedd un wedi cael ei osod erbyn 1901. Gwaith Jackson yw’r nenfwd paentiedig ond ni chafodd y sgrin y bwriedid ei rhoi rhwng prif gorff y Capel ac Ale’r Ymwelwyr fyth ei gosod. Cysegrwyd y Capel newydd ar 24 Mehefin 1880, a’r pregethwr yn y seremoni hon oedd yr Esgob Ollivant o Landaf, a oedd, fel Prifathro cyntaf Coleg Dewi Sant, wedi pregethu adeg cysegru’r Capel gwreiddiol 53 mlynedd ynghynt.

Yn 1879 gorchmynnodd yr Esgob Basil Jones o Dŷ Ddewi fod rhaid cael gwared â’r ffurfiau byrrach o Weddi Foreol a Hwyrol a ddefnyddid ar ddyddiau’r wythnos a defnyddio gwasanaethau llawn bob dydd, i’w cymryd yn eu tro gan aelodau’r staff mewn urddau eglwysig, ac y dylid lleihau nifer y gwasanaethau Cymraeg. Yn yr 1880au cynhelid Gweddi Foreol a Hwyrol ar ddyddiau’r wythnos am 8am a 5.30pm, ond ar Ddydd Gwener yn unig y byddai’r Gosber yn Gymraeg. Gwasanaethau’r Sul oedd y Cymun Bendigaid am 8.30am, Mattins Corawl am 11am, gyda Chymundeb ar Gân ar Sul cyntaf y mis, a’r Gosber am 7pm. Cyflwynwyd anthemau rheolaidd ar y Sul gan y cantor newydd, Edmund Tyrrell Green, yn 1895. Sefydlodd Green hefyd Urdd Dewi Sant ar gyfer datblygiad ysbrydol staff a myfyrwyr.

Yn 1906 comisiynwyd W D Caröe i gynllunio Capel newydd ond ni chafodd y cynllun fyth ei weithredu. Fodd bynnag, cafodd yr organ ei hadnewyddu, am gost o £200, yn 1908. Cyflwynwyd dathliad o’r Cymun Bendigaid yn ystod yr wythnos, ar Ddydd Mercher, yn 1914 a dathliad dyddiol yn 1925. Gwisgwyd urddau eglwysig ewcharistaidd am y tro cyntaf yn 1933 ac fe’u gwnaed yn orfodol mewn Cymundebau ar Gân, ond nid mewn dathliadau geiriol, yn 1934. Yn 1935 newidiwyd patrwm gwasanaethau’r Sul i Gymun Bendigaid am 8am, Mattins Corawl am 10am, Pregeth am 10.30am, Cymundeb ar Gân am 11am a’r Gosber am 6.30pm. Roedd disgwyl i staff a myfyrwyr fynychu naill ai Mattins a Phregeth neu Bregeth a Chymundeb ar Gân ar foreau Sul.

Dadorchuddiwyd carreg goffa i’r rhyfel, gan W D Caröe, yn 1922. Cyflwynwyd pulpud newydd, oedd hefyd wedi’i gynllunio gan Caröe, yn 1928 ac fe gysegrwyd reredos newydd yn 1934. Gwnaed gwaith atgyweirio i’r organ hefyd yn 1934 ac yn 1936 rhoddwyd blaen cerfiedig newydd i fwrdd yr allor. Cyfanswm cost yr holl welliannau hyn oedd bron i £1400. Er hynny, roedd y Capel yn dal i gael ei ystyried yn annigonol ar gyfer anghenion y coleg ac awgrymwyd Capel newydd gan y Prifathro Archdall yn 1939. Cyfrannodd yr Esgob Prosser o Dŷ Ddewi £1000 tuag at y Capel newydd yn 1943 ac fe gomisiynwyd Ben Roderick o Aberdâr i baratoi cynlluniau ar ei gyfer, neuadd ddiwinyddol a dau adeilad proffeswrol newydd, a fyddai wedi llenwi’r llecyn agored rhwng Adeiladau Dewi Sant a Chaergaint. Roedd Capel newydd yn dal yn rhan o’r cynlluniau ar gyfer adeiladau newydd yn 1948 ond ni ddaeth dim fyth ohonynt.

Hyd at 1975 pan ymddeolodd y Prifathro olaf mewn urddau eglwysig, J R Lloyd Thomas, roedd y Prifathro yn gyfrifol am y Capel a’i wasanaethau. Wedi hynny penodwyd caplan llawn-amser. Yn 2005-6 gwnaed cryn waith ail-drefnu ar y Capel i’w wneud yn lleoliad mwy addas ar gyfer litwrgi ewcharistaidd newydd yr Eglwys yng Nghymru. Tynnwyd y pulpud allan ac fe osodwyd bwrdd allor a darllenfa newydd. Ar yr un pryd tynnwyd allan y rhan fwyaf o’r seddi yn Ale’r Ymwelwyr ac yn eu lle gosodwyd cadeiriau y gellid eu defnyddio mewn ffordd fwy hyblyg ar gyfer gwasanaethau llai neu gyfarfodydd o gynulleidfa’r Capel. Mae’r Capel yn dal i gynnal y cylch dyddiol o wasanaethau yn ystod yr wythnos yn ystod y tymor, patrwm fu’n ddi-dor ers 1827, a Chymundeb ar Gân bob Dydd Sul a’r prif wyliau trwy gydol y flwyddyn.

Mae’r gymdeithas ar hyn o bryd wedi’i atal dros dro, ond os yw’r wybodaeth sy’n dilyn o ddiddordeb neu ddefnydd i chi croeso i chi ei ddefnyddio yn y modd mwyaf pwrpasol i chi.

Mae Cymdeithas Dewi Sant yn un o gymdeithasau hynaf y Brifysgol. Gall olrhain ei gwreiddiau yn ôl i 1910, pan y’i gelwid y Gymdeithas Gatholig. Sefydlwyd y gymdeithas pan ddaeth nifer fawr o ddynion (bryd hynny dynion yn unig a dderbynnid i’r coleg) catholig eu ffydd o dan reol bywyd yn seiliedig ar dri amcan: dyfnhau’r bywyd ysbrydol; meithrin ymdeimlad o gymdeithas a meithrin ymdeimlad uchel o alwad i’r Weinidogaeth Sanctaidd. Mae’r amcanion hyn i’w gweld o hyd yng ngwaith y capel heddiw, sy’n canolbwyntio’n fawr ar ddatblygu’r bywyd ysbrydol, sy’n fan cychwyn ar gyfer datblygu ymdeimlad o gymdeithas. Mae’r capel yn dal yn lle gwerthfawr ar gyfer meithrin myfyrwyr a alwyd i’r weinidogaeth ac o’r herwydd caiff sawl galwad bob blwyddyn.

O’r cychwyn bu’r Gymdeithas Gatholig (a ddaeth i gael ei galw’n ddiweddarach yn Gymdeithas Dewi Sant) yn canolbwyntio ar ddyfnhau a rhannu’r bywyd ysbrydol. Roedd y prif gyfarfodydd (a gynhelid ar nosweithiau Sul) yn cynnwys trafodaethau ar bynciau o bob math. Er enghraifft, yn y blynyddoedd cynnar cafwyd papurau a thrafodaethau ar y Litwrgi Delfrydol, Bywyd Personol yr Offeiriad, Diwygiadau Seremonïol ac Eglwysig; y cyfan yn arwydd o ba mor ddifrifol yr ystyriwyd y bywyd crefyddol. Canolbwyntiai’r gymdeithas ar fyw a dyfnhau’r bywyd ysbrydol. Roedd staff a myfyrwyr yn chwarae rhan amlwg yn hyn trwy gymryd rhan mewn trafodaethau, cyflwyno papurau a chefnogi’r gymdeithas yn ariannol.

Am flynyddoedd lawer Cymdeithas Dewi Sant oedd cymdeithas Eingl-Gatholig y brifysgol, ac fe gadwyd cysylltiadau agos gyda’r capel trwy ei hofferennau wythnosol a’i huchel offerennau achlysurol trwy gydol y flwyddyn. Un o gefnogwyr amlycaf a mwyaf brwd y gymdeithas oedd y Parch W H Harris. Defnyddir cwpan a phlât a roddwyd er cof am y Tad Harris yn y capel.

Un o draddodiadau cynnar eraill y gymdeithas oedd y bererindod flynyddol i Eglwys Gadeiriol Tŷ Ddewi. Roedd hon eisoes yn rhan annatod o’r gymdeithas yn 1928. Nid oedd yr ymdrechion i gadw’r bererindod yn achlysur difrifol ac ysbrydol wastad yn hawdd, gan fod llawer yn chwilio am unrhyw esgus i gael diwrnod o Lambed a chyfle i ymweld â’r gwahanol dafarnau yn Nhŷ Ddewi, yn hytrach na phererindod ysbrydol. (Mae’r bererindod flynyddol yn parhau hyd y dydd heddiw ac mae’n cynnwys cymysgedd o’r ddwy elfen, yn ddigon tebyg mae’n siŵr i’r sefyllfa bryd hynny!)

Rheol Bywyd

Apeliaf i chwi, frodyr a chwiorydd, trwy drugaredd Duw, i gyflwyno eich cyrff yn offrwm byw, yn sanctaidd a derbyniol i Dduw, sef eich addoliad ysbrydol. Peidiwch cael eich clymu i’r byd hwn, a thrawsnewidiwch eich hunain trwy adfywio eich meddyliau, fel y gallwch ddirnad ewyllys Duw – yr hyn sy’n dda a derbyniol a pherffaith. Peidiwch meddwl yn uwch o’ch hunain nac y dylech, ond meddyliwch gyda barn ddifrifol, pob un yn unol â’r mesur o ffydd a briodolwyd gan Dduw. Oherwydd fel mewn un corff y mae gennym sawl aelod ac nad oes gan bob aelod yr un swyddogaeth, felly hefyd yr ydym ninnau, sydd lawer, yn un corff yng Nghrist, ac yn unigol rydym yn aelodau o’n gilydd. Mae gennym ddoniau sy’n wahanol yn ôl y gras a roddwyd inni: proffwydoliaeth yn gymesur â ffydd; gweinidogaeth, wrth weinidogaethu; yr athro, wrth addysgu; y cymhellwr, wrth gymell; y rhoddwr, mewn haelioni; yr arweinydd, mewn diwydrwydd; y tosturiol, mewn sirioldeb.

Gadewch i gariad fod yn ddiffuant; casewch yr hyn sydd ddrwg, cydiwch yn yr hyn sydd dda; cerwch eich gilydd gydag anwyldeb y naill at y llall; rhagorwch ar eich gilydd wrth ddangos anrhydedd. Peidiwch bod yn brin o eiddgarwch, byddwch selog eich ysbryd, gwasanaethwch yr Arglwydd. Llawenhewch mewn gobaith, byddwch amyneddgar mewn dioddefaint, dyfalbarhewch mewn gweddi. Cyfrannwch at anghenion y tlawd; rhoddwch letygarwch i ddieithriaid.

Bendithiwch y sawl a’ch erlidia; bendithiwch ac na felltithiwch hwy. Llawenhewch gyda’r sawl sy’n llawenhau, wylwch gyda’r sawl sy’n wylo. Byddwch mewn harmoni â’ch gilydd; na fyddwch falch, cymdeithaswch yn hytrach â’r gostyngedig; peidiwch honni eich bod yn ddoethach nac yr ydych. Peidiwch ad-dalu unrhyw un ddrygioni am ddrygioni, a chwiliwch am yr hyn sydd anrhydeddus yng ngolwg pawb.

Os oes modd, i’r graddau y mae hynny’n dibynnu arnoch chi, ceisiwch fyw’n heddychlon gyda phawb. A chwithau’n garedig, peidiwch byth â dial arnoch chi’ch hun. Os yw eich gelynion yn newynnog, bwydwch nhw; os ydynt yn sychedig, rhowch iddynt rywbeth i’w yfed.

Peidiwch goresgyn trwy ddrygioni, yn hytrach trechwch ddrygioni gyda daioni.

Addaswyd o lythyr Sant Paul i’r Rhufeiniaid Pennod 12

Datganiad Cenhadaeth

Mae Capel y Brifysgol yn ceisio bod yn wir dyst i Grist, ei Eglwys a’i Efengyl, yn amgylchedd y brifysgol. Ceisia wasanaethu holl aelodau’r brifysgol gyda’r urddas a’r trugaredd sy’n ofynnol gan yr Efengyl, a bod yn ffynhonnell undod a ffocws ar gyfer y campws cyfan. Mae’n lle o weddi ac o adfywiad ysbrydol a chynigia le ble y gall holl aelodau’r gymuned ganfod lloches a heddwch.

‘Frodyr a chwiorydd byddwch lawen, a chadwch eich ffydd a’ch cred, a gwnewch y pethau bychain a glywsoch ac a welsoch ynof i.’ Dewi Sant

Gweddi Cymdeithas Dewi Sant

Gweddiwn o Arglwydd y byddi’n arwain a llywodraethu gwaith Prifysgol Dewi Sant.
Arllwysa dy ysbryd ar y sawl sy’n addysgu yma.
Caniatâ i fyfyrwyr ddod o hyd i gartref yma a sancteiddiwyd gan awydd am Dduw a chariad at ddysg; y deuant i’th wasanaethu di gyda’u holl galonnau, gyda’u heneidiau, a chyda’u holl feddyliau.
Gweddiwn hefyd dros gyn fyfyrwyr, y caiff eu doniau a’u talentau eu galluogi yn eu hamrywiol alwedigaethau i’th wasanaethu di’n gywir a diwyd, er gogoniant dy enw, ac er lles dy Eglwys sanctaidd, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Amen.