Y Gweithle Dwyieithog

Fy argraff gyntaf i o weithio gyda phrosiect Tîm GWLAD (Tyfu Gweithluoedd drwy Ddysgu a Datblygu), o dan arweiniad Athrofa Dysgu Seiliedig ar Waith Prifysgol Cymru (WIWBL), oedd fy mod i wedi ymuno â thîm o bobl hynod amrywiol ac roedd yr amgylchedd gwaith dwyieithog wedi fy nharo i’n syth.

Roedd llawer, ond nid pob un, o fy nghydweithwyr newydd yn siaradwyr Cymraeg, yn enwedig yr aelodau iau, a fyddai’n sgwrsio’n ddigon naturiol drwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd gan y siaradwyr di-Gymraeg ddyhead calonogol i ddysgu a bachwyd ar y cyfle i gael sesiynau ‘Sgwrsio yn y Gymraeg’ yn ystod amser cinio.

Fe wnaeth y fath frwdfrydedd fy sbarduno i i gael sgwrs am bwysigrwydd gwarchod iaith gyda chydweithiwr a oedd wedi ymuno â’r tîm o Kenya ac a oedd yn rhugl mewn Kiswahili a Kibukusu, dwy allan o’r tri deg chwech o ieithoedd yn Kenya. Llwyddodd i grynhoi fy meddyliau’n syth: “Mae dy iaith yn rhan o dy hunaniaeth di. Mae’n crisialu ffordd o fyw nad oes posib ei chyfieithu. Wrth golli iaith, rydyn ni’n colli ffyrdd o fynegi a fydd yn diflannu i ddynoliaeth am byth.”

Esboniodd aelod arall o’r tîm, yn wreiddiol o Vermont yng ngogledd ddwyrain yr UDA ac sy’n siarad Ffrangeg ac iaith Krio Sierra Leone, ei rhesymau dros fod eisiau dysgu’r Gymraeg – “Os yw’ch ffrindiau a’ch teulu chi’n siarad iaith wahanol, bydd dysgu’r iaith nid yn unig yn eich helpu chi i gyfathrebu ond bydd hefyd yn eich helpu chi i sicrhau gwell dealltwriaeth o’u diwylliant a’u ffordd o feddwl. Ar ôl priodi dyn lleol o Waun-Cae-Gurwen, mae’r teimlad yma o berthyn yn bwysig i mi.”

Mae hyn yn wir hefyd ym myd busnes. Mae pobl yn teimlo’n fwy cyfforddus wrth siarad eu hiaith eu hunain, felly pan fyddwch chi’n dechrau trafod, rydych chi’n dechrau ar sail gadarnhaol. Gall sgiliau cyfathrebu da sicrhau eich bod yn deall anghenion cwsmeriaid yn dda, ac felly darparu gwasaneth mwy effeithiol.

Mae dwyieithrwydd yn eang dros ben. Mae’n norm, nid eithriad, a rhaid i ni gofio hyn. Mae tua 60% i 65% o boblogaeth y byd yn siarad dwy iaith o leiaf yn eu bywyd bob dydd. Rydym yn rhan o gymdeithas ddiddorol, hyfyw a lliwgar yn ieithyddol, ond rhaid i ni fod yn ymwybodol mai dim ond nifer cyfyngedig o ieithoedd y mae disgwyl iddynt oroesi dros y canrifoedd nesaf. Y newyddion da i Gymru yw bod darogan y bydd y Gymraeg yn un o’r rhain.

Mae llawer o’r ohebiaeth electronig rydw i’n ei derbyn o ddydd i ddydd naill ai drwy Gyfrwng y Gymraeg neu o leiaf yn ddwyieithog. Mae’r defnydd cynyddol o’r Gymraeg yn y gweithle’n profi bod yr iaith yn fyw ac yn parhau i esblygu yn yr 21ain Ganrif. Bydd yr esblygiad hwn yn sicrhau na fydd y Gymraeg yn dod yn iaith hudolus, hardd a ddefnyddir ar gyfer rhannu ein llenyddiaeth, ein celfyddydau, ein gwyliau a’n traddodiad mawr o ganu yn unig, heb gael ei defnyddio fel arall yn ymarferol. Yn hytrach bydd yn iaith fyw, ymarferol sy’n addas ar gyfer gweithredu’n effeithiol yn y Gymru fodern iawn sydd ohonni.

Mae dwyieithrwydd ei hun yn bwnc hynod ddiddorol ac yn un o sawl modiwl a gynigir o dan brosiect GWLAD, sydd wedi cael cefnogaeth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy gyfrwng Llywodraeth Cymru. Mae’r prosiect ar hyn o bryd yn cynnig cymhorthdal o rhwng 50% a 70% ac mae ar gael i bob busnes neu sefydliad dielw ledled De Orllewin Cymru. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â thîm GWLAD ar 01267 225167 neu ar e-bost gwlad@pcydds.ac.uk.