Mae Canolfan Arloesi Adeiladu Cymru (CWIC) yn ganolfan hyfforddi unigryw ar gyfer Cymru gyfan a ariennir gan y CITB gyda'i ganolbwynt yn ffurfio rhan o’r Ardal Arloesi Glannau Abertawe newydd yn SA1.
Gan ddefnyddio model 'prif ganolfan a lloerennau' (hub and spokes) mae ei bartneriaid neu loerennau yn cynnwys Coleg y Cymoedd, Coleg Cambria, Coleg Ceredigion, Coleg Sir Gâr a'r Sefydliad Ymchwil Adeiladu.
Ers mis Medi 2016 maen nhw, ynghyd â Phrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant, wedi bod yn darparu hyfforddiant pwrpasol ac arbenigol i bob sector a lefel o fewn y diwydiant adeiladu yng Nghymru, gan gynnwys ei gadwyn gyflenwi. Dilynwch y ddolen yma i weld pa fathau o hyfforddiant sydd wedi cael eu ddarparu yn barod.
Mae hyfforddiant yn rhad ac am ddim i unigolion a chwmnïau cymwys ac mae'n cael ei arwain gan alw y diwydiant. Bydd y rhaglen hyfforddi unigryw hon yn cael ei chyflwyno tan ddiwedd mis Awst 2019.