Benthyca adnoddau
Benthyca adnoddau
Mae llawer o’n hadnoddau ar gael ar gyfer y cyfnod benthyg safonol a nodir isod. Mae cyfnod benthyg byrrach gan rai o’n hadnoddau mwyaf poblogaidd er mwyn sicrhau eu bod ar gael ar yr adegau prysuraf. Nodir hyn gan label ar y meingefn ar gampysau Abertawe, neu label lliw ar gampysau Caerfyrddin a Llambed.
Benthyciad safonol
Israddedigion | 3 wythnos | |
Ôl-raddedigion a addysgir | 3 wythnos | |
Ôl-raddedigion dysgu o bell | 6 wythnos | |
Ôl-raddedigion ymchwil | 6 wythnos | |
Staff y Brifysgol | 6 wythnos | |
SCONUL Access | 3 wythnos | |
Pasbort Llyfrgelloedd Ynghyd | 3 wythnos |
Cyfnodau benthyg arbennig
Sylwer nad yw eitemau benthyciad arbennig ar gael i’w benthyg gan aelodau SCONUL Access a Phasbort Llyfrgelloedd Ynghyd.
Benthyciad cyfyngedig hir / Band coch | 1 wythnos | |
Benthyciad cyfyngedig byr / Band gwyrdd | 2 ddiwrnod | |
Benthyciad byr / Band melyn | Dros nos | |
Benthyciad cyfeiriol / Band glas | Cyfeiriol: i’w ddefnyddio yn y llyfrgell yn unig, nid i’w fenthyg | |
Cylchgronau | Cyfeiriol: i’w ddefnyddio yn y llyfrgell yn unig, nid i’w fenthyg | |
Ymarfer Dysgu | 6 wythnos | |
Gliniaduron ac offer cyfrifiadurol | 1 wythnos |
Faint o eitemau gallaf eu benthyg?
Isod dangosir uchafswm yr adnoddau gallwch eu benthyg ar unrhyw adeg:
Israddedigion | 15 | |
Ôl-raddedigion ac Ymchwilwyr | 20 | |
Staff y Brifysgol | 30 | |
SCONUL Access | 5 | |
Pasbort Llyfrgelloedd Ynghyd | 5 |
Dod o hyd i adnoddau
Y ffordd hawsaf i ddod o hyd i adnoddau yw trwy ddefnyddio ein catalog. Pan fyddwch wedi darganfod eitem sydd o ddiddordeb ichi, mae angen ichi nodi’i lleoliad a’i rhif dosbarth. Mae ein llyfrgelloedd yn defnyddio System Ddegol Dewey, ond sylwer gall fod lleoliadau ar wahân ar gyfer casgliadau arbennig ar rai campysau.
Hunanwasanaeth
Mae peiriannau hunanwasanaeth ar gael a fydd yn caniatáu ichi fenthyg a dychwelyd eitemau, a thalu costau gan ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd. Pan fyddwch wedi dewis yr eitemau rydych am eu benthyg, ewch â nhw a’ch cerdyn i’r peiriant hunanwasanaeth, lle cewch dderbynneb sy’n dangos y dyddiad dychwelyd.
Benthyg drwy’r post
Mae’n bosibl y bydd dysgwyr o bell yn gymwys i ddefnyddio ein gwasanaeth benthyg drwy’r post. Cysylltwch ag outreach@pcydds.ac.uk am fanylion pellach.
Sylwer bod y gwasanaeth hwn ar gael i’r myfyrwyr hynny sydd wedi’u cofrestru fel Dysgwyr o Bell ac sy’n astudio drwy gampws Llambed yn unig.
Beth os na allaf ddod o hyd iddo?
Os nad yw ein llyfrgelloedd yn cadw’r deunydd sydd ei angen arnoch, gallwch wneud cais am Fenthyciad Rhyng-lyfrgellol. Mae hyn yn ein galluogi i ofyn am y deunydd sydd ei angen arnoch gan lyfrgell arall.
Hefyd gallwn archebu rhai llyfrau sydd mewn print ar gais, os byddant hefyd yn berthnasol i fyfyrwyr eraill. I wneud hyn, edrychwch ar ein ffurflen Awgrymu Adnodd (Saesneg yn unig).
Mae hefyd yn bosibl i lawer o fyfyrwyr a staff PCYDDS fanteisio ar gynlluniau benthyg er mwyn ymuno â gwasanaethau llyfrgell eraill ar draws y DU. Ewch i’n tudalen Defnyddio Llyfrgelloedd Eraill i gael manylion pellach.
Cwblhau ac ymestyn eich astudiaethau
Bydd gofyn ichi ddychwelyd yr holl eitemau sydd gennych ar fenthyg a thalu unrhyw ddyledion cyn ichi raddio.
Os cewch estyniad, rhaid bod hwnnw wedi'i gadarnhau'n swyddogol a'i gofnodi gan y Gofrestrfa cyn bydd modd ymestyn eich mynediad i'r llyfrgell hefyd.