Cynnwys Cyfrol 3 Rhif 1


Ymaddasu i Newid: Y Myfyriwr Ymchwil, Addysg Uwch a’r Byd y Tu Allan / Josh Caulton and Ruth Marston


Addysg Chwaraeon: ffordd o ddiwallu pob angen mewn addysg gorfforol? / Victoria Montgomery

Crynodeb
Am fod addysg gorfforol yn rhan orfodol o’r cwricwlwm, dadleuwyd nad yw myfyrwyr yn cael yr effeithiau llawn a bod ganddynt syniad cyfyngedig o chwaraeon. Yn y papur hwn rhoddir sylw i Fodel Addysg Sidentop (1994) fel ffurf ar addysgu addysg gorfforol. Nod y model hwn yw caniatáu i’r disgyblion gael ystod o roliau a datblygu’n gorfforol ac yn feddyliol oddi mewn i addysg gorfforol. Euthum ati’n bersonol i roi’r model hwn ar waith, ac adfyfyrirar ar fy mhrofiad a’i gofnodi yn y papur hwn gan nodi nid yn unig y cryfderau a’r gwendidau, ond hefyd fy syniadau a’m barn ynghylch pam y gallai athrawon ddefnyddio’r Model Addysg Chwaraeon yn amlach i fodloni’r ystod eang o nodau yn y cwricwlwm cenedlaethol ar gyfer addysg gorfforol yng Nghymru. 

Teulu hapus o’r hen Aifft? Cerfluniau bach efydd o Osiris, Horus, ac Isis (Castell Cyfarthfa, Merthyr Tudful: 1697.004, 1705.004, 1699.004) / Karen Elliot

Crynodeb
Mae’r erthygl hon yn rhoi manylion dadansoddiad ymchwil gwreiddiol i dri cherflun bach efydd o’r Hen Aifft nad ymchwiliwyd udd iddynt o’r blaen. Cerfluniau ydynt o Osiris, Horus, ac Isis, a ddarganfuwyd yng Nghastell Cyfarthfa, Merthyr Tudful yn 2011. Mae’r papur yn archwilio ac yn nodi o beth maent wedi’i wneud, beth maent yn ei ddarlunio, eu hansawdd a’u trefniant. Yna mae’r erthygl yn mynd ati i gydberthnasu’r dystiolaeth i gasglu o ble y gallent fod wedi dod a pham y cred yr awdur nad oedd y tri gwrthrych hwn yn perthyn i’w gilydd yn wreiddiol. Felly mae stori’r cerfluniau bach hyn yn ymwneud nid yn unig â diwylliant yr hen Aifft ond hefyd ag arferion yr Aifft fodern yn ogystal. 

Ana Mendieta, Olion Bywyd / Kathy Evans

Crynodeb
Yn y papur hwn ymchwilir i waith Ana Mendieta, artist Americanaidd o Giwba sydd fwyaf enwog am ei chelfyddyd ‘corff daear’. Ar ddechrau’r papur amlinellir fy ngwaith fy hun; dylanwad Ana ar fy mynegiant artistig ac wrth fynd ymlaen byddaf yn tynnu sylw at y mannau hynny lle teimlaf fod ein gwaith yn gorgyffwrdd. Yn dilyn adroddiad byr o flynyddoedd cynnar Mendieta ceir trosolwg cronolegol sy’n olrhain ei gyrfa artistig, gan ganolbwyntio’n benodol ar ei gweithiau mwyaf diddorol ac amlycaf i mi ym meysydd defodaeth a hunaniaeth fenywaidd, gan gynnwys ‘Golygfa Treisio’ a’i ‘Cherfluniau Rupestriaidd’. Â’r papur yn ei flaen i drafod ei perthynas â’r cerflunydd Americanaidd minimalaidd a’r bardd Carl Andre, cyn i mi drafod ei marwolaeth ddadleuol maes o law. I gloi ystyriaf y modd y mae gwaith Mendieta wedi dylanwadu ar fy mynegiant artistig a’m gwaith cyfredol fy hun.
 

‘Mae Gwerth Menyw’n Fwy Na Maint Ei Bra’: Portreadau o Rywioli Menywod ac Is-ddiwylliannau mewn Cylchgronau o Ddiddordeb Penodol / Ainsley Victoria Jones

Crynodeb
Mae’r papur hwn yn canolbwyntio ar y modd o gynrychioli portreadau amgen a rhywioli: grymuso neu ecsbloetio o fewn cylchgrawn yn ymwneud â tatws a allai fod yn gyhoeddiad neo-ffeministaidd. Casglwyd y data o’r cylchgrawn ‘Total Tattoo’ ac fe’u dadansoddwyd drwy ddefnyddio dull dadansoddi cynnwys gweledol. Archwiliwyd y canlyniadau’n thematig gan ganolbwyntio ar ddau brif gwestiwn ymchwil: • Sut y portreadir menywod mewn ffotograffau mewn cylchgrawn am datws? • Sut y portreadir menywod mewn tatws ar bobl mewn cylchgrawn am datws? Prif ganfyddiadau’r ymchwil yw bod gwaith Goffman (1976) ar ‘or-ddefodoli a’r dimensiynau a nododd yn dal yn berthnasol yn y gymdeithas sydd ohoni. Fel y dengys y papur hwn, mae graddfa fawr o rywioli a gwrthrychioli menywod o fewn y lluniau a ddadansoddwyd mewn cylchgrawn am datws er gwaethaf natur neo-ffeministaidd y cylchgrawn. Er gwaethaf natur neo-ffeministaidd y cylchgrawn penodol hwn, dengys y sampl o luniau a ddadansoddwyd fod menywod yn cael eu ‘benyweiddio’ a’u portreadu mewn dulliau y gellir eu diffinio fel rhai wedi’u rhywioli. Mae hyn yn awgrymu bod rolau’r rhywiau a’r stereoteipiau a gysylltir â menywod a benyweidd-dra’n hollbresennol o fewn is-ddiwylliannau, yn ychwanegol at y modd y maent wedi’u hymgorffori o fewn barnau cymdeithasol prif ffrwd. 

Cronfeydd Data Corfforaethol ac yn y Sector Cyhoeddus a’u Heffaith ar Breifatrwydd a Diogelwch / Jim Proffitt

Crynodeb
Yn sgil y chwyldro digidol, mae mwy o wybodaeth nag erioed o’r blaen am eu cleientiaid, eu cwsmeriaid neu’u deiliaid ar gael i sefydliadau a chyrff cyhoeddus. Wrth iddi fynd yn haws trafod y wybodaeth hon o’r herwydd, cynyddu hefyd a wnaeth y pryderon diogelwch a phreifatrwydd ynghylch y data a’r wybodaeth y gallant ddod o hyd iddynt. Yn y papur hwn edrychir ar dystiolaeth academaidd, broffesiynol ac anecdotaidd o lu o ffynonellau er mwyn dadansoddi’r pryderon hyn, ac er mwyn cael cipolwg ar y dulliau a ddefnyddiwyd i’w lleddfu. Er mwyn gwneud hyn, eir ati i drafod yn fanwl y polisïau, yr arferion, y systemau a’r cwestiynau cyfreithiol sy’n gysylltiedig â phreifatrwydd a diogelu data personol, gan ddefnyddio gwybodaeth sydd ar gael gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sefydliadau bach a mawr ac awdurdodau cyhoeddus. Cymharir a chyferbynnir y rhain, ac esbonnir y gwahaniaethau rhyngddynt o ran gwahanol ofynion data sefydliadau a chyrff, a’r adnoddau penodol y gallant eu neilltuo ar gyfer diogelu data. 

Y Cwricwlwm Cymreig: Angenrheidiol i ddiogelu diwylliant cenedl falch ynteu amherthnasol mewn cymdeithas gynyddol ryngwladol? / Scott Tuppen

Crynodeb
Cyflwynwyd Y Cwricwlwm Cymreig (YCC o hyn allan) yn bennaf er mwyn sicrhau dimensiwn Cymreig i’r cwricwlwm cenedlaethol fel y’i gelwid maes o law. Nod YCC oedd cyflwyno elfen benodol Gymreig i’r cwricwlwm ar lefel gynradd ac uwchradd. Yn ôl YCC, diffiniwyd mai rôl addysgwyr oedd helpu’r myfyrwyr i ddiffinio’u hymdeimlad eu hun o Gymreictod. Yn y papur hwn holir a yw YCC yn berthnasol yn ystafelloedd dosbarth heddiw, neu a oes angen datblygu cwricwlwm byd-eang ei orwelion i adlewyrchu cyfansoddiad diwylliannol newidiol y gymdeithas sydd ohoni yng Nghymru. Holir hefyd a yw bodolaeth YCC wedi newid y modd y darperir addysg mewn ysgolion yng Nghymru, ac os ydyw, a yw’r bobl ifanc sy’n cael addysg ar hyn o bryd yn sylweddoli gwerth elfen benodol Gymreig yn y cwricwlwm.
 

Ymchwiliad Systematig i Ddiogelwch ar y Rhyngrwyd: Polisïau Diogelwch ac BYOD / Archie Watt

Crynodeb
Mae polisi diogelwch da’n elfen hanfodol wrth geisio sicrhau diogelwch unrhyw rwydwaith cyfrifiadurol, a dylai fod yn gam cyntaf wrth ddatblygu cynllun ar gyfer diogelwch rhwydwaith. Mae’r papur hwn yn pwysleisio pwysigrwydd polisïau diogelwch ac mae’n astudio rhai o’r prif ffactorau a all rwystro’u heffeithiolrwydd, yn cynnwys hyfforddiant diogelwch annigonol i weithwyr. Archwilir Dod â’ch Dyfais Eich Hun (BYOD) yn fanwl hefyd, yn cynnwys yr amryw fanteision ac anfanteision y gall eu hachosi i sefydliad sy’n cefnogi’r arfer, a’r ffactorau amrywiol, megis datblygiadau o ran technolegau rhwydweithiau diwifr a’r cynnydd mawr yn y defnydd o ddyfeisiau cyfrifiadurol symudol, megis llechi a ffonau clyfar, sydd wedi arwain at dwf yn yr arfer dros y blynyddoedd diweddar. Prif ffocws y papur hwn yw polisïau diogelwch ar gyfer rhwydwaith BYOD, a’r heriau ychwanegol y gellir eu hwynebu wrth ddatblygu polisi diogelwch ar gyfer rhwydwaith o’r fath, er enghraifft diffyg rheolaeth gan y sefydliad dros y ddyfais ac esgeulustod gan y gweithwyr. Yn olaf, ar sail yr ymchwil a gyflawnwyd, mae’r papur yn cynnig nifer o argymhellion wrth ddatblygu polisi diogelwch effeithiol ar gyfer BYOD.