Sut i lawrlwytho’r ap MyDay

Sut i lawrlwytho’r ap MyDay

Os ydych wedi lawrlwytho’r ap AirWatch a ddarparwyd gan y Brifysgol yn barod, bydd ap MyDay ar eich dyfais yn barod o fewn eicon ‘TSD Apps’. Agorwch y ffolder ‘TSD Apps’ i lawrlwytho MyDay.
Fodd bynnag, os nad ydych wedi lawrlwytho AirWatch eto, dilynwch y cyfarwyddiadau isod:

iOS – App Store

Mewn porwr, teipiwch y cyfeiriad https://itunes.apple.com/gb/app/myday-mobile/id844114040?mt=8 a dewiswch yr opsiwn i lawrlwytho MyDay.

Neu…

Ar eich dyfais Apple, dewiswch ‘App Store’ a chwiliwch am MyDay. Pan fydd yn ymddangos yn y rhestr, dewiswch ‘Get’.
Ar ôl iddo lawrlwytho, bydd ap MyDay yn ymddangos yn eich sgrîn hafan.
Agorwch yr ap, ac fe fydd yn gofyn i chi logio i mewn, rhowch eich cyfeiriad e-bost uwtsd.ac.uk a chyfrinair i mewn (yr un manylion ag ar gyfer eich negeseuon e-bost ar y we) Dewiswch ‘Sign-in’, yna byddwch wedi gorffen.

Android – Google Play

Mewn porwr, teipiwch y cyfeiriad https://play.google.com/store/apps/details?id=com.mydaycloud.app a dewiswch yr opsiwn i fewnosod ap MyDay.

Neu…

Ar eich dyfais Android dewiswch yr ap ‘Google Play’ a chwiliwch am MyDay. Pan fydd yn ymddangos yn y rhestr, dewiswch ‘Install’.
Ar ôl iddo lawrlwytho, bydd ap MyDay yn ymddangos yn eich sgrîn hafan.
Agorwch yr ap, ac fe fydd yn gofyn i chi logio i mewn, rhowch eich cyfeiriad e-bost uwtsd.ac.uk a chyfrinair i mewn (yr un manylion ag ar gyfer eich negeseuon e-bost ar y we)
Dewiswch ‘Sign-in’, yna byddwch wedi gorffen.

Windows - Windows Store

Mewn porwr, teipiwch y cyfeiriad http://www.windowsphone.com/en-gb/store/app/myday/574f6ff9-c3c0-42a8-9a07-1e479c6a8e63 a dewiswch yr opsiwn i fewnosod ap MyDay .

Neu…

Ar eich dyfais Windows dewiswch ‘Windows Store’ a chwiliwch am MyDay.
Pan fydd yn ymddangos yn y rhestr, dewiswch ‘Install’