Datganiadau I'r Wasg 2017

Darlithydd ac un o raddedigion Y Drindod Dewi Sant yn serennu mewn cynhyrchiad o ‘One Flew Over the Cuckoo’s Nest’

13.10.2017

Mae Dave Ainsworth, Cyfarwyddwr y Rhaglen BA Actio ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn newid y ddarlithfa am Theatr y Torch wrth iddo baratoi i serennu yn One Flew Over the Cuckoo’s Nest’. Bydd un o raddedigion Actio Y Drindod Dewi Sant, sef Connor Allen, yn ymuno â Dave yn y darn pen-blwydd arbennig hwn.

One Flew Over The Cuckoo's Nest

Wedi’i gyfarwyddo gan Peter Doran, bydd y cynhyrchiad yma gan Theatr Torch o un o’r dramâu mwyaf poblogaidd yn dathlu pen-blwydd y cwmni o Aberdaugleddau yn 40. Perfformiwyd y ddrama am y tro cyntaf gan y cwmni yn 2002 pan oedd Dave hefyd yn rhan o’r cast ac mae’n edrych ymlaen yn fawr iawn at ddychwelyd i’r darn bymtheg mlynedd yn ddiweddarach.

Mae addasiad Dale Wasserman o nofel glasur Americanaidd Ken Kesey yn adrodd hanes gwallgofrwydd sefydliadol, lle caiff y gwallgof eu drygio, trydanu a lobotomeiddio er mwyn gorfodi syniad brawychus o reswm, un lle ufudd-dod a chydymffurfiad yw’r unig arwyddion derbyniol o iechyd meddwl.

Mae Dave Ainsworth yn chwarae rhan Ruckly, claf y mae gweithrediad ei ymennydd wedi’i ddinistrio gan lobotomy.

“Mae’n rôl heriol iawn ond mae’n wych cael ailymweld â rhan a chwaraeais yng nghynhyrchiad gwreiddiol y Torch llawer o flynyddoedd nôl,” meddai Dave, sydd yn actor, comedïwr ac awdur yn ogystal â darlithydd.

“Mae’n rhan fach ond hollbwysig,” ychwanega Dave. “Mae’n wers wych i ni gyd allu ei haddysgu i’r myfyrwyr nad oes ffasiwn beth â rhan fach mewn cynhyrchiad. Rwyf yn y ddrama o’r dechrau i’r diwedd ac yn rhan allweddol o’r tîm.”

Mae cyfoeth o brofiad Dave Ainsworth o weithio yn y theatr yn golygu ei fod yn gallu addysgu’r hyn sy’n berthnasol a chyfredol, gan sicrhau bod ei fyfyrwyr yn barod am ofynion y diwydiant.

“Fel actor a chomedïwr, rwyf wedi perfformio ar hyd a lled y wlad ac wedi rhedeg tri chlwb comedi yng nghanol Llundain am gyfnod. Rwyf wedi ysgrifennu llawer o ddramodydd hefyd sydd wedi cael eu perfformio’n broffesiynol, gan gynnwys Oh Hello a enillodd gwobr y beirniaid am y ‘Ddrama Orau’ yng Ngŵyl Caeredin 2015; Greville’s Whore a deithiodd llynedd ac rwy’n ysgrifennu sioe newydd ar hyn o bryd o’r enw Derek, the Prince of Wales,” aeth Dave yn ei flaen.  “Mae’n wych gallu rhannu fy mhrofiadau o weithio ar amrywiaeth o gynyrchiadau ac mewn  ystod o genres gydag ein myfyrwyr ac i’w haddysgu am bob agwedd ar y diwydiant.”

One Flew Over The Cuckoo's Nest

Ynghyd â chyd-ddarlithydd BA Actio Dave, Lynne Seymore – sydd hefyd yn actores a chyfarwyddwraig uchel ei pharch – maent yn gallu paratoi myfyrwyr ac i’w tywys drwy eu hastudiaethau yn ogystal â thrwy eu gyrfaoedd. Yn wir, yn y cynhyrchiad hwn o One Flew Over the Cuckoo’s Nest, mae Dave hefyd yn cael y cyfle i weithio gyda dau o raddedigion diweddar Celfyddydau Perfformio Y Drindod Dewi Sant.

“Elfen arall o’r cynhyrchiad hwn sy’n arbennig iawn yw fy mod hefyd yn cael gweithio gyda dau o’n graddedigion - Connor Allen, sy’n actio gyda fi a Joe Jones, sef Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol y cynhyrchiad.

“Mae gallu gweithio gyda Connor a Joe yn wych ac rwy’n teimlo’n falch iawn i fod yn rhan o’r un cynhyrchiad. Mae gallu gweithio gyda nhw ar sioe broffesiynol yn grêt ac i’w gweld yn rhoi’r hyn y bu iddynt ei ddysgu yn Y Drindod Dewi Sant ar waith yn ogystal â’u gweld yn tyfu a datblygu yn eu dewis feysydd.”

Mae Connor Allen yn chwarae rhan Aide Warren yn y cynhyrchiad hwn, ac wedi cael ei hyfforddiant yn Y Drindod Dewi Sant, mae’n ymhyfrydu mewn cael y cyfle i ddysgu gan ei gyn-ddarlithydd unwaith eto.

“Mae’n neis ofnadwy cael gweithio gyda Dave ar y cynhyrchiad rhagorol hwn,” meddai Connor. “Fe addysgodd cymaint i mi pan oeddwn yn Y Drindod Dewi Sant ac mae’n dal i fy addysgu nawr – mae’n cwblhau’r cylch.

“Hefyd, mae cael bod yn rhan o gast mor wych â hynny yn un o brif theatrau cynhyrchu Cymru  yn brofiad a hanner - mae’n gyffrous ac yn hwyl.”

Ers graddio yn 2013, mae Connor wedi chwarae amrywiaeth o rannau gyda chwmnïau amrywiol – a chan lawer ohonynt gysylltiad â’r Drindod Dewi Sant.

“Yr haf y bu i mi raddio, anogodd Dave i mi fynd am glyweliad i Theatr Ieuenctid Genedlaethol Prydain Fawr ac roeddwn yn ddigon ffodus i gael fy nerbyn.

“Yna, mi es gyda sioe i Gaeredin – sioe a gefnogwyd gan Y Drindod Dewi Sant – cyn cael rôl gyda Taking Flight, y roedd ei gyfarwyddwr artistig wedi fy nysgu am Shakespeare.

“Mae’r ychydig flynyddoedd cyntaf ar ôl graddio yn reit anodd ond rwy’n ffodus i fod â rhwydwaith cefnogi gwych sy’n cynnwys staff Y Drindod Dewi Sant. Mae’n wych nawr i gael y cyfle i fod yn rhan o’r cynhyrchiad arbennig hwn ac i ddysgu a thyfu’n fwy fel perfformiwr – yn arbennig drwy ddysgu gan Dave eto, rhywun sydd wedi addysgu cymaint i mi pan oeddwn yn hyfforddi,” ychwanega Connor.

Gyda disgrifiadau fel ‘anarchaidd’, ‘direidus’ a ‘didostur o hudol’, mae cynhyrchiad Theatr Torch o One Flew Over the Cukoo’s Nest yn un i’w weld.

Bydd y cynhyrchiad yn Theatr Torch, Aberdaugleddau o ddydd Mercher, Hydref 11eg nes dydd Sadwrn, Hydref 28ain. Mae’r cynhyrchiad yn cynnwys iaith gref a themâu oedolion ysgafn ac nid yw’n addas i blant. I archebu tocynnau, ewch i http://torchtheatre.co.uk/

I ddysgu rhagor am y cwrs BA Actio, gallwch gysylltu â Dave yn uniongyrchol drwy e-bostio d.ainsworth@uwtsd.ac.uk

Gwybodaeth Bellach

 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Sian-Elin Davies drwy e-bostio sian-elin.davies@uwtsd.ac.uk / 01267 676908 / 07449 998476