Datganiadau I'r Wasg 2017

Myfyrwyr o'r Academi Llais Rhyngwladol Cymru yn rhoi cyngerdd yng Nghanolfan Dylan Thomas

17.02.2017

Mae myfyrwyr o'r Academi Llais Rhyngwladol Cymru wedi croesawu côr o Sir Benfro, Bella Voce, i ganu mewn cyngerdd yn y Ganolfan Dylan Thomas yn Abertawe.

don giovanna

sarah hayashi

Canodd y myfyrwyr repertoire eang o ganeuon operatig gan gynnwys arias o operâu fel Carmen gan Bizet, Don Giovanni gan Mozart a La Traviata gan Verdi. Yn ogystal â hynny, canodd un o'r myfyrwyr cân werin o'i chartref, Croatia. Roedd y cyngerdd yr un olaf ar ôl wythnos o gyngherddau gan y myfyrwyr, sydd wedi perfformio bob dydd yng nghapel Tabernacl yng Nghaerdydd.  

Mae pleser gan yr Academi Llais Rhyngwladol Cymru croesawu Bella Voce, a oedd yn canu caneuon fel Calon Lân a Pure Imagination o'r ffilm 1971 'Willy Wonka and the Chocolate Factory.' 

bella voce

Roedd Cyfarwyddwr yr Academi, Dennis O'Neill yn bresennol yn ogystal â Phennaeth Cerddoriaeth Jane Samuel. Roedd yr Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg, Mr. D. Byron Lewis hefyd yn bresennol. Roedd y myfyrwyr yn codi arian am daith i Los Angeles, lle byddent ganu yn y British Consolate yn Beverley Hills.

 

dennis o'neill

Gwybodaeth Bellach

  1. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Cate Hopkins, Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau ar: catherine.hopkins@uwtsd.ac.uk / 07872 423 788