Datganiadau I'r Wasg 2017

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn dathlu Diwrnod y Sylfaenwyr

15.11.2017

Ddydd Gwener, Tachwedd 17eg, bydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn dathlu’i sefydlu gyda 'Diwrnod y Sylfaenwyr' (Tachwedd 18) - diwrnod o ddathliadau ar gampws y Brifysgol yn Llambed.

Ar wahân i Brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yw’r sefydliad dyfarnu graddau hynaf yng Nghymru a Lloegr.  Yn wir, mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn hynod falch o'i threftadaeth ac yn edrych ymlaen yn arw at ddathlu pen-blwydd ei sylfaenydd gyda darlith arbennig.  Eleni Dr Thomas Jansen fydd yn traddodi’r ddarlith flynyddol yn yr Hen Neuadd a fydd yn dechrau am 5yp.  Bydd yna Gosber Gorawl a Phregeth i ddilyn yn y capel.

Mae Dr Thomas Jansen yn ddarlithydd mewn Astudiaethau Tsieineaidd ac yn Gyfarwyddwr Sefydliad Confucius ar gampws y brifysgol yn Llambed. Teitl Darlith Diwrnod y Sefydlwyr eleni yw Timothy Richard (1845-1919): Cenhadwr, Addysgwr a Diwygiwr Cymreig yn Tsieina.


Dywedodd Dr Thomas Jansen:
"Yn ystod y ddarlith byddaf yn trafod dylanwad a gwaith Timothy Richard yn Tsiena. Wedi’i eni yn Sir Gâr roedd Timothy Richard yn genhadwr dros y Bedyddwyr Cymreig, a ddylanwadodd ar foderneiddio Tsiena a datblygu’r Weriniaeth Tsieineaidd. Rwy'n falch iawn o fod wedi cael fy ngwahodd i roi'r ddarlith hon ac edrychaf ymlaen at gymryd rhan mewn digwyddiad sy'n dathlu treftadaeth y Brifysgol."

Bishop Burgess

Cafodd y Brifysgol - neu Goleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan fel y'i gelwid yn wreiddiol - ei sefydlu gan yr Esgob Thomas Burgess yn 1822 i ddarparu addysg ryddfrydig i aelodau o'r clerigwyr - a phen-blwydd yr Esgob Burgess y mae'r Brifysgol yn dathlu heddiw.

Yn draddodiadol, Esgob Thomas Burgess, Tyddewi sydd wedi’i anrhydeddu fel y prif sylfaenydd a’r noddwr o'r hyn a ddatblygodd i fod yn Goleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. Roedd yr Esgob Burgess yn ffigwr arwyddocaol yn hanes diwylliannol, crefyddol a chymdeithasol Cymru ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac mae ei yrfa gynnar yn ymwneud ag ymgyrchu dros ryddhau caethweision a gwaith efengylaidd ymysg y tlodion.  Fe wnaeth ef hefyd gyfraniad ysgolheigaidd o bwys ym maes astudiaethau clasurol.

I’r graddau helaeth, syniad Burgess oedd creu Prifysgol ond yn y blynyddoedd a arweiniodd at osod y garreg sylfaen yn 1822, cafodd gefnogaeth gan ryw 130 o roddwyr eraill er mwyn sicrhau bod y syniad yn dod yn realiti - gan gynnwys cefnogaeth y Brenin oedd yn teyrnasu ar y pryd, sef Siôr IV.

Cafodd y garreg sylfaen ei osod yn 1822 a chafodd y myfyrwyr cyntaf eu derbyn Ddydd Gŵyl Dewi, 1827, ond ni chafodd y Siarter Frenhinol ei chwblhau tan 1828 pan gafodd ei selio gan Siôr IV ar 6 o Chwefror yn y flwyddyn honno. Yn wir, mae'r Brenin yn cael ei ystyried fel ‘Y Sylfaenydd Brenhinol’ ac mae ei Arfbais dal yn addurno tŵr Adeilad Dewi Sant.

Roedd rhestr hir o roddwyr  nodedig gan gynnwys tirfeddianwyr amlwg, ond rhai o'r ffigyrau mwyaf diddorol yw'r rhai sy'n gysylltiedig â bancio, masnach, diwydiant a gwelliannau amaethyddol. Gall llawer o ymgyrchwyr dyngarol blaenllaw hefyd gael eu cynnwys ar y rhestr hir o gefnogwyr, gan gynnwys William Wilberforce a Henry Thornton a oedd wrth gwrs yn ymgyrchwyr brwd dros ddiddymu caethwasiaeth.

Roedd John Burgess, brawd hynaf yr esgob a chymwynaswr arall, yn nodweddiadol o'r entrepreneuriaid masnachol newydd – John Burgess oedd sylfaenydd y cwmni  Burgess & Son yn Llundain, arloeswyr masnachol mewn sawsiau, olewau a phicls. Mae eraill yn cynnwys yr Arglwydd de Dunstanville; Arglwydd Carrington; William Henry Hoare a Walter Wilkins - pob un ohonynt yn fancwyr cyfoethog a dylanwadol.

Roedd diwydianwyr arloesol hefyd yn awyddus i gyfrannu, gan gynnwys Thomas Mansel Talbot; Richard Crawshay; Benjamin Hall; Arglwydd de Dunstanville yn ogystal ag Arglwydd Carrington o ystâd Llanfair Clydogau, nepell o’r coleg.

Roedd eraill hefyd yn awyddus i helpu i ddatblygu sefydliad addysgol newydd – gan gynnwys Arglwyddi Cawdor a Dinefwr - y ddau ohonynt eisoes wedi cyfrannu’n sylweddol at welliannau mewn arfer amaethyddol yng ngorllewin Cymru.

O'r cychwyn cyntaf, cafodd Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan ei gefnogi gan y 'dosbarth canol' newydd - arloeswyr, pobl busnes a diwydianwyr. Eu harian oedd yn sail iddo, ac mae ehangder eu buddiannau yn cael ei adlewyrchu yn y llyfrau sydd i’w gweld yn llyfrgell y Brifysgol.

Mae myfyrwyr Llambed yn hanesyddol wedi’u hannog i feddwl yn eang ac yn fyd-eang, ffordd o feddwl oedd yn angenrheidiol ar gyfer y genhedlaeth newydd o glerigwyr gyda llawer ohonynt wedyn yn derbyn swyddi yn gwasanaethu yn y trefi diwydiannol yn ne Cymru neu mewn ardaloedd lle'r oedd technegau amaethyddol newydd yn cael eu cyflogi yn gynyddol.

Nid oedd y llyfrgell y coleg ar eu cyfer hwy yn unig - bwriad y llyfrgell oedd cynnig budd i entrepreneuriaid lleol, ac fe ddenodd llu o ysgolheigion o ymhellach ac agos - hyd yn oed y Tywysog Lucien Bonaparte, nai Ymerawdwr Napoleon I.

Dros y blynyddoedd, mae'r Brifysgol wedi datblygu ystod o gyrsiau yn Llambed ac mae’n mwynhau enw da ar gyfer ei darpariaeth israddedig ac ôl-raddedig mewn amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys Astudiaethau Crefyddol, Astudiaethau Islamaidd, Archaeoleg, Astudiaethau Tsieineaidd, Clasuron, Hanes, Diwinyddiaeth, Athroniaeth, Anthropoleg ac Ysgrifennu Creadigol.

Gwybodaeth Bellach

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch ag Arwel Lloyd, Prif Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu, ar 01267 676663 / arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk