Datganiadau i'r Wasg 2014-2015

Amgueddfa yn Dathlu Hanes tref Llambed

13.05.2014

Bydd Amgueddfa yn dathlu hanes Llambed yn agor ddydd Gwener yma, Mai 16eg am 3pm ar gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng nghanol y dref.

Mae project Amgueddfa Llambed yn gydweithrediad rhwng cymdeithas Hanes Llambed a'r Brifysgol ac un sydd wedi ei ariannu trwy Cynnal y Cardi, Cynllun Datblygu Gwledig Cymru sydd yn ei dro wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a'r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.  Darparodd gynllun Cynnal y Cardi y cyllid hollbwysig, swm o £35,000, ar gyfer y gwaith cyfalaf ac mae'r Brifysgol wedi rhoi'r gofod sydd wedi galluogi Hanes Llambed i gyflawni ei huchelgais o sefydlu amgueddfa yn y dref.

Bydd yr Amgueddfa, sydd wedi’i lleoli yng nghyn adeilad y Porthor wrth brif gatiau’r Brifysgol, ar agor i’r cyhoedd o ddydd Sadwrn, Mai 17eg ymlaen.

Yn cynnwys casgliad o arteffactau lleol, bydd y brif arddangosfa gyntaf yn gasgliad o eitemau yn coffáu cysylltiadau Llambed â'r Rhyfel Byd Cyntaf - yn arbennig yn y flwyddyn 1914. Er bod Llambed gannoedd o filltiroedd i ffwrdd o ffosydd Gogledd Ffrainc, roedd cysylltiad y dref gyda'r Rhyfel Mawr yn eithaf sylweddol. Roedd sgwadron Iwmyn Penfro, a ddaeth yn hwyrach yn rhan o'r Gwarchodlu Cymreig, wedi'u lleoli yn Llambed cyn cael eu danfon i'r Aifft, ac yna Palestina. Bydd y cyfnod pwysig hwn yn hanes cymdeithasol Llambed yn cael ei nodi gyda chasgliad o eitemau a roddwyd gan bobl leol neu drwy atgofion rhai sydd â chysylltiadau agos at y dref gan gynnwys Evan Harries, Arthur Lloyd Jones a Watkin Evan Jones.

Bydd amrywiaeth o eitemau yn cael eu harddangos yn yr Amgueddfa yn olrhain datblygiad Llambed fel tref ac yn nodi ei harwyddocâd diwylliannol ac amaethyddol yn ogystal â dathlu ei threftadaeth gyfoethog. Bydd yr Amgueddfa hefyd yn ganolfan bwysig ar gyfer ysgolion a phlant yr ardal, gan roi cyfle i bobl ifanc y dref archwilio eu cefndir a'u hetifeddiaeth ddiwylliannol.

Yn ychwanegol i arteffactau lleol, bydd yr amgueddfa yn gartref i arddangosfa fydd yn olrhain hanes y Coleg -  o gyfnod ei sefydlu yn dilyn syniad beiddgar gan Esgob Tyddewi ‘nôl ym 1804, hyd at heddiw. Bydd yr Amgueddfa yn rhoi cyfle i bobl leol ac ymwelwyr ddysgu mwy am y Brifysgol a'i hanes unigryw fel y sefydliad dyfarnu graddau hynaf yng Nghymru a Lloegr, y tu allan i Rydychen a Chaergrawnt.

Bydd digwyddiadau pwysig hefyd yn cael eu nodi yn yr Amgueddfa, gan gynnwys hanes Eisteddfod Llambed - Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen; coffau deng mlynedd ar hugain ers i'r Eisteddfod Genedlaethol ymweld ddiwethaf â’r dref,  a chyfraniad pobl leol, gan gynnwys Jac Oliver, y Bardd Farbwr i ddiwylliant y dref.

Am dros ddeugain mlynedd, mae Selwyn Walters, Cadeirydd Hanes Llambed - sefydliad sy'n frwd yn y gymdeithas ac un sy’n ymfalchïo mewn aelodaeth o naw deg o bobl leol - wedi breuddwydio am agor amgueddfa yn y dref ac o’r diwedd, mae’r freuddwyd honno ar fin cael ei gwireddu.

"Mae’n holl bwysig bod gan dref o statws a phwysigrwydd Llambed ganolfan ymroddedig i ddathlu ei threftadaeth a’i hanes, ac rydym yn falch iawn bod yr amgueddfa hon nawr ar fin agor," meddai Selwyn Walters.

"Rydym yn ddiolchgar iawn i'r Brifysgol am ganiatáu i ni ddefnyddio'r cyn adeilad y Porthor fel cartref i’r amgueddfa – mae ei leoliad yn ddelfrydol gan ei fod yng nghanol bwrlwm y dref. Rydym yn gobeithio y bydd y lleoliad hwn yn helpu i ychwanegu at atyniadau’r dref yn ogystal â gwella profiad yr ymwelydd. Bydd pwynt twristiaeth yn cael ei leoli o fewn yr adeilad i helpu gyda'r amcan hwn.

“Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i'r prosiect Cynnal y Cardi a ariannodd y Brifysgol i wneud y newidiadau angenrheidiol i’r adeilad. Dyma freuddwyd sydd wedi’i gwireddu ac rydym yn gobeithio y bydd yn adnodd fydd yn gwasanaethu'r gymuned am flynyddoedd lawer i ddod.”

Yn ogystal â bod yn amser cyffrous i aelodau o Hanes Llambed, mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) hefyd yn edrych ymlaen at roi cartref i’r Amgueddfa ar gampws Llambed.

Fel cartref Cyfadran Dyniaethau’r Brifysgol sy’n cynnig cyrsiau mewn pynciau megis Hanes; Archaeoleg; Clasuron; Astudiaethau Treftadaeth a Threftadaeth gydag Amgueddfeydd ac Archifau; mae’r Amgueddfa yn mynd i fod yn ychwanegiad gwych i'r campws.

"Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn falch iawn o gydweithio gyda Hanes Llambed ar y fenter gyffrous hon. Mae myfyrwyr ar draws y Brifysgol yn cael eu hannog i gynorthwyo, ac yn eu tro, ennill profiad gwerthfawr drwy weithio gyda'r gwirfoddolwyr i guradu arddangosfeydd, "meddai Dr Jeremy Smith, Dirprwy Ddeon Cyfadran y Dyniaethau.

"Wedi bod yn rhan o'r dref ers 1822, mae'n wych bod y Brifysgol nawr yn mynd i fod yn gartref i ganolfan sy'n dathlu hanes Llambed, ei phobl a'i threftadaeth.

"Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o'r prosiect gwerth chweil hwn ac ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Hanes Llambed er mwyn sicrhau bod yr Amgueddfa yn llwyddo fel adnodd pwysig i’r dref a'i hymwelwyr," ychwanega.

Mae Campws Llambed eisoes yn gartref i Lyfrgell ac Archifau Roderic Bowen sy'n cynnwys casgliadau arbennig sydd wedi’u hel dros y ddau gan mlynedd diwethaf. Bydd un o'r darnau mwyaf diddorol - y Siarter Frenhinol o 1822 sydd wedi’i lofnodi gan Frenin Siôr IV a arweiniodd at sefydlu’r Brifysgol - yn cael ei arddangos yn yr Amgueddfa newydd yn ystod y penwythnos agoriadol.

Dywed Peter Hopkins, Curadur Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen, "Yn ychwanegol i’n casgliad o lyfrau prin a llawysgrifau canoloesol ac ôl-ganoloesol - un o'r casgliadau gorau o'i fath yng Nghymru – mae Canolfan Ymchwil Roderic Bowen yn gartref i archif hynod ddiddorol o ffotograffau, gweithredoedd a dogfennau eraill sy'n adrodd hanes y Brifysgol o'i dechreuad yn 1804 hyd at agoriad amgueddfa newydd Llambed yng nghyn adeilad y Porthor.

"Mae Archif Roderic Bowen Archif yn drysorfa ryfeddol ac yn dyst i gyfraniad sylweddol Llambed i Gymru a thu hwnt, ac rydym yn bwriadu adrodd peth o'r hanes diddorol hwn yn yr amgueddfa newydd."

Bydd y Cynghorydd Elsie Dafis, Maer Llambed yn agor yr Amgueddfa yn swyddogol ddydd Gwener yma, Mai 16eg cyn i’r ganolfan agor i'r cyhoedd o ddydd Sadwrn, Mai 17eg ymlaen.

Nodyn i'r Golygydd

  1. Ariennir y prosiect gan 'Cynnal y Cardi,' prosiect LEADER Echel 4, a gyllidwyd hwn drwy'r Cynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007 - 2013. Mae hyn yn ei dro wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a'r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
  2. Sefydlwyd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn 2010 drwy uno Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan a Choleg Prifysgol y Drindod, Caerfyrddin. Ar 1 Awst 2013 unodd Prifysgol Fetropolitan Abertawe â’r Brifysgol.
  3. Siarter Frenhinol y Brifysgol (1828) yw’r hynaf yng Nghymru, a hon yw’r drydedd Siarter hynaf yng Nghymru a Lloegr ar ôl Rhydychen a Chaergrawnt. Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru yw Noddwr y Brifysgol.
  4. Ar 1 Awst, 2013 unodd Coleg Sir Gâr â Grŵp Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, fodd bynnag bydd yn cadw ei frand ei hun. Unodd Coleg Ceredigion â’r Grŵp ar 1 Ionawr 2014.

Gwybodaeth Bellach

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Sian-Elin Davies, Uwch Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus ar sian-elin.davies@tsd.uwtsd.ac.uk / 01267 676908