Datganiadau i'r Wasg 2014-2015

Archaeo-Seryddiaeth yn Camu o Gysgodion y Gorffennol

21.07.2014

Mae gwaith graddedigion a staff Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi dod i gryn amlygrwydd yng Nghyfarfod Seryddiaeth Cenedlaethol mawreddog 2014 yn Portsmouth.

Bu’r cyfarfod yn archwilio maes ymchwil datblygol sy’n cyfuno technegau seryddol â’r astudiaeth o nodweddion hynafol o waith dyn a’r tirweddau o amgylch. O’r 'Crystal Pathway', sy’n cysylltu cylchoedd cerrig ar Waun Bodmin yng Nghernyw, i fegalithau sydd wedi’u halinio â’r sêr yng nghanolbarth Portiwgal, mae archaeo-seryddwyr yn darganfod tystiolaeth bod pobl o’r Oes Neolithig a’r Oes Efydd yn cadw llygad craff ar yr Haul, yn ogystal â’r Lleuad a’r sêr, a’u bod yn ymgorffori cyfeiriadau seryddol yn eu tirweddau lleol.

Cyflwynodd yr arbenigwr archaeo-seryddol, Dr Fabio Silva o Ysgol Archaeoleg, Hanes ac Anthropoleg PCYDDS, ei ymchwil arloesol ar fegalithau Ewropeaidd sy’n canolbwyntio ar safleoedd anheddiad y gaeaf a strwythurau megalithig 6000 o flynyddoedd oed yn nyffryn Mondego yng nghanolbarth Portiwgal.

Meddai: “Rydym wedi darganfod fod coridorau mynediad pob bedd cyntedd mewn mynwent benodol wedi’u halinio â chodiad tymhorol y seren Aldebaran, seren ddisgleiriaf y Tarw, dros y mynyddoedd gerllaw. Mae’r cysylltiad hwn rhwng ymddangosiad y seren yn y gwanwyn a’r mynyddoedd lle byddai’r adeiladwyr cromlechi yn treulio’u haf yn cael ei adleisio mewn llên gwerin leol, sy’n esbonio sut y cafodd y Serra da Estrela neu 'Gadwyn Mynyddoedd y Seren' ei henwi, wrth i fugail yn nyffryn Mondego a’i gi ddilyn seren.

Mae Pamela Armstrong, sydd wedi graddio’n ddiweddar mewn Seryddiaeth Ddiwylliannol ac Astroleg yn PCYDDS, yn cynnwys y syniad o’r awyrlun yn ei gwaith ar y beddrodau siambr gorau ym Mhrydain a wnaed o gerrig, sydd wedi’u lleoli yng ngogledd y Cotswolds.

Meddai hi: “Arferai pobl yr oes Neolithig gladdu’r meirw yn y twmpathau pridd hyn, ond mae’n bosibl hefyd eu bod wedi cyfeirio'u beddrodau tuag at bwyntiau arwyddocaol ar lwybr codiad a machlud yr haul, y lleuad a’r sêr ar eu gorwelion lleol. Mae ei gwaith yn taflu goleuni ynghylch a oedd yr anheddwyr Neolithig hyn yn arfer seryddiaeth wahanol i’r helwyr-gasglwyr Mesolithig a fu’n troedio’r dirwedd hon o’u blaen.”

Ymhlith yr ymchwilwyr eraill a fu’n cyflwyno yn ystod y sesiwn roedd Liz Henty o PCYDDS a fu’n sôn am Gylch Cerrig Gorweddol Tomnaverie yn yr Alban a Dr Frank Pendergast o Athrofa Dechnoleg Dulyn a fu’n trafod bedd cyntedd yn Knockroe yn Swydd Kilkenny, Iwerddon.

Nodyn i'r Golygydd

  1. Mae gan Dr Fabio Silva radd MA mewn Seryddiaeth Ddiwylliannol ac Astroleg, PhD mewn Cosmoleg, ac mae’n diwtor rhan-amser yn yr Ysgol Archaeoleg, Hanes ac Anthropoleg, gyda chyfrifoldeb am y modwl MA Archaeo-seryddiaeth.
  2. Mae Pamela Armstrong yn graddio ag MA mewn Seryddiaeth Ddiwylliannol ac Astroleg ym mis Gorffennaf 2014, ac mae newydd dderbyn rhagoriaeth am ei thraethawd hir ar aliniadau seryddol mewn beddrodau claddu yn ne Lloegr.
  3. Sefydlwyd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn 2010 drwy uno Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan a Choleg Prifysgol y Drindod, Caerfyrddin. Ar 1 Awst 2013 unodd Prifysgol Fetropolitan Abertawe â’r Brifysgol.
  4. Siarter Frenhinol y Brifysgol (1828) yw’r hynaf yng Nghymru, a hon yw’r drydedd Siarter hynaf yng Nghymru a Lloegr ar ôl Rhydychen a Chaergrawnt. EUB Tywysog Cymru yw Noddwr y Brifysgol.

Gwybodaeth Bellach

Steven Stokes
Uwch Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu
07872 423788
steven.stokes@sm.uwtsd.ac.uk