Datganiadau i'r Wasg 2014-2015

Gwobr Archeolegol i Academyddion am Ddarganfod yr Olion Traed Dynol Hynaf y tu allan i Affrica

16.03.2015

HappisburghMae prosiect y bu Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn ei gefnogi, ac a fu’n gyfrifol am ddarganfod y dystiolaeth gynharaf o olion traed dynol y tu allan i Affrica, ar arfordir Norfolk, wedi cipio gwobr archeolegol bwysig.

Dr Martin BatesYm mis Mai 2013, darganfu Dr Martin Bates, sy’n ddaeararcheolegydd yn PCYDDS yn Llambed, ynghyd â thîm o wyddonwyr o’r Amgueddfa Brydeinig, yr Amgueddfa Hanes Naturiol, Prifysgol y Frenhines Mary Llundain a Phrifysgol John Moores Lerpwl gyfres o ôl traed a adawyd gan bobl oes gynnar mewn llaid aber hynafol dros 800,000 o flynyddoedd yn ôl yn Happisburgh yn Norfolk. Mae’r ôl traed yn dystiolaeth uniongyrchol o’r bobl gynharaf y gwyddys amdanynt yng ngogledd Ewrop.

Yn dilyn pleidlais gyhoeddus enillodd y prosiect ôl traed y wobr am ‘Cloddiad Achubol y Flwyddyn’ yng Ngwobrau 2015 Current Archaeology, sef un o brif gylchgronau archeolegol y DU.

Wrth sôn am y darganfyddiad, meddai Dr Martin Bates: “Fi oedd y cyntaf i weld yr olion a thynnu sylw’r tîm atyn nhw. Roeddwn i’n siŵr mai olion dynol oedden nhw ar ôl astudio olion o’r fath o’r blaen yn Borth. Pan welais i nhw am y tro cyntaf roedd hi’n glir fod rhywbeth arbennig yma. Maen nhw’n cynnig cyswllt uniongyrchol iawn â’r bobl a’u gwnaeth nhw ac mae hyn yn ein helpu ni i gysylltu â nhw mewn ffyrdd na fyddai’n bosibl trwy olion eraill o’u bodolaeth, megis arfau cerrig.”

Datguddiwyd arwynebedd yr ôl traed pan oedd y llanw ar drai ar ôl i dymhestloedd trwm symud tywod y traeth i ddatguddio cyfres o bantiau hir a oedd wedi’u torri mewn siltiau a gywasgwyd.

Meddai Dr Nick Ashton, o’r Amgueddfa Brydeinig: “I ddechrau nid oedden ni’n siŵr beth roedden ni’n ei weld, ond wrth i ni symud unrhyw dywod o’r traeth oedd yn weddill a golchi ymaith y dŵr môr â sbwng, roedd yn amlwg bod y pantiau’n debyg i olion, olion traed dynol, o bosibl, a bod angen i ni gofnodi’r arwynebedd cyn gynted ag y bo modd cyn i’r môr ei ddileu trwy erydu.”

Cofnodwyd yr arwynebedd trwy ffotogrametiaeth, sef techneg a all weu ffotograffau digidol at ei gilydd i greu cofnod parhaol a delweddau 3D o’r arwynebedd. Dadansoddi’r delweddau hyn a gadarnhaodd mai olion traed hynafol yn wir oedd y pantiau hir, a’u bod wedi’u gadael, o bosibl, gan bum unigolyn.

Dangosodd y dadansoddi mai ystod o feintiau traed oedolion a phlant a adawodd yr olion ac mewn rhai achosion bod modd nodi’r sawdl, y bont a hyd yn oed bysedd y traed, gan gyfateb mewn esgidiau modern i hyd at faint 8 yn y DU. Roedd modd i wyddonwyr fesur yn gywir hyd a lled yr olion traed ac amcangyfrif taldra’r unigolion a’u gwnaeth. Yn achos y rhan fwyaf o bobl heddiw ac yn y gorffennol, mae maint traed yn rhyw 15% o’r taldra. Awgrymir bod y taldra’n amrywio rhwng 0.9 m a thros 1.7 m gan awgrymu amrywiaeth o oedolion a phlant. Mae cyfeiriad yr olion traed yn awgrymu eu bod yn teithio tua’r de.

Yn ystod y deng mlynedd diwethaf, mae’r gwaddodion yn Happisburgh wedi datguddio cyfres o safleoedd gydag offer cerrig ac esgyrn, sy’n dyddio yn ôl dros 800,000 o flynyddoedd. Daw’r darganfyddiad diweddaraf hwn o’r un gwaddodion.

Mae oedran y safle’n seiliedig ar ei sefyllfa ddaearegol ro dan y gwaddodion rhewlifol sydd wrth wraidd y clogwyni, ond hefyd y cysylltiad ag anifeiliaid sydd wedi diflannu. Mae’r safle’n hefyd cadw olion planhigion a phaill, ynghyd â chwilod a chregyn, sy’n caniatáu ailadeiladu’r dirwedd yn fanwl.

Ar yr adeg hon roedd tir Prydain wedi’i gysylltu â chyfandir Ewrop a byddai’r safle yn Happisburgh wedi bod ar lannau aber llydan nifer o filltiroedd o’r arfordir. Byddai pyllau dŵr croyw mwdlyd wedi bod ar y gorlifdir gyda morfa ac arfordir gerllaw. Porai ceirw, buail, mamothiaid, afonfeirch a rhinoseros yn nyffryn yr afon, gyda choedwig fytholwyrdd ddwysach o’u cwmpas. Darparai’r aber arlwy gyfoethog o adnoddau i’r bobl gynnar gyda chloron planhigion bwytadwy, gwymon a chregynbysgod gerllaw, tra byddai’r gyrroedd a borai wedi dod â chig trwy hela neu ysglyfaethu.

Meddai’r Athro Chris Stringer, o’r Amgueddfa Hanes Naturiol: “Mae’n bosibl iawn fod y dynion a wnaeth olion Happisburgh yn perthyn i bobl o’r un cyfnod hynafol yn Atapuerca yn Sbaen, a ddynodwyd i’r rhywogaeth Homo antecessor (“Dyn Arloesol”). Roedd y rhain yn debyg o ran taldra i ni ac yn cerdded ar ddwy droed. Mae’n ymddangos iddyn nhw ddiflannu o Ewrop erbyn 600,000 o flynyddoedd yn ôl ac efallai iddyn nhw gael eu disodli gan y rhywogaeth Homo heidelbergensis. Daeth y Neandarthaliaid wedyn ryw 400,000 o flynyddoedd yn ôl, ac o’r diwedd bobl fodern ryw 40,000 o flynyddoedd yn ôl.”

Tynnir sylw at bwysigrwydd olion traed Happisburgh gan brinder yr olion traed sydd wedi goroesi yn unrhyw le arall. Dim ond y rheini yn Laetoli yn Tanzania a wnaed ryw 3.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl a Koobi Fora yn Kenya ryw 1.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl sy’n fwy hynafol.

Gwybodaeth Bellach

I gael rhagor o wybodaeth neu i siarad â Dr Martin Bates, cysylltwch â’r Prif Swyddog Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus Steven Stokes ar 07872 423788neu anfonwch e-bost at steven.stokes@uwtsd.ac.uk