Datganiadau i'r Wasg 2016

Cyfansoddwraig yn derbyn Doethuriaeth Anrhydeddus

04.07.2016

Cafodd y gyfansoddwraig, Yr Athro Emeritus Rhian Samuel ei chyflwyno â Doethuriaeth Anrhydeddus (Doethur mewn Cerddoriaeth) yn ystod seremoni raddio Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin heddiw.

Ganwyd Rhian Samuel yn Aberdâr yn 1944 i deulu cerddorol a oedd yn siarad Cymraeg ac mae wedi byw ym Mhrydain ac yn yr Unol Daleithiau.  Mae wedi cyfansoddi mwy na 120 o weithiau cyhoeddedig.  Elegy-Symphony (Cerddorfa Symffoni St Louis, Leonard Slatkin, arweinydd, 1981) oedd ei darn mawr cyntaf i gerddorfa a chafodd ei darn Tirluniau/Landscapes (2000) ei berfformio am y tro cyntaf yn Proms y BBC adeg y Mileniwm yn Neuadd Albert, gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Tadaaki Otaka yn arweinydd.  Yn ystod ei hieuenctid bu’n chwarae’r obo; ar hyd ei gyrfa mae wedi canu mewn corau, eu harwain ac ysgrifennu cerddoriaeth iddynt.  A hithau’n ysgrifennu am gerddoriaeth, cyd-olygodd The New Grove/Norton Dictionary of Women Composers (1994);mae hefyd wedi ysgrifennu am nifer o operâu Harrison Birtwistle, gan gyhoeddi nodiadau rhaglen i’r Tŷ Opera Brenhinol a dyddiaduron o gynyrchiadau cyntaf ar gyfer y Cambridge Opera Journal.  

Bu Rhian Samuel yn addysgu ym Mhrifysgol Washington, St Louis, UDA, lle cwblhaodd ddoethuriaeth ar chanson Ffrengig y 16eg ganrif, ac yn y St Louis Conservatory of Music; dychwelodd i’r DU, a bu’n addysgu ym Mhrifysgol Reading, Prifysgol y Ddinas, Llundain, (lle’r oedd yn Athro Cerddoriaeth o 1998 a bellach yn Athro Emeritws), ac ym Mhrifysgol Rhydychen, lle mae'n aelod o’r Gyfadran Gerddoriaeth gan diwtora israddedigion cyfansoddi yng Ngholeg Magdalen.   

Roedd yn gyd-enillydd Gwobr ASCAP-Rudolph Nissim (UDA) 1983, am ei gwaith corawl-gerddorfaol, La belle dame sans merci, enillodd y wobr gyntaf yng Ngŵyl Greenwich (DU), 1979, am y gwaith corawl, So Long Ago, a derbyniodd wobrau eraill wedi hynny’n cynnwys Gwobr Glyndŵr ar gyfer gwasanaethau i’r Celfyddydau yng Nghymru.   Mae’n cydnabod llawer o ddylanwadau ar ei cherddoriaeth, yn enwedig ei threftadaeth lenyddol a cherddorol gyfoethog o Gymru, tirlun ei chartref presennol yn edrych dros aber Afon Dyfi a Bae Ceredigion, a’i chyfnod hir yn UDA.  

“Mae’n bleser o’r mwyaf i groesawu Rhian i’r Brifysgol,” meddai Mererid Hopwood a gyflwynodd yr Athro Samuel â’i gwobr.  “Athrylith ddyfeisgar, gyfeillgar yw Rhian Samuel. Diolch i chi am wrando ar y lleisiau coll, ac am roil le iddyn nhw – lleisiau’r ferch a lleisiau Cymru – a diolch i chi am eich alaw newydd:

A gwlad y calonnau glân – yn ysu

Am fiwsig, daw’r cyfan

O’r awel at law Rhian

I’w troi’n nodau gorau’r gân

Wrth dderbyn ei Doethuriaeth Anrhydeddus, dywed yr Athro Rhian Samuel: “Hyfrydwch o’r mwyaf yw bod yma heddiw yng Nghaerfyrddin.  Hoffwn ddiolch i’r Brifysgol am y fraint fawr y mae wedi rhoi i mi……rwy’n dod nol at fy ngwreiddiau heddiw.”