Datganiadau i'r Wasg 2016

Cyrn Borth wedi cadarnhau yn Oes yr Efydd

13.06.2016

Fis diwethaf, sylwyd am y tro cyntaf ar set o gyrn ysblennydd carw coch ar draeth y Borth, Gorllewin Cymru a hynny gan ddau ymwelydd, Julien Culham a Sharon Davies-Culham.  Yn hytrach na cheisio symud y benglog o’r traeth, fe wnaethon nhw hysbysu’r Comisiwn Brenhinol yn Aberystwyth a gysylltodd maes o law â Dr Martin Bates o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant sydd wedi bod yn gwneud gwaith ymchwil yn y Borth ers nifer o flynyddoedd.

‌‌‌

Ers hynny, mae stori’r cyrn wedi mynd ar led yn gyflym a chynhaliwyd archwiliad cychwynnol o’r dyddodion lle darganfuwyd y cyrn.   Mae Dr Bates wedi cael cadarnhad o’r dyddiad radio-carbon cyntaf o weddillion y benglog a oedd yn gysylltiedig â’r cyrn.

Gwyddys bod y carw wedi byw a marw rhywbryd rhwng 1200 a 1000 CC – yng nghanol yr Oes Efydd.  

“Mae’r dyddiad hwn llawer yn fwy cyffrous nag yr oeddem yn ei ddisgwyl,” meddai Dr Bates o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

“Roeddwn i wedi tybio y byddai’n hŷn na 4000, neu hyd yn oed 6000 o flynyddoedd oed, ond mae hyn dipyn yn iau nag y gwnaeth neb ohonom ei ragweld. Mae’r dyddiad hwn yn dweud wrthym fod tir sych wedi parhau yn y fan hon tan o leiaf yr Oes Efydd, sy’n golygu bod y gorlifo yma yn llawer mwy diweddar nag a dybiwyd yn flaenorol. Felly mae’r cyrn wedi newid ein dealltwriaeth o’r hyn ddigwyddodd i’r dirwedd hon yn y gorffennol yn llwyr”. 

Cynhaliwyd archwiliad cychwynnol hefyd o’r tywod a’r silt lle darganfuwyd y cyrn a bellach mae’n amlwg bod yr amgylchedd lle daethpwyd o hyd iddynt yn cynnwys morfeydd heli a sianeli llanw.  

Meddai Dr John Whittaker o’r Amgueddfa Astudiaethau Natur yn Llundain: “Mae’r microffosilau sy’n bresennol yn y tywod yn gallu goroesi dim ond mewn morfeydd heli felly does dim amheuaeth gen i i weddillion yr anifail hwn ddod i orffwys mewn ceunant bach oedd efallai’n croesi morfa heli glaswelltog”.

Fodd bynnag, un o’r pethau sy’n dal i beri penbleth i’r tîm yw sut a pham y bu farw’r carw.  

Anifail ar ei anterth oedd hwn felly a wnaeth farw o achosion naturiol yn sgil torri’i goes neu glefyd, er enghraifft, ynteu a oedd achosion eraill ar waith?  

“Ceir tystiolaeth gadarn o weithgarwch dynol yn yr Oes Efydd yn yr ardal o gwmpas ac mae olion traed bodau dynol yn y mawn, wrth ymyl cerrig wedi llosgi, yn dynodi gweithgarwch yn y cyffiniau lleol,” meddai Dr Bates.  

“Fodd bynnag, nid oes unrhyw arwyddion sicr ar y gweddillion i awgrymu bod yr anifail wedi’i hela, na hyd yn oed wedi marw mewn rhigol, felly mae’n debygol y bydd yn parhau i fod yn ddirgelwch,” ychwanega.

Bellach mae’r gweddillion yn dod yn rhan o brosiect arall gan y Drindod Dewi Sant, yn dwyn y teitl Layers in the Landscape.  Ariennir y prosiect hwn gan y Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol Annibynnol sy’n dwyn ynghyd wyddoniaeth, y dyniaethau a’r celfyddydau mewn ymateb i filoedd o flynyddoedd o lifogydd ym Mae Ceredigion, ac mae’r cyrn yn rhan ganolog o’r stori newydd hon.  

Meddai Erin Kavanagh, Cydlynydd y Prosiect: “Credwn fod y carw ymerodrol hwn yn fyw yng nghanol y cyfnod rydym yn ei archwilio, rhwng diflaniad y goedwig ac ymddangosiad y traeth. Sut gallwn ni felly ddychmygu’r newidiadau a welodd ef sydd bellach ar goll i ni – a pha ryfeddodau eraill a allai fod yno o hyd, wedi’u dal yn ddirgel gan y môr...?”

Bydd Dr Martin Bates yn archwilio’r berthynas rhwng pobl a’u hamgylchedd ymhellach yn Abertawe ddydd Gwener wrth iddo gymryd rhan yng Ngŵyl Coleridge yng Nghymru ar thema forol yn Noc Tywysog Cymru.

Yn ystod yr ŵyl – a gynhelir ar y cyd gan y Drindod Dewi Sant a Dinas a Sir Abertawe – gwelir criw o artistiaid, perfformwyr a storïwyr yn teithio hyd a lled Cymru, gan ddilyn ôl-troed y bardd byd-enwog Samuel Taylor Coleridge. Cychwynnodd Coleridge ar daith o Gymru nôl yn 1794, gyda breuddwydion o sefydlu cymdeithas decach a darganfod awen barhaus yn nhirwedd unigryw Cymru, a lwyddodd maes o law i ysbrydoli rhai o’i weithiau pwysicaf.  

Mae uchafbwyntiau’r Ŵyl yn cynnwys replica o long hwylio o’r oesoedd canol a fydd yn cael ei hangori yn Noc Tywysog Cymru, yn seiliedig ar thema fordwyol cerdd epig a rhyfeddol Coleridge, The Rime of the Ancient Mariner. Yn ogystal, ar draws SA1 bydd cerddoriaeth fyw, teithiau tywysedig o’r llong i ysgolion a’r cyhoedd, darlleniadau barddoniaeth, seminarau ac, yn wledd i’r llygaid, gosodir bloc mawr o iâ ger y llong i ysgogi trafodaeth am newid yn yr hinsawdd.  Yn ystod y digwyddiad, bydd Dr Martin Bates hefyd yn cyflwyno sgwrs ryngweithiol ar fodau dynol a newid hinsawdd yn y gorffennol. Bydd yn defnyddio ffosiliau ac arteffactau archeolegol a bydd yn gwahodd y gynulleidfa i gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb.