Datganiadau i'r Wasg 2016

Disgybl ysgol yn dylunio logo ar gyfer Rhwydwaith Celfyddydau ac Addysg

12.08.2016

Mae Sara Elan Jones, disgybl tair ar ddeg mlwydd oed yn Ysgol Bro Pedr, wedi ennill cystadleuaeth i ddod o hyd i syniad gwreiddiol ar gyfer logo NAWR, Rhwydwaith Celfyddydau ac Addysg : Canolbarth a Gorllewin Cymru. 

Dewiswyd dyluniad Sara Elan gan banel o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a oedd yn cynnwys y Swyddog Prosiect Gweithredol, Gweinyddwyr ac Uwch Ddarlithwyr yn y Celfyddydau Gweledol. Dewiswyd dyluniad Sara Elan oherwydd ei ddelweddaeth deinamig oedd yn adleisio gwerthoedd craidd y Rhwydwaith wedi cyfuno gyda llythrennau llawrydd a defnydd o symbolau i ddynodi pobl yn cydweithio.

Dywedodd Sara Elan Jones: "Rwy'n treulio llawer o fy amser yn braslunio; pan ofynnwyd i mi roi cynnig ar y gystadleuaeth i ddylunio logo ar gyfer NAWR wnes i fraslunio llawer o syniadau gwahanol. Penderfynais dewis y dyluniad symlaf, er mwyn rhoi'r effaith orau oedd yn cyfuno yr hyn mae NAWR yn cynrychioli. Wnes i hefyd ychwanegu manylion bach yn ymwneud â beth mae’r  geiriau NAWR cynrychioli."

Yn ddiweddar, cyhoeddwyd bod Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn un o bedwar Rhwydwaith Rhanbarthol newydd ar gyfer y Celfyddydau ac Addysg wedi'u sefydlu fel rhan o'r prosiect arloesol mawr a gynhelir ar y cyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru - Dysgu Creadigol drwy'r Celfyddydau - cynllun gweithredu ar gyfer Cymru.

Mae'r Rhwydweithiau hyn wrth wraidd Dysgu Creadigol drwy'r Celfyddydau - cynllun gweithredu pum mlynedd ar gyfer y celfyddydau ac addysg a bydd yn cyflawni un o'r prif feysydd - Cynnig y Celfyddydau ac Addysg Cymru Gyfan.

Mae Rhwydwaith Celfyddydau ac Addysg : Canolbarth a Gorllewin Cymru, NAWR,  wedi’i seilio ar rannu ymrwymiad i ddarpariaeth amgylchedd dysgu ffrwythlon lle gall plant ffynnu drwy fod yn rhan o brofiadau addysgol diddorol a chreadigol. Mae NAWR yn ceisio magu hyder a chreadigrwydd ymhlith athrawon, dysgwyr ac ymarferwyr ar sail prosiectau cynhwysol, cydweithredol a yrrir gan brosesau ac sydd wedi’u seilio ar y celfyddydau, yn ogystal â chyfleoedd dysgu proffesiynol. Y bwriad yw mewnosod cyfleoedd  dysgu creadigol a chynaliadwy mewn ysgolion ar draws yr ardal.

Fydd NAWR  yn darparu cyfle i rannu’r arloesi a’r dysgu proffesiynol cynhenid hynny a geir mewn enghreifftiau o addysg greadigol ysbrydoledig a ddaw o bob rhan o Gymru ac o gwmpas y byd. Mae pob Rhwydwaith yn gweithio’n ddwyieithog ac yn cofleidio cyseinedd iaith a diwylliant er mwyn cynorthwyo a chefnogi datblygiad unigolion hyderus, gwybodus drwy roi iddynt ryw deimlad o fod yn rhan.

Meddai Diane Hebb, Cyfarwyddwr Cyfranogi ac Ymgysylltu, Cyngor Celfyddydau Cymru:

"Rydym am weld pob plentyn yn cael mynediad i'r celfyddydau a ble bynnag y mae eu hysgol. Mae addysg greadigol a diwylliannol yn rhoi i'n pobl ifanc y profiadau cyfoethog sydd eu hangen arnynt pan fyddant yn ifanc yn ogystal â datblygu'r doniau a'r gallu i feddwl yn greadigol sy'n gyrru diwydiannau creadigol Cymru. Mae angen inni wneud cymaint ag y gallwn i gefnogi addysg greadigol a diwylliannol drwy fentrau tebyg i hon.  Mae gweithio'n well mewn partneriaeth a dull gweithredu mwy strategol yn allweddol ac rydym yn edrych ymlaen at weld canlyniadau'r ychwanegiad hanfodol newydd hwn at y cynllun. Rydym wrth ein bodd gyda'r cynigion a ddaeth i law ac yn edrych ymlaen at weithio gyda'r consortia."

Gwybodaeth Bellach

  1. Rhian Jones, Swyddog Prosiect Gweithredol, NAWR drwy ebostio nawr@uwtsd.ac.uk or on 07919626716.
  2. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Sara Jones, Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu, ar 07449 998478 neu anfonwch e-bost at sara.f.jones@pcydds.ac.uk