Datganiadau i'r Wasg 2016

Gair o’r galon i ddiolch i’r staff gan un o raddedigion Y Drindod Dewi Sant

30.08.2016

Gwnaeth Reham Ismail Saeed Al-Shaibani a raddiodd yn ddiweddar gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf BSc mewn Technoleg Gwybodaeth Busnes, araith dwymgalon yn ystod un o seremonïau graddio’r brifysgol yn Abertawe.  

A hithau yntau wedi ei magu yn Yemen, cythryblus fu taith Reham ond bu hefyd yn un weddnewidiol.  Dyma Reham yn myfyrio ar ei chyfnod yn Y Drindod Dewi Sant ac yn rhoi clod i’r rheini sydd wedi ei helpu i wireddu ei breuddwydion:

Allwch chi gredu’r peth, bobl, rydyn ni wedi ei gwneud hi!  Rydyn ni’n graddio heddiw!Ar ôl ymdrechu ers tair blynedd!!A dyma ni’n dathlu ac yn dawnsio o lawenydd, yn rhannu’r hapusrwydd hwn gyda’r bobl oedd yno i’n cefnogi gydol yr holl gyfnod pontio sydd wedi ein ffurfio ni a’n gwneud ni’r bobl rydyn ni ar hyn o bryd.Felly dewch i ni ddiolch i’r bobl hyn megis ein rhieni anhygoel.  Diolch, Dad, am yr holl bregethau ges i ar y ffordd i’r ysgol pan oeddwn i'n ifanc ac anaeddfed, a diolch, Mam, am ddysgu i mi sgiliau byw hanfodol, sef glanhau a choginio drosof fy hun.Diolch i'm chwarae a’m ffrindiau a oedd wrthi gydol y nos yn gwneud siŵr fy mod i wedi cyflwyno fy aseiniadau.Wedyn hoffwn i ddiolch i’r holl ddarlithwyr am eu holl waith caled ac am ddefnyddio eu holl egni i’n gwneud ni’n barod ar gyfer Bywyd Go Iawn.Hoffwn i hefyd ddweud, James Williams, eich bod chi’n ddarlithydd siriol, unigryw.  Mae’ch ysbryd chi yn ysbrydoliaeth i’r ysgol gyfan a heboch chi, ni fyddwn i wedi goroesi’r tair blynedd diwethaf.Rydych chi bob amser yn dweud mai fi sy’n gwneud hyn ar fy mhen fy hun ond nid felly y mae hi – chi oedd yn fy sbarduno i, yn dangos ffydd ynof i ac yn fy ngwthio i ddilyn unrhyw freuddwyd oedd gen i.Felly diolch o galon i chi am adael drws eich swyddfa ar agor, diolch am fod yn eilun i mi, diolch am fod eich hun.  

Mae aelodau staff eraill a wnaeth wahaniaeth a hoffwn i ddiolch:I Joan a’r staff eraill yn y dderbynfa am y glonc foreol; i Susan a’r Llyfrgellwyr eraill am fod yno i’m helpu i o ran cyfeirnodi a dod o hyd i lyfrau; i Simon a’r gofalwyr am wneud i mi wenu gyda’u jôcs neu eu sgyrsiau bach; i’r Adran Cyngor Gyrfaoedd am fy helpu i ddiweddaru fy CV.I Kim a Jamie yn yr adran Farchnata am yr holl brofiadau a ges i mewn gwahanol rolau llysgennad myfyriwr.I Gruff a gweddill y swyddfa ryngwladol am eu teithiau anhygoel.

Roeddwn i am ddiolch i bawb, oherwydd heb yn wybod i chi, rwy wedi eich ystyried chi’n ffrindiau ac yn deulu i mi dros y tair blynedd diwethaf.Nid yn unig trawsnewid fy addysg i a wnaeth Y Drindod Dewi Sant, trawsnewidiodd fy mywyd hefyd.

Des i i’r wlad hon ar ôl gadael fy ffrindiau a’m teulu gartref mewn ardal rhyfel.  Os nad ydych chi’n gwybod eisoes, rwy’n hanu o’r Yemen.Mae bod yma ers pedair blynedd yn dal i deimlo’n freuddwyd a phob dydd, roeddwn i’n byw fel pe bai hwn fyddai fy niwrnod olaf, gan ofni y byddwn i’n dihuno o’r freuddwyd ryfeddol hon ryw ddydd.  Am ryw reswm, i ddechrau roedd yn anodd i mi wneud ffrindiau a byddai hynny’n fy nigalonni.  Y ogystal, roeddwn i’n arfer poeni am fy nheulu bob dydd a phan fyddwn i’n cael galwad ganddyn nhw, byddwn i’n gweddïo i Dduw ac yn gofyn iddo beidio â rhoi newyddion drwg i mi.  Roedd hi’n anodd ymdopi â hynny weithiau.Ond gwnaeth yr holl straen i mi weithio’n galetach a chaletach yn y Brifysgol er mwyn rhoi gwybod i’n rhieni nad oeddwn i’n gwastraffu eu harian nhw– ond yn gweithio’n galed i’w gwneud nhw’n falch ohono i.Gwirfoddolais i a gwneud cais am bob swydd myfyriwr a oedd ar gael yn y Brifysgol yn llysgennad myfyriwr, cynrychiolydd cyfadran a swyddog myfyrwyr rhyngwladol a rhagor.  Y rheswm y gwnes i hyn oedd ei fod yn mynd â’m bryd i ac felly doedd dim amser gen i boeni am fy nheulu i a beth fyddai’n digwydd i mi ar ôl graddio.  Doeddwn i byth am fynd yn ôl i’r nosweithiau di-gwsg hynny pan oeddwn i’n poeni bob nos mai hon fyddai fy noson olaf i.Gwnes i’r cyfan er  mwyn parhau’n bositif a mwynhau beth oedd gen i - mae llawer o bobl yno a hoffai fod yn fy lle i a chofio hynny oedd yn gwneud i mi ddihuno bob bore.

Wyddoch chi, bobl, ddes i erioed yn gyntaf mewn unrhyw beth, ond dyma fi heddiw yn graddio gydag anrhydedd dosbarth cyntaf.  Mae hynny’n destun balchder i mi, o ystyried cymaint yr ydw i wedi tyfu’n berson.Bellach mae fy nheulu i’n byw yn Cairo felly does dim rhagor o straen, ac rydw i wedi gwneud ffrindiau oes ac mae pob un wedi gwneud fy mlwyddyn olaf yn y brifysgol yn flwyddyn i’w chofio.

Y neges sydd gen i ar gyfer pob un ohonoch chi yw, peidiwch â rhoi’r gorau iddi, peidiwch â gadael i unrhyw beth eich digalonni chi.  Os yw’ch bywyd chi’n hunllef , gadewch i hynny eich sbarduno chi i weithio’n galetach gan y byddai eraill yn barod iawn i newid lle â chi.Peidiwch byth ag anghofio eich breuddwydion, ni waeth pa mor ffôl y maen nhw, ewch amdani. Roedd nifer yn credu mai breuddwyd ffôl oedd yr araith hon ond roedd yn werth y byd i mi.Ymdrechwch yn lew.  Peidiwch ag ildio. Dim ond un bywyd a gewch chi ac os na fyddwch chi wedi cyflawni unrhyw un o’ch breuddwydion pryd y gwnewch chi hynny?A chofiwch hyn bob eiliad.  Wrth i chi dyfu’n hŷn efallai yr hoffech chi fynd yn ôl i’r cyfnod hynny a newid rhywbeth amdano, felly gwnewch yn siŵr fod pob cam a gymerwch yn un yr hoffech chi ei gymryd mewn gwirionedd.  Os felly, ewch amdani, a chofiwch dydych chi byth, byth yn rhy hen nac yn rhy ifanc i ddilyn eich breuddwydion.  Diolch

Nodyn i'r Golygydd

  1. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Sian-Elin Davies, Prif Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu, ar 01267 676908 / 07449 998476 sian-elin.davies@uwtsd.ac.uk