Datganiadau i'r Wasg 2016

Penglog a chyrn carw coch 4,000 mlwydd oed yn cael eu darganfod yn Borth

28.04.2016

Mae Dr Martin Bates a thîm o staff ymchwil o'r Ysgol Archaeoleg, Hanes ac Anthropoleg ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Llambed wrthi ar hyn o bryd yn archwilio penglog a chyrn carw coch mawr y credir eu bod tua 4000 mlwydd oed.

Cafodd y benglog ei gweld am y tro cyntaf ar y traeth yn y Borth gan Julien Culham a Sharon Davies-Culham ar ddechrau mis Ebrill. Yn hytrach na cheisio tynnu’r benglog o'r traeth, rhoesant wybod am y darganfyddiad i'r Comisiwn Brenhinol yn Aberystwyth a wnaeth yn ei dro hysbysu Dr Martin Bates, sydd wedi bod yn gweithio yn y Borth ers blynyddoedd lawer.

"Mae hwn yn ddarganfyddiad gwych sydd yn dod yn wir â'r goedwig a'i chyffiniau i'r amlwg," meddai Dr Bates.

"Roedd llanw lletchwith am bythefnos ers y darganfyddiad yn ei gwneud hi’n amhosibl i’r tîm fwrw ymlaen â’r ymdrechion i adennill y darganfyddiad. Wedyn ddydd Gwener ddiwethaf, dyma ni’n bwrw ati i ddod o hyd i’r  benglog unwaith eto, ond hyd yn oed yn y llanw isel, roedd y darn o draeth lle’r oedd y darganfyddiad yn parhau i fod o dan 1m o ddŵr.

"Oherwydd pryderon y gallai effaith bosibl y tywydd gwael achosi symudiad helaeth o dywod a graean ar wely'r môr - a fyddai’n gallu arwain at naill ai gorchuddio'r darganfyddiad neu’i ddifrodi – penderfynon ni geisio dod o hyd i'r darganfyddiad o dan y dŵr," meddai Dr Bates.

"Yr unig reswm yr oedd hyn yn bosib oedd bod gennym ni luniau o’r safle gwreiddiol a oedd yn golygu ein bod ni’n medru cael brasamcan o’r lleoliad bras trwy ddefnyddio’r wybodaeth hon.  Cafodd gwely'r môr ei archwilio’n drefnus gan deimlo a chyffwrdd nes, trwy ryw ryfedd wyrth, daethom ni o hyd i’r benglog. Cafodd ei safle ei gofnodi a chafodd y darganfyddiad ei symud ar gyfer ei glanhau a’i gofnodi. Bydd archwiliad pellach o'r man lle cafodd y benglog ei darganfod yn ystod y cyfnod nesaf o lanw isel ddechrau mis Mai," parhaodd Dr Bates.

Daw'r darganfyddiad o sianel fawr sydd wedi torri drwy'r goedwig ffosil adnabyddus yn y Borth.

Yn y sianel hon eisoes canfuwyd esgyrn ‘auroch’ mawr, sef ffurf ddiflanedig o wartheg gwyllt mawr a oedd unwaith yn byw yn Ewrop. Cafodd hwn ei ddarganfod yn y 1960au, ond ers hynny, fe’i collwyd i astudiaeth academaidd. Mae'r dyddodion goedwig a mawn bob ochr i’r sianel yn dyddio rhwng tua 6000 a 4000 o flynyddoedd yn ôl - adeg yr helwyr-gasglwyr olaf a’r ffermwyr cyntaf ym Mhrydain.

"Er nad yw union oedran y benglog wedi ei gadarnhau, mae'n debygol bod y sianel lle cafodd ei darganfod o’r un cyfnod â'r goedwig, ac felly mae’n debygol ei bod yn fwy na 4000 mlwydd oed," ychwanegodd Dr Bates.

"Mae'n wych bod rhywun wedi rhoi gwybod i ni am y darganfyddiad hwn er mwyn i ni allu adfer yr olion ar gyfer astudiaeth wyddonol - yn hytrach na'i fod yn diweddu ar wal tŷ rhywun – ar goll i’r byd fel y mae wedi bod ers dros 4000 o flynyddoedd," parhaodd.

Meddai Dr Ros Coard, arbenigwr ffawna ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Llambed: "Rydyn ni’n gwybod bod esgyrn anifeiliaid yn erydu allan o'u caenau gwreiddiol ar hyd arfordir Cymru, yn enwedig ar ôl stormydd y gaeaf, a bod aelodau o'r cyhoedd yn rhoi gwybod amdanyn nhw yn aml. Fodd bynnag, nid ydynt wedi bod mor fawr na thrawiadol â’r darganfyddiad diweddar hwn.

"Er bod rhaid dadansoddi’r cyrn a'r benglog yn llawn, gallwn ni ddweud bod y cyrn yn dod o garw mawr, aeddfed, gwrywaidd coch. Roedd yn sicr ym mlodau ei oes oherwydd datblygiad llawn y cyrn mawr. Cân nhw eu dadansoddi’n bellach yn ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Llambed."

Mae'r darganfyddiad yn rhan o gyfres barhaus o ymchwiliadau gan staff Y Drindod Dewi Sant i'r goedwig a'r cyffiniau. Mae gwaith adeiladu'r amddiffynfeydd môr newydd wedi darparu cyfleoedd newydd i astudio’r goedwig. Cynhelir y gweithgarwch hwn, sy’n cael ei ariannu gan Gyngor Sir Ceredigion, yn Llambed trwy ddefnyddio samplau a adferwyd o'r cynllun hwn. Dylai'r prosiect hwn ddarparu adluniadau manwl o'r goedwig gydol ei hoes a allai daflu goleuni ar sut a pham y bu farw’r goedwig a pham cafodd yr ardal ei boddi dan ddŵr unwaith eto.

Mae Dr Bates hefyd wedi ennill grant gan y Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol Annibynnol (ISRF) i ddod â grŵp o arbenigwyr o feysydd amrywiol (artistiaid, storïwyr, ieithyddion, archeolegwyr, cyfansoddwyr a beirdd) er mwyn dod i ddealltwriaeth newydd o’r modd y plethwyd ffeithiau a chwedlau ffeithiau llifogydd ym Mae Ceredigion. Dylai’r darganfyddiad newydd hwn, sydd wedi dychwelyd o’r dirwedd hon a fu o dan ddŵr, chwarae rhan ganolog yn y prosiect hwn.

Yn ogystal â'i waith yn y Borth, mae Dr Martin Bates hefyd wedi bod yn archwilio tirweddau colledig arfordir Norfolk, ac yn 2013 fe ddarganfu gyfres o olion traed a adawyd gan bobl gyntefig yn llaid aber hynafol dros 800,000 o flynyddoedd yn ôl ar y safle yn Happisburgh yn Norfolk.

Yr olion traed hyn, a ddarganfuwyd ym mis Mai 2013, yw’r rhai hynaf i’w cofnodi y tu allan i Affrica ac yn dystiolaeth uniongyrchol o’r bodau dynol cynharaf yng ngogledd Ewrop. Cafodd arwynebedd yr olion traed eu dadorchuddio yn ystod llanw isel wrth i foroedd trwm ddileu'r tywod ar y traeth i ddatgelu cyfres o bantiau hirgul wedi eu torri yn  y siltiau cywasgedig.

Cafodd yr arwyneb ei gofnodi trwy gyfrwng ffotogrametreg, techneg sy'n gallu pwytho lluniau digidol at ei gilydd i greu cofnod parhaol a delweddau 3D o'r wyneb. Y dadansoddiad hwn o'r delweddau a gadarnhaodd fod y pantiau hir hyn mewn gwirionedd yn olion traed dynol hynafol.

Gwybodaeth Bellach

  1. Am ragor o wybodaeth, neu i siarad â Dr Martin Bates, cysylltwch â Sian-Elin Davies: sian-elin.davies@uwtsd.ac.uk / 01267 676908 / 07449 998476