Datganiadau i'r Wasg 2016

Ymchwil arloesol ar seryddiaeth a beddau cynhanesyddol gan un o ddarlithwyr Y Drindod Dewi Sant

04.08.2016

Mae Dr Fabio Silva, sy’n ddarlithydd yng Nghanolfan Sophia ar gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan, a Dr Daniel Brown, sy’n ddarlithydd Seryddiaeth ym Mhrifysgol Nottingham Trent, wedi achosi cynnwrf yn y cyfryngau byd-eang gyda’u theori bod beddau cynhanesyddol wedi eu defnyddio’n ‘delesgopau’.

Ar ôl astudio beddau tramwyfa 6,000 mlwydd oed ym Mhortiwgal, daeth Silva i’r casgliad eu bod nhw’n gweithredu’n delesgop heb lens.

Byddai gwylwyr yn y twnelau wedi cael cyfle i sylwi ar ymddangosiad cyntaf Aldebaran, sef y seren goch a’r gwrthrych mwyaf disglair yng nghytser y Tarw cyn y rheini a oedd y tu allan. Roedd hyn yn hanfodol ar gyfer y defodau a amserai ymfudiadau tymhorol, megis mynd â defaid i borfeydd uwch. Dadleua Silva ei bod yn bosibl bod y digwyddiad blynyddol yn cyd-daro ag ymddangosiad cyntaf y seren yng nghyfnos y bore bob blwyddyn. "Roedd codiad cyntaf  Aldebaran yn digwydd ar ddiwedd mis Ebrill neu ar ddechrau mis Mai 6,000 o flynyddoedd yn ôl, felly byddai'n nod calendr da iawn, manwl iawn ar gyfer y symud i dir uwch," meddai.

"Y peth allweddol yw bod bedd tramwyfa a’i goridor hir yn gweithredu’n delesgop heb lens - mae'n debyg i'r tiwb hir sy'n cyfyngu ar olygon ar yr awyr ger y gorwel." Ychwanegodd Dr Daniel Brown "y gallai gweld rhan fach o’r awyr yn unig mewn amgylchedd tywyll helpu’r llygad i ganolbwyntio ac ymestyn yr ymaddasu i’r tywyllwch."

Gallai’r sylwadau seryddol hyn fod yn gysylltiedig â defodau hynafol lle gadwyd unigolion ar eu pen eu hunain yn y beddrod gydag olion eu hynafiaid. "Mae cyfoeth o dystiolaeth erbyn hyn nad claddu oedd unig ddiben y beddau tramwyfa hyn ond iddyn nhw gael eu defnyddio   ar gyfer defodau derbyn," meddai Dr Silva. Ychwanega fod y defodau hyn yn aml yn cynnwys datgelu cyfrinach seryddol i’r un a dderbynnir. "Ai’r gyfrinach oedd bod modd i’r aelod newydd weld y seren yn codi ddiwrnodau, onid wythnos gyfan, cyn i bawb arall y tu allan i’r bedd tramwyfa ei gweld hi?" meddai.

Ar hyn o bryd mae Dr Silva a'r tîm wrthi’n rhoi prawf ar y syniadau hyn trwy efelychu yn y labordy yr olygfa yn yr awyr oddi mewn i’r beddau tramwyfa.

Cyflwynwyd gwaith Dr Silva a’r tîm yng Nghyfarfod Seryddiaeth Cenedlaethol y Gymdeithas Seryddol Frenhinol yn 2016 mewn sesiwn benodol ar seryddiaeth ddiwylliannol a gydlynwyd gan Dr Brown. Adroddwyd amdano yn y DU yn y Guardian, y Daily Telegraph, y New Scientist ac Astronomy Now, ac o gwmpas y byd yBBC World Service; Der Spiegel (Yr Almaen); y cylchgrawn Archaeology, y cylchgrawn WIRED, CBS News, FOX News  a The Washington Post (UDA); New Zealand Herald (Seland Newydd); The Hindu (India); Jibada (Tsieina); a Globo (Brasil).

Mae Dr Silva yn addysgu’r cwrs ar Awyrluniau, Cosmoleg ac Archaeoleg yng Nghanolfan Sophia y Brifysgol ar gyfer Astudio Cosmoleg mewn Diwylliant.

Gwybodaeth Bellach

Rhagor o wybodaeth: Rebecca Davies 07496 385597