Skip page header and navigation

Gwenllian Beynon BA (Anrhyd) MA, TAR (Ôl 16)

Image and intro

Silwét pen ac ysgwyddau dynes.

Cyfarwyddwr Rhaglen, Uwch Darlithydd, Darlithydd

Coleg Celf Abertawe

E-bost: g.beynon@uwtsd.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

Mae Gwenllian yn gyfarwyddwr rhaglen i’r graddau Celf a Dylunio a Chelf Ymarferol ar Gampws Caerfyrddin.

Mae hefyd yn cael ei chyflogi i ehangu’r ddarpariaeth mewn Celf trwy gyfrwng y Gymraeg yn y Brifysgol.

Cefndir

Mae Gwenllian Beynon yn ymarferydd creadigol ac yn Argraffydd sy’n defnyddio egwyddorion amlddisgyblaethol gan gynnwys 2D, 3D, dylunio, theatr, prosesau traddodiadol, anhraddodiadol ac yn ymdrechu i weithio mewn modd cynaliadwy gan leihau’r risg i’r amgylchedd. Mae wedi bod yn ddarlithydd yn ym Mhrifysgol Cymru y Drindod dewi Sant ers 2005.

Hyfforddwyd Gwenllian yn Ysgol Gelf Caerdydd a raddiodd gan ennill BA (Anrh) mewn Celfyddyd Gain. Yn 2002, enillodd  tystysgrif addysgu ar gyfer addysg ôl-16 (TAR). Mae Gwenllian wedi gweithio’n helaeth o fewn y byd celf yng Nghymru fel artist llawrydd a hwylusydd gweithdai mewn celf a theatr ac yn cyfrannu at addysg mewn ysgolion a cholegau a darpariaeth gymunedol. Mae hi wedi arddangos yn eang yn y DU ac Ewrop.

Ers graddio â gradd Meistr o Ysgol Gelf Wimbledon yn 1996 bu Gwenllian yn artist llawrydd a hwylusydd gweithdai gan ysbrydoli creadigrwydd mewn eraill; defnyddia egwyddorion addysgol ffurfiol / anffurfiol mewn ysgolion, theatr a’r gymuned, a chanolbwyntio ar y wedd hon ar ei hymarfer a wna ei doethuriaeth ar hyn o bryd. 

Mae Gwenllian yn aelod gweithgar a bywiog o’r tîm academaidd ac ymhlith ei roliau presennol mae cydlynu rhaglenni, darlithio mewn arfer creadigol, arwain ar ddarparu agweddau damcaniaethol ar y raddau israddedig ac mae’n Uwch Ddarlithydd trwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae addysgu’n ddwyieithog yn ganolog i rôl academaidd Gwenllian a datblygir hon ar hyn o bryd er mwyn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr israddedig astudio celf a dylunio yn eu crynswth, trwy ddefnyddio’r Gymraeg, sef rhywbeth na wnaed erioed o’r blaen ym maes addysg celf a dylunio ar y lefel hon.

Addysgu arfer celf greadigol yw un o egwyddorion sylfaenol dysgu Gwenllian ac yn y flwyddyn gyntaf o’r graddau mae’n seilio hyn mewn modiwlau 2D amlddisgyblaethol. Wrth i’r myfyrwyr ddatblygu drwy’r radd mae hi a’i chydweithwyr yn credu mewn dysgu cydweithredol gan ganiatáu croes ffrwythloni  syniadau a phrosesau creadigol, gan annog a gadael i’r myfyrwyr i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer mannau gwaith creadigol cyfoes. Mae hi hefyd yn arwain ar faterion cynaliadwy o fewn cyd-destun y celfyddydau creadigol gweledol.

Diddordebau Academaidd

Mae Gwenllian yn aelod gweithgar a bywiog o’r tîm academaidd ac ymhlith ei roliau presennol mae cydlynu rhaglenni, darlithio mewn ymarfer creadigol, arwain o ran darparu agweddau damcaniaethol y graddau israddedig ac mae’n Uwch Ddarlithydd trwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae addysg ddwyieithog yn ganolog i rôl academaidd Gwenllian a datblygir hyn ar hyn o bryd er mwyn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr israddedig astudio celf a dylunio yn eu crynswth, trwy ddefnyddio’r Gymraeg, sef rhywbeth na wnaed erioed o’r blaen ym maes addysg celf a dylunio ar y lefel hon.

Meysydd Ymchwil

Ar hyn o bryd mae Gwenllian yn ymgymryd â doethuriaeth ac yn archwilio rôl a pherthynas rhwng hwylusydd a chyfranogwyr mewn lleoliadau a gweithdai creadigol. Yn sail i’r ymchwil hwn mae ymchwilio i brosesau academaidd, creadigrwydd a theithiau creadigol dysgu.

Arbenigedd

  • Hwylusydd celf gymunedol. 
  • Ymarferydd creadigol amlddisgyblaethol mae hyn yn cynnwys gweithio mewn prosesau 2D a 3D. 
  • Cydweithredwr Creadigol. 
  • Ymgysylltu gyda nifer o brosesau i gynnwys dylunio, crefftau, yn gweithio mewn theatrau ar setiau a pherfformiadau, 
  • Argraffu