Gwobr Llais Rhyngwladol Stuart Burrows

Stuart Burrows Award poster 2017(cy)

 

Gwahodd Ceisiadau Gwobr Llais Ryngwladol Stuart Burrows

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn gwahodd ceisiadau ar gyfer Gwobr Llais Ryngwladol Stuart Burrows.

Cafodd y wobr ryngwladol hon ei sefydlu i anrhydeddu'r tenor byd-enwog o Gymru, Stuart Burrows gyda'r nod o helpu unawdwyr ifanc yn eu gyrfaoedd cerddorol .

Dros y blynyddoedd mae’r wobr ariannol o £5,000 wedi denu cystadleuwyr o ar draws y byd gyda’r enillydd yn derbyn £4,000 a’r gweddill yn cael ei rannu rhwng y cystadleuwyr eraill sy’n llwyddo i gyrraedd y rownd derfynol.  

Yn ei unfed flwyddyn ar ddeg mae’r gystadleuaeth bellach yn cael ei hystyried yn un o’r digwyddiadau pwysicaf i unwadwyr ifanc yn y DU.  Beirniaid y gystadleuaeth eleni yw Buddug Verona James, cantores opera, (http://www.buddug.co.uk) a Nicholas Winter, Opera Cenedlaethol Cymru. 

Bydd y gystadlaetah yn digwydd ar gampws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin ar ddydd Sul 11 Mehefin.  Cynhelir y rowndiau rhagbrofol yn ystod y dydd gyda’r rownd derfynol gyda’r hwyr.  Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 5 Mai 2017.

Rheolau, Chanllawiau a Ffurflen Cais