Tystysgrif Ôl-radd mewn Polisi a Chynllunio Iaith

Cynigir y dystysgrif ôl-radd hon trwy bartneriaeth rhwng Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Dwyieithrwydd y Brifysgol a IAITH: y ganolfan cynllunio iaith. Mae’n cyfuno astudiaethau academaidd a phrofiad cymhwysol yn y maes. Gosod yr ymdrechion i greu Cymru ddwyieithog yn eu cyd–destun hanesyddol, gwleidyddol, cymdeithasol a rhyngwladol yw nod y dystysgrif arloesol hon.

Ffeithiau Allweddol

Côd sefydliad: T80
Hyd y cwrs:
Un flwyddyn

Lleoliad:
Caerfyrddin
Ysgol/Cyfadran:
Cyfadran Addysg a Chymunedau
Enw Cyswllt:
Dr Hywel Glyn Lewis
E-bost Cyswllt:
h.lewis@tsd.uwtsd.ac.uk
  Cymraeg



Bydd y dystysgrif hon yn apelio at unigolion graddedig sy’n gweithio yn y maes cynllunio iaith o fewn sefydliadau cyhoeddus Cymru neu mewn mudiadau trydydd sector yn y gymuned. Bydd yn rhoi sail gadarn i fyfyrwyr o ran deall prif gysyniadau cynllunio iaith a datblygiad y maes fel gweithgaredd proffesiynol dros y degawdau diweddar. Bydd y cwrs hefyd yn cynnig cyfle i unigolion gymhwyso’u dysgu i’w profiad a’u gwaith eu hunain.

Mae’r dysgu yn digwydd trwy gyfuniad o seminarau a thiwtorialau, gwaith darllen, 3 aseiniad a phortffolio ar sail gwaith maes. Crynhoi’r seminarau i 12 diwrnod ( 6 ar gyfer pob modwl) a chynhelir y mwyafrif o’r rhain ar ddydd Sadwrn. Cynigir cyfle i ymgymryd â 35 awr o waith maes. Mae modd i’r rheiny sy’n gweithio yn y maes eisoes, seilio’r portffolio ar eu gwaith presennol.

Dau fodwl sydd i’r dystysgrif: CYAD7012CHanfodion Cynllunio Iaith a CYAD7013CHyrwyddo’r Gymraeg.

Mae’r modwl CYAD7012CHanfodion Cynllunio Iaith (30 credyd) yn cyflwyno myfyrwyr i wreiddiau’r ddisgyblaeth, cysyniadau allweddol a dulliau gweithredu ynghyd â datblygiad polisi cyhoeddus yng nghyswllt y Gymraeg dros y degawdau. Mae’r modwl hefyd yn cyfeirio at sefyllfa ieithoedd cyfansoddiadol, rhanbarthol a gwladwriaethau llai eraill.

Mae’r modwl CYAD7013C Hyrwyddo’r Gymraeg (30 credyd) yn edrych yn feirniadol ar yr ymdrechion i adfer y Gymraeg dros y 50 mlynedd diwethaf - datblygiadau mewn polisi a deddfwriaeth, datblygiadau mewn gweinyddiaeth gyhoeddus a gweithgareddau i gryfhau’r defnydd o’r Gymraeg ar lawr gwlad.

Manteisia’r Dystysgrif Ôl-radd mewn Cynllunio Iaith ar y profiad ieithyddol cyfoethog a gynigir gan y cyd-destun dwyieithog yng Nghymru yn ogystal ag arbenigedd cydnabyddedig Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a IAITH: y ganolfan cynllunio iaith.

Er ei pherthnasedd i’r cyd-destun Cymraeg a Chymreig, mae i’r dystysgrif hon, ffocws rhyngwladol y gellir elwa arno er budd y sefyllfa yn genedlaethol.  Mae’n darparu myfyrwyr ar gyfer galwedigaethau amrywiol sy’n ymwneud â dwyieithrwydd/ amlieithrwydd a’u galluogi i gymhwyso egwyddorion sylfaenol, ynghyd â gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau pwnc-seiliedig, at eu hanghenion galwedigaethol beunyddiol.

Ar gyfer y modwl CYAD7012CHanfodion Cynllunio Iaith disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno dau aseiniad 4,500 o eiriau'r un - un ar agweddau damcaniaethol y modwl a’r llall ar agweddau polisi cyhoeddus y modwl.

Cwestiynau enghreifftiol:

  1. Trafodwch yn gymharol y modelau adfer iaith a hyrwyddir gan Fishman, R. Cooper ac ymagweddau Marcsaidd o gynllunio iaith, megis gan G. Williams.
  2. Sut mae’r cysyniad o iaith a grym yn ei amlygu ei hun yn natblygiad y Gymraeg er 1962?

Ar gyfer y modwl CYAD7013C Hyrwyddo’r Gymraeg rhaid cyflwyno un aseiniad 4,500 o eiriau ar agweddau sefydliadol neu gymunedol y modwl ynghyd â phortffolio o 4,500 o eiriau ar sail ymweliadau maes.

Cwestiynau enghreifftiol:

  1. Trafodwch y dulliau sydd gan Gyngor Sir yng Nghymru wrth law i hyrwyddo’r Gymraeg o fewn ei gylch gorchwyl.
  2. Ai datblygu cymunedol yw priod waith mentrau iaith? Trafodwch.

Er mwyn sicrhau perthnasedd proffesiynol, rhoddir cyfle digonol i fyfyrwyr gymhwyso at eu dibenion eu hunain y deunydd a gyflwynir iddynt, ac i gyfeirio at eu meysydd gwaith unigol yng nghorff yr aseiniadau. 

Goruchwylir trefniadau mynediad yr Ysgol gan y Tiwtor Mynediad ynghyd â Phennaeth Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Dwyieithrwydd.

Fel arfer, disgwylir bod myfyrwyr ôl-radd wedi ennill gradd gyntaf a ddyfarnwyd gan brifysgol neu gorff dyfarnu cydnabyddedig.

Sut bynnag, caniatâ Polisi Mynediad yr Ysgol hefyd geisiadau oddi wrth fyfyrwyr nad ydynt efallai yn cydymffurfio â gofynion academaidd y dull mynediad arferol. Gall yr Ysgol, felly, ystyried ceisiadau oddi wrth fyfyrwyr aeddfetach y bydd ganddynt brofiad perthnasol a /neu gymwysterau amgen i’r rheiny a amlinellir uchod. 

Mae’r dystysgrif hon yn darparu myfyrwyr ar gyfer galwedigaethau amrywiol sy’n ymwneud â dwyieithrwydd/ amlieithrwydd a’u galluogi i gymhwyso egwyddorion sylfaenol, ynghyd â gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau pwnc-seiliedig, at eu hanghenion galwedigaethol beunyddiol. Bydd o ddiddordeb mawr hefyd i’r rhai sy’n gweithio yn y maes eisoes, megis Swyddogion Iaith, Cynllunwyr Iaith, Swyddogion Y Llywodraeth, Llunwyr Polisi a Gweithwyr Ieuenctid.

Nod y dystysgrif hon ydyw ystyried yn feirniadol brif agweddau    damcaniaethol y maes cynllunio iaith, gan gyfeirio at ddamcaniaethau a dadansoddiadau perthnasol ac at enghreifftiau ymarferol a dynnir o Gymru a gwledydd tramor. Trafodir y prif ddatblygiadau cymdeithasol a gwleidyddol o safbwynt cynllunio iaith yng Nghymru yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf ac edrychir ar y modd y mae sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru yn hyrwyddo’r Gymraeg, beth sy’n eu cymell a pha brosesau ac egwyddorion yr ymwneir â nhw. Edrychir hefyd ar sut y caiff defnydd o’r Gymraeg ei hyrwyddo gan unigolion a chymunedau Cymraeg eu hiaith, gan asiantaethau’r wladwriaeth ac eraill.

Mae'n gwrs delfrydol i unrhyw un sy'n gweithio yn y maes cynllunio iaith ac sydd eisiau cydnabyddiaeth academaidd a phroffesiynol o'u sgiliau a'u gwybodaeth neu i fyfyrwyr sy'n edrych ymlaen at yrfa yn y maes cynyddol bwysig hwn.