Astudiaethau Israddedig

Undergrade courses Banner

BA – Astudiaethau Lleisiol

Mae ein BA Astudiaethau Lleisiol wedi’i chrynhoi yn rhaglen 2 flynedd ddwys sy’n alwedigaethol ac ymarferol. Mae pob modwl wedi’i ddylunio’n benodol i fod yn gwbl berthnasol i ddatblygiad canwr. Mae’r model hwn yn rhoi mwy o amser cyswllt rheolaidd i’r myfyriwr bob wythnos sy’n eu paratoi’n lleisiol ac yn gerddorol.

Addysgir y rhaglen BA drwy wersi grŵp, hyfforddiant un i un, dosbarthiadau meistr, gweithdai, darlithoedd a seminarau. Hefyd, bydd myfyrwyr yn ymgymryd ag astudiaeth ac arfer personol.

Mae’r rhaglenni BA yn cynnwys:

  • Techneg leisiol
  • Ieithoedd (Eidaleg, Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg a Rwsieg)
  • Gallu Cerddorol Cyffredinol
  • Crefft lwyfan
  • Sgiliau clyweliad a rheoli gyrfa
  • Hanes a Repertoire y Llais Canu
  • Perfformiad Terfynol