Lles a Chymunedau Cydnerth

Social Inclusion Hands

Mae Lles a Chymunedau Cydnerth Cynaliadwy yn ddwy thema academaidd i ni yn yr Ysgol Cyfiawnder a Chynhwysiant Cymdeithasol (YCChC), ac o fewn y Gyfadran Addysg a Chymunedau.

Yn ganolog, o ran hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol a chyfleoedd cyfartal ar gyfer pawb, yw rôl ymchwil, arfer a dadleuon ehangach mewn perthynas â lles, yn ogystal ag adeiladu cymunedau cynaliadwy a chydnerth.

Amcan ein hymchwil yw cael effaith gadarnhaol ar y cymunedau hynny sy’n rhan o’n cymdeithas a’r sawl sy’n byw ynddynt.

Mae’r YCChC yn cynnig proffil academaidd amrywiol, sy’n cynnwys:

  • Eiriolaeth
  • Sgiliau cynghori ac arfer;
  • Astudiaethau addysg (cynradd a chymunedau);
  • Iechyd a lles yn y gweithle / iechyd a lles i ofalwyr;
  • Astudiaethau cymdeithasol (anghenion ychwanegol; cymunedau iechyd a gofal cymdeithasol; teuluoedd ac unigolion; eiriolaeth);
  • Eiriolaeth;
  • Lles pobl ifanc; gwaith ieuenctid; addysg anffurfiol sydd heb fod yn ffurfiol.

Mae’r staff i gyd yn ymarferwyr sy’n tynnu ar eu meysydd gwybodaeth amrywiol a’u harbenigedd er mwyn darparu cyfleoedd i gyfrannu at ymchwil, arfer a dadleuon ar draws amrywiaeth eang o sectorau, ond sy’n cael eu tanategu gan set gadarn o werthoedd o ran cyfiawnder cymdeithasol).        

Caiff gweithgaredd ymchwil o fewn yr YCChC  ei adnabod fel a ganlyn:

  • Ymchwil a gwerthuso a ariennir;
  • Addysgu a hysbysir gan ymchwil;
  • Datblygiad amgylchedd ymchwil ôl-raddedig bywiog.

Ymchwil Cyfoes:

Sefydlwyd y Prosiect Sbectrwm gan Hafan Cymru er mwyn:

“Gweithio gyda phobl ifanc yng Nghymru, yn bennaf yn yr ysgol, er mwyn codi ymwybyddiaeth o gamdriniaeth yn y cartref a’i heffaith ar blant a phobl ifanc, a darparu pobl ifanc â’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt i chwilio am gymorth, pe baent yn profi camdriniaeth yn y cartref.” (Hafan Cymru 2016)

Dros gyfnod o dair blynedd, gwerthuswyd sut mae’r Prosiect Sbectrwm yn cael ei gyflwyno o fewn ysgolion ar draws Cymru drwy ddefnyddio methodoleg gymysg a safbwyntiau lluosol diddorol.

Mae casglu data ansoddol gyda staff yr ysgol, plant a phobl ifanc, a thrwy ddefnyddio holiaduron cyn ac ar ôl gwerthuso, wedi darparu tystiolaeth sylweddol sy’n awgrymu bod yr hyfforddiant, yn ogystal â datblygiad parhaol yr adnoddau hyfforddi,  yn cael effaith gadarnhaol. 

‘Gadewch i ni Siarad am Therapïau Seicolegol’ yw menter newydd Hafal i hyrwyddo mynediad at therapïau siarad gan bobl yng Nghymru sydd ag afiechyd meddwl difrifol. Caiff ei hariannu gan y Loteri Fawr. Amcanion y prosiect yw:  

“…hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o therapïau siarad ac ymyriadau sydd yn seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer pobl yng Nghymru sydd ag afiechyd meddwl difrifol. Gwnaiff y gweithgareddau a gwasanaethau gynnwys datblygu canllawiau hawdd eu defnyddio am therapïau, creu tudalennau gwe penodol a rhaglen hyfforddi ar gyfer staff a grwpiau eraill sydd â diddordeb, a darparu adborth i’r Byrddau Iechyd Lleol ar y therapïau maent yn eu darparu. Bydd y fenter hefyd yn rhychwantu ac yn mapio argaeledd y gwasanaeth ar draws Cymru, yn ogystal â choladu, prosesu a dadansoddi data er mwyn gwella ein dealltwriaeth o  therapïau siarad yn rhanbarthol ac ar hyd ac ar led Cymru gyfan.” (Hafal, 2016).

Gwnaiff PCYDDS gefnogi Hafal drwy fod yn bartner gwerthuso, gan gryfhau ei ymrwymiad o ran asesu’n feirniadol gwaith ‘Gadewch i ni Siarad am Therapïau Seicolegol’ a darparu tystiolaeth sy’n cefnogi ei effaith a’i gynaladwyedd parhaus. 

Mae PCYDDS yn darparu hyfforddiant a gefnogir gan Lywodraeth Cymru er mwyn galluogi’r sawl sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ar draws naw sector weithlu i gael y wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen er mwyn sicrhau bod egwyddorion y CCUHP yn cael eu cyfuno â’u harferion. Mae hwn yn brosiect o dair blynedd, ac rydym ar hyn o bryd yn yr ail flwyddyn.  

Mae gwerthuso’r hyfforddiant yn ceisio sicrhau:

  • Gwell ymwybyddiaeth o’r CCUHP a hawliau’r plentyn yng Nghymru;
  • Gwell ddealltwriaeth o sut gall y sectorau gweithlu hyn effeithio ar, a galluogi hawliau plant.

Gwnaeth gwerthusiad o flwyddyn un, a wnaeth ganolbwyntio ar hyfforddiant gyda gofal plant, addysg a gofal cymdeithasol, nodi bod, allan o 310 o gyfranogwyr:

  • 88% yn teimlo bod yr hyfforddiant yn rhagorol ac o safon dda iawn, gyda 11% yn teimlo ei fod o safon dda;
  • y mwyafrif o gyfranogwyr yn teimlo bod yr hyfforddiant yn werthfawr, gyda’r adborth cychwynnol yn dangos bod gwybodaeth a dealltwriaeth o’r CCUHP wedi cynyddu a bod awydd clir i weithredu’r wybodaeth fel rhan o’u harfer, yn ogystal â’i rhannu gyda’u cydweithwyr – plant a phobl ifanc;
  • Hefyd, fe gynhelir gwerthusiad dilynol i fesur effaith yr hyfforddiant. 

Ar hyn o bryd, caiff PASS (Peer-Assisted Study Sessions - Sesiynau Astudio gyda Chymorth Cymheiriaid) peilot eu cynnal  yn yr YCChC, ond yn fwy penodol, cânt eu cynnig i’r holl fyfyrwyr blwyddyn gyntaf sy’n astudio am radd MSoc / BA mewn Astudiaethau Cymdeithasol. Mae’r arwyddion cynnar yn awgrymu bod tua 25% o fyfyrwyr Lefel 4 yn mynychu’r sesiynau yn rheolaidd, ac mae’r adborth anffurfiol wedi bod yn hollol gadarnhaol.

Caiff yr ymchwil ei gynnal ar un o’r themâu cyfoethogi sy’n ymwneud â chadw myfyrwyr, a’u cyrhaeddiad. Am fod ymgysylltu gan fyfyrwyr wrth galon y thema gyfoethogi, yna, caiff rhan helaeth o weithredu’r prosiect a’r ymchwil canlyniadol eu hymgymryd gan grŵp o fyfyrwyr sydd ar hyn o bryd yn astudio Lefel 5 o’r cwrs MSoc / BA mewn Astudiaethau Cymdeithasol. Mae’r myfyrwyr hyn yn chwarae sawl rôl: maent yn fyfyrwyr, yn fentoriaid PASS ac yn ymchwilwyr. 

Mae cyfnod cyntaf y prosiect ymchwil yn ceisio mynd i’r afael â’r cwestiynau canlynol:

  • Pa effaith y mae’r cynllun PASS yn ei gael ar fentoriaid a’r sawl sy’n cael eu mentora?
  • Pa feysydd arfer da i’w gweithredu y mae hi’n bosib eu nodi. Pa feysydd y mae hi’n bosib eu datblygu?
  • Yr ail gyfnod (2017/18): yn y dyfodol, yn ystod yr ail flwyddyn, cynhelir prosiect ymchwil a fydd yn ymchwilio i gynaladwyedd ac arfer da, ac erbyn hyn, efallai, bydd rhai o’r sawl sydd yn awr yn cael eu mentora yn fentoriaid.

Mae ymchwil yn dangos  bod cyfranogwyr sy’n astudio ar y rhaglen PASS yn ennill graddau uwch, maent yn llai tebygol o roi’r gorau iddi, ac yn fwy tebygol o ddatblygu’r sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Dyma un o’r negeseuon a dderbyniwyd gan y mentoriaid ar Facebook: 

'Roeddwn am i chi wybod fy mod wedi bod yn dod i’r sesiynau PASS hyn, ac maent wedi bod o gymorth aruthrol. Diolch yn fawr iawn i chi am eich gwaith, a gwaith y merched eraill xxxx.' (myfyriwr blwyddyn gyntaf BA mewn Astudiaethau Cymdeithasol, 2016)

Er y gellir canfod mai, yn gyntaf, y  sawl a gaiff eu mentora , ac yn ail, y mentoriaid, yw prif fuddiolwyr gweithredu’r rhaglen PASS, y mae tystiolaeth sylweddol i awgrymu bod y manteision yn cyrraedd llawer mwy na’r grŵp ‘targed’ cychwynnol hwn.  

  • Caiff adroddiad ei gynhyrchu erbyn Ebrill 2017 ar gyfer y cyfarfod ‘thema gyfoethogi’ diwethaf a gaiff ei gynnal yn PCYDDS;
  • Byddwn yn gweithio gyda’r myfyrwyr er mwyn ysgrifennu’r casgliadau ar gyfer cyfnodolyn PCYDDS, sef  Y Myfyriwr Ymchwil

Mae Llywodraeth Cymru (2009) wedi ymrwymo ei hun i gynorthwyo ymgeiswyr o gefndiroedd  anhraddodiadol ac ehangu mynediad i fynd i brifysgol yng Nghymru. Mae Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru yn ymateb i’r agenda hwn drwy ganolbwyntio, nid dim ond ar niferoedd y ceisiadau, ond hefyd ar gadw myfyrwyr a sicrhau eu dilyniant unwaith maent wedi cyrraedd y brifysgol  (HEfCW, 2015).

Mae Llywodraeth Cymru, wrth ystyried cadw myfyrwyr a sicrhau eu dilyniant, yn pryderu fwyaf am yr ymgeiswyr hynny sy’n dod o gefndiroedd sydd wedi’u hamddifadu fwyaf yn gymdeithasol. Mae’r math hwnnw o fyfyriwr yn debygol o ddod i’r brifysgol gyda chymwysterau is, neu heb gymwysterau o gwbl, neu mae’n rhan o amrywiol grwpiau difreintiedig  (Croll ac Attwood, 2013).

Mae gan Gymru gyfran uwch o ymgeiswyr a ddaw o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gyda 13% yn dod o gymunedau sy’n dangos cyfranogaeth is,  a gyda hyd at 20% o fyfyrwyr israddedig yn fyfyrwyr aeddfed (Prifysgolion Cymru , 2016).

Felly, mae’r prifysgolion yn awr, yn canolbwyntio ar y rhai hynny sy’n dod atynt yn uniongyrchol o’r ysgol; y rhai hynny a ystyrir yn fyfyrwyr aeddfed ‘ail gyfle’, yn ogystal â myfyrwyr ifanc ‘anhraddodiadol’. Mae’r cynnydd hwn mewn myfyrwyr anhraddodiadol hefyd wedi achosi gofyniad am wahanol fath o beirianwaith cynorthwyol, nid dim ond i sicrhau cadw’r myfyrwyr, ond hefyd er mwyn sicrhau eu dilyniant o fewn Addysg Uwch.

Mae’r ymchwil hwn yn ceisio archwilio ‘profiad byw’ myfyrwyr sydd ar hyn o bryd yn astudio am radd Gwyddoniaeth Gymdeithasol, ac sydd fwyfwy yn dod  naill ai  o sylfaen anhraddodiadol neu  o sylfaen ymgeiswyr aeddfed.

Diben yr ymchwil hwn yw archwilio’r ‘hyn sy’n gweithio’ o ran cadw myfyrwyr anhraddodiadol  sy‘n astudio ar y rhaglenni MSoc.Stud/ BA mewn Astudiaethau Cymdeithasol a sicrhau eu dilyniant. Mae’r graddau MSoc.Stud. a BA mewn Astudiaethau Cymdeithasol yn tynnu ar amrywiaeth eang o gefndiroedd, gan gynnwys cyn-droseddwyr, y cyn-ddigartref, unigolion sy’n ymadael â’r gwasanaeth plant mewn gofal, rhieni sengl a myfyrwyr aeddfed sydd heb gymwysterau ffurfiol.   

Mae cyflymder ymadael y myfyrwyr hyn yn glod i’r unigolion sydd ar y rhaglen ac sy’n wynebu amrywiol heriau; byddai’r prosiect hwn yn rhoi amser i archwilio beth allai’r rhaglen ychwanegu at eu bywydau ac i amlinellu’r hyn y gellid ei newid er mwyn cynorthwyo’n bellach cadw’r myfyrwyr, yn ogystal â chystadlu am y rhai sy’n anodd eu cyrraedd a ‘grwpiau mewn perygl’.

Gwnaiff yr ymchwil hwn ganolbwyntio ar y myfyrwyr hynny nad ydynt yn dod yn uniongyrchol o’r ysgol neu sydd yn ‘anhraddodiadol’ ac sydd ar hyn o bryd yn astudio ar amrywiol raglenni o fewn yr YCChC. Caiff y cwestiynau canlynol eu harchwilio ar sail ymchwil cyfranogol:

  • Pam wnaethoch chi ddewis y rhaglen hon?
  •  Beth yw heriau mynychu prifysgol?
    • Pa gymorth oedd, yn eich barn chi, fwyaf effeithiol wrth i chi barhau ar eich taith addysgol?
    • Beth yr hoffech chi weld ar gyfer cynorthwyo eich taith ddysgu yn y brifysgol?
    • Sut, os o gwbl, y mae’r rhaglen wedi cynorthwyo eich sgiliau cyflogadwyedd?
    • Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth ymgeisydd arfaethedig sydd am ddod ar y rhaglen a pham?
  • Pa ddylanwad, os o gwbl, gwnaeth y ‘daith ddysgu’ hon gael yn academaidd ac yn bersonol ar eich bywyd? 

Caiff yr ymchwil hwn ei gyflwyno yng Nghynhadledd Flynyddol y BSA  (Y Gymdeithas Gymdeithasegol Brydeinig) 2017 04/04/2017-06/04/2017.

Ar hyn o bryd, caiff cynllun peilot ei ragbrofi o fewn Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu er mwyn archwilio a chynorthwyo’r trawsnewid o wahanol gynulleidfaoedd a wasanaethid gan glerigwyr unigol i gyd-dyriad o’r rhain wedi’u cyfuno o fewn Ardaloedd Gweinidogaeth sy’n cynnwys Tȋm Gweinidogaeth o glerigwyr a lleygwyr.

Gweledigaeth yr Esgobaeth yw “sefydlu cynlluniau realistig” (Cynllunio ar gyfer Tyfiant yn eich Eglwys) er mwyn tyfu’r Eglwys o fewn strwythur newydd.

Diben yr hyrwyddiad hwn oedd darparu adborth i glerigwyr Tîm Ardal Weinidogaeth Penderi  wedi’i seilio ar wybodaeth a gasglwyd yn ystod cyfres o ddadleuon grŵp gan aelodau tair cynulleidfa a wnaeth gymryd rhan yn y cynllun peilot, ynghyd â dau unigolyn proffesiynol o PCYDDS.   

Seiliwyd strwythur y sesiynau ar adnoddau a ddarparwyd gan Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu ar gyfer archwilio gweledigaeth a strwythur yr Ardaloedd Gweinidogaeth drwy ganolbwyntio ar y meysydd ‘Casglu’, ‘Tyfu’ a ‘Mynd’. Caiff adroddiad cyflawn ei gyhoeddi yn 2017.

Amcanion y prosiect hwn yw:

1. Dogfennu effaith y graddau Sylfaen (GS) a gynigir gan PCYDDS i gynorthwywyr addysgu (CA) (ac aelodau staff ysgol cynorthwyol eraill):

a.  Fel modd o ehangu mynediad at AU ar gyfer myfyrwyr anhraddodiadol a;
b.  Fel ffordd o hyrwyddo cyrhaeddiad dilynol yn academaidd (y tu hwnt i’r Radd Sylfaen) ac yn broffesiynol (mewn lleoliadau addysg).

2. Nodi’r ffactorau hynny sy’n hyrwyddo cadw myfyrwyr ar raglenni GS yn ogystal â’r ffactorau hynny a allai rwystro rhag cadw myfyrwyr/ neu gyrhaeddiad. 

Mae PCYDDS wedi cynnig rhaglenni GS rhan-amser i gynorthwywyr addysgu o Gaerfyrddin ac Abertawe am y 12-13 blynedd ddiwethaf, gan gofrestru myfyrwyr anhraddodiadol sydd â, i ran helaeth, dim ond cymwysterau galwedigaethol, ac sy’n gweithio amser llawn tra eu bod nhw’n astudio.  

Mae galwadau’r rhaglen yn sylweddol, wrth iddynt geisio ymdopi â’r teulu, cyfrifoldebau  gwaith a’r anawsterau astudio ar lefel addysg uwch – her maent fel arfer yn ei wynebu gyda thipyn o anesmwythder a diffyg hunan-hyder. Er hynny, mae cannoedd o fyfyrwyr wedi graddio ar y rhaglenni hyn, sydd wedi recriwtio yn gyson bob blwyddyn ar draws De/Gorllewin Cymru, ac mae llawer o raddedigion yn parhau i astudio ac ennill gradd BA (drwy raglenni ychwanegol a gynhelir yn PCYDDS a mannau eraill); mae nifer bach yn defnyddio hyn fel ffordd o gael mynediad at raglenni HAGA.

Mae tystiolaeth storïol yn awgrymu bod y sawl nad ydynt yn parhau i astudio ymhellach, er hynny, yn ‘symud ymlaen’ yn ei gweithleoedd wrth eu cyflogwyr ymddiried yn fwyfwy ynddynt a rhoi mwy o gyfrifoldebau iddynt. Mae’r raddfa cadw myfyrwyr ar y rhaglenni GS wedi bod yn uchel; prin iawn yw’r myfyrwyr sy’n ymadael heb GS gyflawn neu’r dystysgrif Addysg Uwch amgen.

Mae paratoi cyhoeddiadau a chyflwyniadau ar gyfer cynadleddau yn mynd yn ei flaen.  

Ymchwil Ôl-raddedig

Mae gennym amgylchedd ôl-raddedig sy’n ffynnu ac yn tyfu. Mae’r themâu PhD yn cynnwys:

  • Lles a phobl ifanc;
  • Profiadau o ymfudwyr;
  • Trais teuluol, datblygiad y plentyn ac ymlyniad;
  • Ymchwilio i ddysgu wedi’i seilio ar y gweithle;
  • Effeithiau natur wledig ar bobl ifanc NEET.

Mae themâu ymchwil MA yn cynnwys:

  • Ymchwil cyfranogol gyda phobl ifanc;
  • Proffiliau ac asesiadau cymunedol er mwyn hyrwyddo cymunedau cynaliadwy;
  • Gwaith ieuenctid a gwasanaethau ieuenctid;
  • Cydraddoldeb ac amrywiaeth;
  • Astudiaethau cymdeithasol;
  • Cwnsela a seicotherapi;
  • Astudiaethau Addysg;
  • Cynorthwywyr addysgu.