Côr Ifor Bach yn ennill cystadleuaeth gorawl S4C Côr Cymru 2024.
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn llongyfarch Côr Ifor Bach ar ei llwyddiant fel pencampwyr Côr Cymru 2024.
Mae Côr Ifor Bach yn gasgliad o fyfyrwyr sy’n astudio cyrsiau BA Perfformio, BA Theatr Gerddorol, BMus Perfformiad Lleisiol ar gampws y Brifysgol yng Nghaerdydd ynghŷd â unigolion eraill sy’n byw ac yn gweithio yn y brif ddinas.
Cynhaliwyd y rownd derfynol yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth neithiwr lle roedd pum côr yn cystadlu am dlws Côr Cymru a gwobr o £4,000. Cafodd y gystadleuaeth ei ddarlledu’n fyw ar S4C yng nghwmni’r cyflwynwyr Heledd Cynwal a Morgan Jones.
Cyflwynodd pob côr raglen amrywiol o ganeuon, gan greu cryn argraff ar y beirniaid rhyngwladol. Ar y panel beirniadu eleni roedd Grant Llewellyn, yr arweinydd o Gymru; Greg Beardsell, y cawr corawl o Swydd Efrog; a Dr Darius Lim, yr arweinydd byd enwog o Singapôr.
Dywedodd Cyfarwyddwr Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru, Eilir Owen Griffiths, arweinydd Côr Ifor Bach. “Mae gwneud y gystadleuaeth yma wedi bod yn un o’r pethau yna sy’n gwthio’r côr,”
“Mae’r côr yma dim ond gyda fi ers mis Hydref, ac megis dechrau gobeithio ydi hwn i ni, oherwydd maen nhw wedi gweithio mor, mor galed.”
Penderfynodd y myfyrwyr sefydlu’r aelwyd fel rhywbeth allgyrsiol i’w hastudiaethau er mwyn medru cymdeithasu, canu a chystadlu gyda’i gilydd drwy gyfrwng y Gymraeg.
Un o aelodau’r côr yw’r myfyriwr BA Perfformio, Jona Milone. Meddai
“Wedd hi’n brofiad anhygoel i gystadlu yng Nghôr Cymru gyda chystadleuaeth mor ddwys! Mae e wir yn hudol; o’r foment ble chi’n sefyll ar y llwyfan gyda’r ensemble a chymryd yr anadl gyntaf – cyn mynd ar y siwrne yma gyda’ch cyd-ganwyr.
“Mae Eilir wedi dangos i ni shwt mae Côr Ifor Bach yn lawer fwy na jyst canu fel ensemble, mae’n cynnwys emosiwn, adrodd straeon a pherfformio. Mae’r rhan fwyaf ohono ni yn astudio’r Celfyddydau, ac felly’n joio’r mynegiant o berfformio yma.
“Gan ddiolch i Ifor Bach, fi wedi dod hyd yn oed agosach i bobl y côr sy’n dod a phobl o’r Brifysgol a phellach at ei gilydd i ganu’n un, fel grŵp o bobl ifanc Cymraeg a dathlu ein hangerdd a chariad tuag at y grefft.”
Beirniad answyddogol y gystadleuaeth oedd y soprano adnabyddus, Elin Manahan Thomas,
“Fel rheol buasai beirniad yn dweud ’mod i wedi synnu gydag ansawdd y corau sydd wedi bod yn cystadlu, ond y gwir amdani yw nad ydw i wedi synnu o gwbl,” meddai.
“Llongyfarchiadau enfawr i Gôr Ifor Bach – mae hi wedi bod yn bleser gwrando arnyn nhw yn ein swyno.”
Ychwanegodd Hefin Owen, Cynhyrchydd y gyfres Côr Cymru ar S4C:
“Llongyfarchiadau i Gôr Ifor Bach ar ennill tlws Côr Cymru 2024.Cafwyd noson ragorol yn y rownd derfynol ac roedd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn berwi gyda chynnwrf y cystadlu.
“Mae’n braf dweud bod y safon eleni mor uchel ag erioed.
“Un o amcanion y gystadleuaeth yw rhoi cyfle i gorau Cymreig gymryd rhan mewn cystadleuaeth o safon ryngwladol gydag arbenigwyr o bob cwr o’r byd yn cael eu gwahodd i feirniadu.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476