Skip page header and navigation

Mae Reena Patel, Pennaeth Ysgol Kitchener yng Nghaerdydd, yn ysgogi arloesi ac arweinyddiaeth yn y sector addysg, gan fod yn enghraifft o rym dysgu drwy brofiad o ran cychwyn newid ystyrlon. Wrth i ni nodi’r Wythnos Dysgu yn y Gwaith, Mai 13-19, mae PCYDDS yn dathlu gwaith arloesol Reena ar effaith Dysgu Proffesiynol ar addysgu yn yr Ysgol Gynradd, gan arddangos ei hymrwymiad i ragoriaeth a gwelliant parhaus.

An image of Reena Patel

Wedi cwblhau MA mewn Arfer Proffesiynol, bu taith Reena’n nodedig am ei hymroddiad i wella safonau addysgu a hyrwyddo diwylliant o gydweithio a thwf o fewn ei sefydliad. Yn rhan o’i hastudiaethau, dogfennodd Reena ei thaith drawsnewidiol, gan amlygu ei hagwedd strategol at reoli newid a’i rôl wrth ddatblygu diwylliant o welliant parhaus. 

Dywedodd Reena: “Trwy adfyfyrio ar fy arfer proffesiynol, rwyf wedi nodi sut rydw i wedi datblygu fy ngallu i wella safonau addysgu a rheoli newid trwy arddangos sgiliau arwain effeithiol. Mae cydnabod fy nghyraeddiadau a’r hyn rydw i wedi’i ddysgu ar hyd y ffordd yn sicr wedi fy helpu i symud ymlaen i’m rôl bresennol yn Bennaeth. Roeddwn am sicrhau fy mod yn dal i ddysgu ac ennill sgiliau newydd er mwyn cael yr effaith orau ar yr holl blant yn yr ysgol.”

Roedd ei dysgu drwy brofiad yn ganolog i daith Reena, a gyfrannodd dau draean o’r credydau tuag at ei MA mewn Arfer Proffesiynol. Trwy adfyfyrio ar ei rôl a nodi sut mae hi wedi datblygu yn uwch arweinydd wrth weithio, gallodd Reena nodi casgliad o dystiolaeth i gefnogi ei hawliad. Fe wnaeth y gydnabyddiaeth hon o’i phrofiad proffesiynol helaeth alluogi Reena i gael effaith sylweddol ar arferion addysgu a dysgu mewn ysgolion cynradd ledled De Cymru.

Roedd dysgu drwy brofiad Reena’n canolbwyntio ar Reoli Newid o safbwynt cynyddu perfformiad a dysgu proffesiynol athrawon a amlygodd agwedd strategol Reena at wella safonau addysgu a dilyniant disgyblion. Trwy ddadansoddi a gwerthuso beirniadol, nododd Reena gyfleoedd am dwf ac arloesi, gan osod y sylfeini ar gyfer newid trawsnewidiol yn ei sefydliad. Trwy gyflwyno tystiolaeth gymhellol o gydweithio parhaus ac arbenigedd ymarferol, arddangosodd Reena ei gallu i feithrin diwylliant o welliant parhaus ac arloesi yn ei hysgol a thu hwnt.

Ychwanegodd: “Mae hunan-adfyfyrio yn rhywbeth a wnawn drwy gydol ein hyfforddiant athrawon, ac yn sydyn, rydym yn ei adael wrth gatiau’r ysgol ar ôl cymhwyso. Hwn yw’r maes dysgu pwysicaf i athro a thrwy adfyfyrio, gall athrawon edrych yn glir ar eu llwyddiannau a’u trafferthion i ystyried opsiynau am newid sy’n cael effaith fawr ar ddysg plentyn; mae’n gam annatod tuag at wella arfer.”

Meddai Sarah Loxdale, arweinydd ar y modwl Cydnabod ac Achredu Dysgu: 

“Mae taith Reena yn brawf o rym trawsnewidiol dysgu drwy brofiad o ran ysgogi newid cadarnhaol mewn addysg. Mae ei hymrwymiad i arloesi a chydweithio yn ysbrydoliaeth i addysgwyr ym mhobman.” 


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau