Mae’r Athrofa Addysg a’r Dyniaethau’n cyfuno’r disgyblaethau addysg, seicoleg, polisi cymdeithasol, ieuenctid a chymuned a’r dyniaethau.
Gan gynnig dull personol a chynhwysfawr o astudio, rydym yn annog ac yn canolbwyntio ar ddatblygu myfyrwyr yn raddedigion medrus, cyflogadwy sy'n canolbwyntio ar y dyfodol.
Trwy addysgu arloesol, profiad ymarferol ac amgylchedd dysgu cynhwysol rydym yn creu, yn arloesi ac yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o addysgwyr, arweinwyr a dylanwadwyr.
Ein Lleoliadau
Mae’r Athrofa’n darparu rhaglenni ar draws campysau’r Brifysgol yng Nghymru, gyda myfyrwyr yn dilyn rhaglenni ar ein campws yn Ardal y Glannau Abertawe, campysau Caerfyrddin a Llambed, yn ogystal â dewis o gyrsiau ar ein campws yng Nghaerdydd ac yn ein colegau partner.