Aimee Cousins Early Years

Aimee Cousins | BA Astudiaethau Plentyndod Cynnar

Mae’r darlithwyr eu hunain yn astudio a chanddynt gariad amlwg at y pwnc. Maent yn rhoi hyder i chi! Rwyf nawr yn deall pan ein bod yn gwneud yr hyn rydym yn ei wneud – o ran theori. Er enghraifft, rydym yn gwybod y theori fathemategol a gwyddonol, tu ôl i flociau pren (Frobebel). 

Rwyf nawr yn gweithio i ‘Action for Children’. Mae’r cwrs wedi fy helpu i wneud gwahaniaeth i bobl ifanc drwy ddefnyddio mentrau Dechrau’n Deg. 



Elizabeth Lewis | Early Years

Elizabeth Lewis | Blynyddoedd Cynnar

Astudiais y radd carlam Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar ac rwyf wedi fy synnu gan faint rwyf wedi’i ddysgu. Rwyf wedi gweithio yn y Blynyddoedd Cynnar ers yn agos i 30 o flynyddoedd ac wedi llwyr fwynhau ochr ddamcaniaethol y cwrs ac wedi cymhwyso hyn nawr i’m rôl, yn gweithio yn y Blynyddoedd Cynnar. Rwyf wedi addasu fy arfer i elwa dysgu a datblygiad y plant. Ni feddyliais y byddai gen i fyth y fath awch am wybodaeth yn fy oed i. Es i o fod yn casáu boreau Llun i fod yn caru’r teimlad hwnnw ar ddydd Llun pan ro’n i’n gwybod fy mod yn mynd i’r Brifysgol. Yn fy oed i – rwyf yn fy 50au – nid oeddwn i wir yn gwybod llawer am y byd academaidd ond rwy’n rhan ohono nawr ac mae’n hollol anhygoel. Rwy’n wir ei fwynhau ac mae’r cyfan er lles y plant dan fy ngofal. 



Joanne Davies | Early Years

Joanne Davies | Blynyddoedd Cynnar

Roedd pawb yn wych a’r darlithwyr mor gefnogol, roeddynt yn llawn anogaeth a chanmoliaeth. Rwy’n teimlo’n falch iawn ac yn falch o’m ffrindiau i gyd – bu inni weithio gyda’n gilydd fel tîm a bu inni lwyddo, roedd e’n wych. Nawr, rwy’n mynd i fynd i wneud TAR ac rwy’n edrych ymlaen at fod yn athro.