Angharad Griffiths | Astudiaethau Cymdeithasol (BA)
Roedd y darlithwyr a’r bobl ar y cwrs yn anhygoel. Mae’n dda cael pobl gyfeillgar ar eich cwrs. Y rhan orau i mi oedd gwneud y traethawd hir oherwydd er ei fod yn cymryd dros eich bywyd fe gewch ddewis eich ymchwil a gwneud gwahaniaeth.
Ken O'Grady | Weithwyr Ieuenctid a Chymuned (BA)
“Cyrhaeddais y Drindod Dewi Sant yn fyfyriwr aeddfed oedd heb astudio ers cryn dipyn. Mae cwblhau gradd yn sicr yn her ond mae’n hollol bosibl gyda’r gefnogaeth wych a gewch gan ddarlithwyr a staff eraill yn y brifysgol. Os oes ei angen arnoch chi ai peidio, mae’n wych gwybod hefyd fod gennym ni un o’r timoedd Gwasanaethau Myfyrwyr gorau yn y DG.”
“Yn y rhaglen, mae’r darlithwyr yn Weithwyr Ieuenctid a Chymuned yn anad dim: gan eich trin gyda’r un parch, urddas, gofal a gwir ddiddordeb ag unrhyw berson ifanc – neu ‘berson ifanc hŷn’ sy’n dilyn y cwrs. Byddwch chi’n tyfu fel person yn y Drindod Dewi Sant, rwy’n addo. Mae’r darlithoedd yn fonws.”
“Yn aml bydd pobl yn meddwl am Waith Ieuenctid a Chymuned fel gradd ‘Mickey Mouse’. Pe bai modd i ni lwyddo drwy ysgrifennu aseiniadau ar bŵl a tenis bwrdd, byddai wedi bod yn eithaf sych. Yn lle hynny, rwy’n gadael gyda syniadau a safbwyntiau newydd ar waith gyda phobl ifanc na fyddwn i byth wedi’u hystyried o’r blaen. Des i yma’n credu mewn pobl ifanc a’u potensial... nawr rwy’n gwybod pam.”
“Yn y Drindod Dewi Sant rydych chi’n wir yn enw ac nid yn rhif. Mewn pwnc fel Gwaith Ieuenctid a Chymuned, mae hynny mor bwysig os oes arnoch eisiau trafod materion yn fanwl gan archwilio eich gwerthoedd gyda phobl eraill. Gyda grwpiau bach yn y darlithoedd a darlithwyr sy’n eich ‘nabod chi wrth eich enw, mae gennych chi’r math o amgylchedd lle gallwch chi fod yn onest. Byddwch yn teimlo’n saff i rannu eich syniadau gorau a thrafod eich arfer gwaethaf. Felly bydd pobl ifanc yn cael gwell profiad o waith ieuenctid ar ddiwedd y dydd. Dyna sy’n bwysig.”
“Mae astudio Gwaith Ieuenctid a Chymuned yn y Drindod Dewi Sant yn golygu gwneud Gwaith Ieuenctid a Chymuned a chysylltu theori ag arfer... Gallwch chi herio syniadau, adfyfyrio ar werthoedd ac archwilio pam rydym ni’n gweithio gyda phobl ifanc mewn nifer o ffyrdd penodol ac nid mewn ffyrdd eraill. Gallwch chi gytuno (neu anghytuno) â gweithwyr ieuenctid eraill a darlithwyr a darganfod syniadau newydd gyda’ch gilydd gan ddysgu oddi wrth eich gilydd ar yr un pryd. Yn bwysicach na hynny, mae lleisiau a phrofiadau pobl ifanc yn cael eu gwerthfawrogi’n fwy nag unrhyw werslyfr. Mae Gwaith Ieuenctid wedi’i adeiladu ar werthoedd penodol iawn – Cyfranogiad, Cynhwysiant, Mynegiant, Grymuso ac Addysg. Yn y Drindod Dewi Sant mae gradd mewn Gwaith Ieuenctid a Chymuned yn union yr un peth.”