Hafan YDDS  -  Y Brifysgol  -   Campysau, Canolfannau a Lleoliadau  -  Campysau Abertawe  -  Pam Abertawe?

Pam Abertawe?

Signs of UWTSD on Beach

Mae ABERTAWE yn ddinas ar lan y môr, yn lle gwych i fyw ac astudio: yn ddigon mawr i gynnig y lle sydd ei angen arnoch; yn ddigon bach i wneud i chi deimlo eich bod yn perthyn.

Mae gennym yr holl gyfleusterau a gweithgareddau diwylliannol y byddech yn disgwyl dod o hyd iddynt mewn Dinas Brifysgol - theatrau, sinemâu, orielau gwych, amgueddfeydd, tai bwyta, barrau a bywyd nos gwych i fyfyrwyr.  Drws nesaf i Benrhyn Gŵyr, “Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol” gyda thraethau tywod hir, syfrdanol.

Hefyd mae gennym ardal forol sydd wedi ennill gwobrau, Amgueddfa’r Glannau, Pwll Nofio Cenedlaethol o faint Olympaidd ac opsiynau chwaraeon niferus yn cynnwys syrffio, beicio mynydd, padlfyrddio, dringo, tennis i enwi ond ychydig.

Ac at hynny, mae'r costau byw yma'n rhesymol iawn o’u cymharu â’r rhan fwyaf o ddinasoedd prifysgol eraill. Mae personoliaeth ei hun gan Abertawe a dyma’r lleoliad perffaith i gychwyn ar eich taith.

Mae cynlluniau cyffrous ar y gweill i wneud Abertawe hyd yn oed yn well, yn cynnwys siopau newydd, tai bwyta, swyddfeydd, tai ac arena dan do!

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant hefyd yn cefnogi'r uchelgais i wneud Abertawe yn Ddinas Hawliau Dynol.

Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored