Mynd â’r gorau o Gymru i’r byd a dod â’r gorau o’r byd i Gymru.

Mae Academi Fyd-eang Cymru wedi’i sefydlu gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn ei Chynllun Strategol 2017-2022 i roi ffocws i’w gweledigaeth o fynd â’r gorau o Gymru i’r byd a dod â’r gorau o’r byd i Gymru. Hi yw canolbwynt rhwydwaith o sefydliadau dros y byd sy’n gysylltiedig â’r Brifysgol mewn partneriaethau cydweithredol yn yr ystyr ehangaf.

Cefnogir gwaith Academi Fyd-eang Cymru gan dri amcan sydd gyda’i gilydd yn cyfrannu i Strategaeth Addysg Fyd-eang y Brifysgol yn y dyfodol:

  1. Cyfoethogi Cyfleoedd Dysgu Byd-eang i ddysgwyr drwy weithio mewn partneriaeth ag eraill, p’un a ydynt wedi’u lleoli yn y DG neu dramor, er mwyn ymestyn y cyfleoedd byd-eang i ddysgwyr astudio rhaglenni sy’n arwain at ddyfarniad gan y Brifysgol neu sy’n rhan o gynlluniau symudedd myfyrwyr.
  2. Datblygu’r cysyniad o Gampws Byd-eang a phlatfform ar-lein i wasanaethu Academi Fyd-eang Cymru wrth roi mynediad i adnoddau a digwyddiadau a modd o’u rhannu, ac er mwyn hwyluso rhwydweithio ar draws partneriaethau byd-eang.
  3. Sefydlu Canghennau Academaidd Cymru er mwyn creu cymunedau byd-eang seiliedig ar bwnc i ddysgwyr, staff a chyn-fyfyrwyr a fydd yn cyfrannu at ddatblygu’r cwricwlwm, ymchwil ac ysgolheictod, ac at ddarparu cynlluniau cymrodoriaeth ar gyfer datblygiad proffesiynol, ac er mwyn hwyluso dysgu gydol oes, wedi’u tanategu gan gyfleusterau cynadledda’r Brifysgol a’i phartneriaid, a'r cyfleoedd cyhoeddi a ddarperir gan Wasg Prifysgol Cymru.