Amdanom Ni

Datblygu Pobl: Datblygu Gweithleoedd

Lansiwyd Athrofa Cymru ar gyfer Dysgu Seiliedig ar Waith (ACDSW) ym mis Mai 2014 gan Ken Skates AC, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg. O fis Medi 2019, bydd yr Athrofa’n newid ei henw i ‘Academi Cymru ar gyfer Arfer Proffesiynol ac Ymchwil Cymhwysol (ACAPYC), a adwaenir hefyd fel ‘Yr Academi’.

Mae’r Academi’n darparu cyfres unigryw o raglenni sy’n cynorthwyo pobl (a’u sefydliadau) i gynllunio eu datblygiad eu hunain fel y bo’n addas i’w harfer proffesiynol, eu gyrfa a’u hanghenion strategol, a’u dyheadau. Mae’n cynnig DPP a rhaglenni gradd o lefel israddedig i lefel doethuriaeth mewn arfer proffesiynol.

Ni oedd y cyntaf yng Nghymru i ddatblygu a darparu fframwaith datblygu proffesiynol dwyieithog integredig o’r math hwn. Yn fwy diweddar rydym wedi ymgorffori llwybrau achredu ar gyfer rhaglenni datblygiad staff cyflogwyr a galluogi darparwyr hyfforddiant i ddod yn bartneriaid gyda ni.

Mae tîm ACAPYC yn cynnwys staff sydd â phrofiad helaeth o amgylcheddau masnachol yn ogystal ag academaidd. Mae ganddynt bortffolio nodedig o raglenni sy’n canolbwyntio ar gyflogaeth ac sydd wedi ennill gwobrau lu, a ddarperir trwy lwybrau dysgu cyfunol yn ogystal â darpariaeth wedi’i theilwra ar gyfer unigolion sy’n dymuno cyrraedd y lefel nesaf yn eu gyrfa.

Mae ein darpariaeth ni yn wahanol i ddarpariaeth ‘parod’ arferol Prifysgolion eraill. Yn ACAPYC rydym yn gweithio gyda chi fel unigolyn o’r cychwyn i ddarparu’r datblygiad sydd ei angen arnoch i lwyddo yn eich gyrfa.

Cliciwch yma i drefnu trafodaeth gychwynnol

Blog yr Academi

Mae tîm yr Academi yn cyfrannu at flog ar arfer proffesiynol a dysgu seiliedig ar waith, sydd i’w weld yma. Mae’r blog yn cynnwys blogiau ar Cydnabod Dysgu Blaenorol, Ymwybyddiaeth Ofalgar, Cynaliadwyedd, Straen yn y Gweithle, Mentora, Llwybrau Dysgwyr, Cynadleddau a fynychwyd, Doethuriaethau Proffesiynol a llawer mwy.

  • Dysgu sy’n ymateb i alw gyda’i ansawdd wedi ei sicrhau ac sydd wedi ei deilwra i fodloni anghenion unigolion ac anghenion datblygu eu cyflogwyr.
  • Dysgu sydd wedi’i leoli yn bennaf yn y gwaith, sydd felly’n cwtogi ar yr amser sydd ei angen i ffwrdd o’r gweithle. Yn dilyn y cyfnod cynefino gellir astudio ein rhaglenni, sy’n canolbwyntio ar y dysgwr, yn y gwaith, gartref neu mewn man lle ceir mynediad i’r rhyngrwyd.
  • Dysgu sydd wedi ei drafod, gyda ffocws ar bartneriaeth sy’n cynnwys y dysgwr, y cyflogwr a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae pob dysgwr yn cwblhau prosiect seiliedig ar waith i ennill eu cymhwyster Arfer Proffesiynol.
  • Darpariaeth ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg).
  • Mae achredu dysgu blaenorol yn allweddol i’r rhaglen, naill ai o ran dysgu drwy brofiad gwaith neu drwy astudiaeth flaenorol.
  • Gwasanaeth achredu Addysg Uwch ar gyfer cyrsiau mewnol priodol sy’n ychwanegu gwerth i gyflogwyr a gweithwyr.
  • Amrywiaeth eang o fodylau y gellir eu hariannu’n llawn ar gyfer cyflogwyr cymwys yn Ardal Gydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewrop.  Gweler tudalennau ein Prosiectau am ragor o wybodaeth a manylion cyswllt.

 2019

  • Rhan o’r consortiwm llwyddiannus a enillodd raglen 10M ECU Horizon 2020 o’r enw FoodCloud i ddechrau ym mis Hydref 2019 

2018

  •  Cynhadledd gyntaf lwyddiannus ar Hyfforddi a Mentora yn y Gwaith, Abertawe, 27 Tachwedd

2017

  • ACDSW yn croesawu Pennaeth Adran  newydd, Annette Fillery-Travis.
  • ACDSW yn derbyn y 9fed garfan ar y Dystysgrif Raddedig mewn Cadarnhau Ymarfer Gwaith Cymdeithasol.

2016

  • ACDSW yn ffarwelio â dau o’i haelodau sefydlol, Dr Elizabeth Wilson a Dr Elsie Reynolds. 
  • ACDSW yn llwyddo i sicrhau Arian Ewropeaidd i redeg prosiect dysgu seiliedig ar waith newydd o’r enw GWLAD (Tyfu Gweithluoedd drwy Ddysgu a Datblygiad).

2015

  • Y garfan gyntaf ar raglen Arweinyddiaeth Glinigol  y GIG yn cyflawni eu 60 credyd yn llwyddiannus.
  • Dysgwyr Teach First yn cyflawni eu modylau mentora yn llwyddiannus.
  • Prosiectau Elevate Cymru a SWSW yn cyflwyno’u cyrsiau olaf ac yn falch o’u cyflawniad rhagorol a’r ffaith iddynt ragori ar eu targedau. 
  • Darparu’r cwrs DProf preswyl cyntaf yn llwyddiannus. 
  • Gweithdai ymchwil ac ysgolheictod yn cynyddu ymwneud ac allbwn yr adran.   

2014

  • Bron 70 o ddysgwyr Consortiwm Porth Agored yn cyflawni’r Dystysgrif Raddedig mewn Cadarnhau Ymarfer Gwaith Cymdeithasol yn llwyddiannus.
  • Datblygiad llwyddiannus y gyfres o fodylau dan arweiniad cyflogwyr ar Gyfathrebu Arweinyddiaeth mewn Iechyd a Diogelwch, ar gyfer TATA a 3M 

 

  • Medi
    Pleser gennym groesawu 10 ymgeisydd o Dorfaen i ail garfan y Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Arweinyddiaeth yn y Gwasanaethau Cyhoeddus.
    Rydym yn falch iawn i gydweithio gyda’r Gyfadran Addysg Athrawon a Teach First i lansio rhaglen fentora wedi’i hachredu ar gyfer 18 athro mewn ysgolion ar draws de Cymru. 
  • Gorffennaf
    Cynnal seremoni raddio y 37 o ddysgwyr Porth Agored a enillodd y Dystysgrif Raddedig mewn Cadarnhau Ymarfer Gwaith Cymdeithasol.
    Tîm ACDSW yn dathlu llwyddiant y tri dysgwr cyntaf i raddio gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
    Cofrestru 33 o uwch arweinwyr clinigol y GIG ar y rhaglen Arweinyddiaeth Glinigol.
    Liz Wilson, Pennaeth ACDSW yn derbyn Cadair Athro gan y Brifysgol am ei chyfraniad i ddysgu seiliedig ar waith.
  • Mai
    Sefydlwyd Athrofa Cymru ar gyfer Dysgu Seiliedig ar Waith yn swyddogol gan Ken Skates AC, Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, gan ddweud “Rwy’n falch iawn y bydd Athrofa Cymru ar gyfer Dysgu Seiliedig ar Waith yn ganolog i’r ymdrech hon i uwchsgilio gweithlu Cymru”.
  • Ebrill
    Dyfarnu’r contract i ddilysu Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Arweinyddiaeth Glinigol i ACDSW.
    Cawsom ganmoliaeth uchel yng ngwobrau nodedig Cymdeithas Dysgu Gydol Oes y Prifysgolion (yr UALL) am ein rhaglen arloesol ar Fentora’r Gweithlu.
    Rhoddodd pump aelod o staff o dîm ACDSW gyflwyniadau yng Nghynhadledd yr AAU ar Gyfeiriadau’r Dyfodol yn Aberystwyth.
    Dr Elsie Reynolds a Dr Liz Wilson yn cyflwyno yn y Gynhadledd Ryngwladol ar Ddoethuriaethau Proffesiynol yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd.
  • Mawrth
    Y garfan gyntaf o Tata Steel Wales wedi cwblhau eu modwl cynllun dysgu’n llwyddiannus trwy Elevate Cymru.
  • Chwefror
    Staff o ACDSW wedi derbyn achrediad yr Academi Addysg Uwch. Llongyfarchiadau i Andrew Edwards, Heather Fish, Martin Locock, Mair O'Connor, Nick Samuel a Rhianon Washington ar ennill Cymrodoriaeth yr AAU ac i David Cheseldine ar ddod yn Gymrawd Cysylltiol.

2013

  • Tachwedd
    Enillodd ACDSW wobr efydd yng ngwobrau cenedlaethol y Training Journal am y Rhaglen Orau yn y Sector Cyhoeddus gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ac IF Development.
  • Hydref
    80 yn rhagor o Weithwyr Cymdeithasol ar draws Cymru yn mynychu sesiynau cynefino ar gyfer Porth Agored.
  • Medi
    Wedi cyrraedd y rownd derfynol ar gyfer Gwobrau’r Training Journal: y Rhaglen Sector Cyhoeddus orau am y gwaith gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen. Cyfanswm o 19 o ymgeiswyr wedi cwblhau’r Dystysgrif Ôl-raddedig lawn mewn Arweinyddiaeth yn y Gwasanaethau Cyhoeddus, dau ddysgwr wedi mynd ymlaen i ennill Diploma Ôl-raddedig, ac 14 wedi mynd ymlaen i ennill MA llawn mewn Arfer Proffesiynol, nifer ohonynt â theilyngdod a rhagoriaeth.  Roedd y rhain yn cynnwys y ddau gynghorydd cyntaf i ennill cymhwyster gradd meistr ffurfiol mewn Arweinyddiaeth yng Nghymru.
  • Gorffennaf
    Graddio, gan gynnwys MA mewn Arfer Proffesiynol i ddysgwyr o Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
  • Mai
    Y chwe grŵp cyntaf o weithwyr cymdeithasol yn mynychu sesiynau cynefino ar draws Cymru ar gyfer Porth Agored.
    Y Ddoethuriaeth generig gyntaf mewn Arfer Proffesiynol (DProf) yn cael ei dilysu yng Nghymru.
  • Mawrth
    Lansio’r cymhwyster Tystysgrif Raddedig mewn Cadarnhau Ymarfer Gwaith Cymdeithasol gyda Porth Agored a Chyngor Gofal Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.
  • Ionawr
    Llongyfarchiadau i Dr Rhianon Washington ar ennill ei Doethuriaeth Broffesiynol mewn Hyfforddi a Mentora.
    Cais llwyddiannus am arian ar gyfer Prosiect Gweithlu Diogel: Gweithle Cynaliadwy yr ESF

2012

  • Tachwedd
    Lansio prosiect Elevate Cymru gyda Jane Davidson yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
    Dilysu Tystysgrif Raddedig mewn Cadarnhau Ymarfer Gwaith Cymdeithasol ar gyfer 12 adran Gwasanaethau Cymdeithasol ar draws Cymru (Porth Agored).
  • Gorffennaf
    Graddio.
  • Ebrill
    Gwaith gyda Murco ar achredu dysgu blaenorol (APEL) Gweithredwyr Prosesau Purfeydd Olew yn derbyn Canmoliaeth Uchel gan Gynllun Gwobrau’r UALL 2011-12.
  • Ionawr
    Cais llwyddiannus am gyllid ar gyfer prosiect Elevate Cymru yr ESF.

2011

  • Rhagfyr
    Tîm Dysgu Seiliedig ar Waith yn cynnal Cyfres Seminarau’r AAU, ‘Gwerthfawrogi Dysgwyr yn y Gweithle’ yng Nghaerfyrddin.
  • Tachwedd
    Y rhaglenni LATERAL a Mentora’r Gweithlu yn symud i ardal Abertawe ac yn cynnal lansiad.
    Dilysu modylau Aseswyr yn y Gweithle ar y cyd â Dyslecsia Cymru/Wales Dyslexia.
  • Hydref
    Penodi Dr Liz Wilson yn Athro Cysylltiol – Dysgu seiliedig ar Waith.
  • Gorffennaf
    Llongyfarch ein graddedigion cyntaf wrth iddynt ennill eu cymwysterau mewn Arfer Proffesiynol.
  • Mawrth
    Y Drindod Dewi Sant yn lansio’r prosiectau LATERAL a Mentora’r Gweithlu gyda Rupert Moon ym Mharc y Scarlets, Llanelli.  

2010

  • Gorffennaf
    Achrediad cyntaf Ysgol Haf Rheoli yng Ngwasanaeth Cyhoeddus Cymru (Academi Cymru bellach).
  • Mehefin
    Cais llwyddiannus am gyllid ar gyfer prosiect LATERAL yr ESF.
    Cais llwyddiannus am gyllid ar gyfer prosiect yr ESF Mentora’r Gweithlu.
  • Mawrth
    Lansio’r Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Gwasanaeth Cyhoeddus gyda dirprwywyr o Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, Heddlu De Cymru, elusennau lleol a chynghorwyr sir.

2009

  • Tachwedd
    Dilysu Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Arweinyddiaeth yn y Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
  • Gorffennaf
    Ethol Andrew Edwards yn Gymrawd Anrhydeddus - Coleg Prifysgol y Drindod.
  • Mai
    Lansio’r Fframwaith Arfer Proffesiynol  gan Andrew Davies AC, Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus.

2008

  • Rhagfyr
    Dilysu’r Fframwaith Arfer Proffesiynol gan ganiatáu achredu dysgu seiliedig ar waith dwyieithog o lefel 4 i ddarpariaeth meistr llawn.

Wrth sefydlu Athrofa Cymru ar gyfer Dysgu seiliedig ar Waith rydym yn adeiladu ar y gwaith a wnaed dros y pum mlynedd diwethaf lle rydym wedi dangos gwerth datblygu pobl trwy gydnabod pwysigrwydd dysgu drwy brofiad. Mae angen pontio rhwng prifysgolion a gweithleoedd ar draws Cymru oherwydd credwn nad oes unrhyw beth yn cymryd lle profiad y dysgwr o fyw bywyd.

Ar sawl achlysur mae ein dysgwyr yn dechrau’u hastudiaethau trwy gwestiynu a oes ganddynt y gallu i ennill cymwysterau lefel uwch. Rydym wedi ymrwymo i fod yn ymatebol i anghenion ein holl ddysgwyr a’u cyflogwyr, a byddwn yn gweithio ar y cyd i ddarparu modylau sy’n ymateb i’r anghenion hyn.  Os credwn nad oes gennym y modylau i’w cynorthwyo ar hyn o bryd yna fe ddywedwn ni hynny wrthyn nhw, ond yr hyn sydd ei angen yn aml yw rhaglen sy’n agor llygaid dysgwyr i’r potensial dysgu yn eu bywydau gwaith a gall hynny ddod, yng ngeiriau un o’r graddedigion, yn ‘broses o hunan-gadarnhau’.

Felly mae bod yn onest gyda dysgwyr a chyflogwyr yn hanfodol bwysig i ni, boed hynny wrth ddelio â’r sector preifat, cyhoeddus neu drydydd sector, trwy ddarparu rhaglenni wedi’u teilwra sy’n addas i gleientiaid unigol a fydd o fudd i’r economi ehangach a Chymru. Trwy achredu dysgu seiliedig ar waith rydym yn cynorthwyo yn natblygiad arferion rheoli mwy adfyfyriol, dilys a chynaliadwy a all ddod â manteision gwirioneddol i’r gweithle.

Ein nod yw trawsnewid y berthynas rhwng ein Hathrofa a chyflogwyr trwy eu gwahodd i gyfrannu i strwythur y modylau. Fel Prifysgol ar ei newydd wedd, sy’n delio â dysgwyr amrywiol, gallwn hwyluso mynediad i raglenni dysgu seiliedig ar waith ar lefel uwch sy’n addas ar gyfer y rhan fwyaf o alluoedd a lefelau datblygiad proffesiynol. Fel hyn, gallwn arloesi trwy ddarparu dysgu hyd at Ddoethuriaeth Broffesiynol yn seiliedig ar y syniad o ddysgu drwy brofiad.

Dros y pum mlynedd diwethaf, rydym wedi gweithio gyda dysgwyr o’r rhan fwyaf o sectorau ac wedi gweld gweinyddwyr, gweithwyr iechyd, rheolwyr TG, swyddogion heddlu, swyddogion llywodraeth leol a chanolog, ac eraill yn ennill cymwysterau lefel uwch. Heddiw rydym yn darparu rhaglenni i grwpiau mor amrywiol â gweithwyr cymdeithasol, uwch feddygon ymgynghorol a gweithwyr dur.

Mae croeso i chi gysylltu â ni ar wbl@uwtsd.ac.uk os hoffech drafod dysgu seiliedig ar waith ymhellach. Edrychwn ymlaen at glywed gennych chi.