Hafan YDDS - Y Brifysgol - Sefydliadau ac Academïau - Academi Cymru ar gyfer Arfer Proffesiynol ac Ymchwil Cymhwysol - Astudiaethau Achos
Astudiaethau Achos
Dyma gyfle i glywed gan rai o’n graddedigion MA Arfer Proffesiynol ac i ddysgu mwy am eu profiad o astudio gydag Academi Arfer Proffesiynol ac Ymchwil Cymhwysol Cymru.
Mae’r athrawes Ganu Jenny Morgan yn agosáu at gwblhau ei gradd MA mewn Arfer Proffesiynol (Addysgeg Leisiol) - rhaglen Meistr a gynigir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant mewn partneriaeth â Voice Workshop.
Mae Voice Workshop yn arbenigo mewn darparu llwybr hyblyg iawn i athrawon canu, hyfforddwyr lleisiol, cyfarwyddwyr corau a hyfforddwyr llais ac mae’n hwyluso astudio Addysgeg y Llais o fewn fframwaith Arfer Proffesiynol a achredir gan y Drindod Dewi Sant.
Mae Jenny yn athrawes ganu hunangyflogedig mewn ysgol gyfun yng nghanol Llundain, ac mae’n addysgu’n breifat ac yn Gyfarwyddwr Canolfan Sadwrn Cerddoriaeth Camden.
A hithau eisoes wedi astudio’r Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Arfer Proffesiynol, penderfynodd Jenny symud ymlaen i’r MA gan ei bod yn cynnig cyfle iddi fynd ymlaen â’i hastudiaethau gan barhau i weithio.
“Y sgiliau pwysicaf rwyf wedi’u hennill yw rhai academaidd: ymchwilio, ysgrifennu a datblygu ysgolheictod academaidd. Rwyf wedi dysgu sut i gynnal ymchwil gwreiddiol a’i gyflwyno mewn adroddiad i safon sy’n barod i’w gyhoeddi. Rwy’n teimlo hefyd fod fy sgiliau addysgu’r llais wedi tyfu a gwella drwy wybodaeth well a mwy cyfredol a gyflawnais drwy f’ymchwil,” meddai Jenny.
“Yn bersonol mae fy hyder mewn gwneud ymchwil ac ysgrifennu wedi cynyddu’n aruthrol. Mae wedi ailfywiogi fy ngwaith yn addysgu canu ac wedi rhoi syniadau i mi ar gyfer arwain a chynnig mentora i athrawon ifanc yng Nghanolfan Sadwrn Cerddoriaeth Camden.
“Mae’r cwrs hefyd wedi rhoi’r hyder i mi ystyried llwybrau eraill i’w harchwilio megis y byd academaidd ac ysgrifennu. Mae gen i fwy o hyder proffesiynol i roi cynnig ar bethau newydd a bod yn arloesol a chreadigol.
“Rwyf wedi dwlu ar y darlithoedd penwythnos a oedd wedi’u cynnig a’u cynnal gan Voice Workshop a’r cyfarwyddwr astudiaethau gwych, Debbie Winter. Rwyf wedi dwlu ar wneud ffrindiau newydd o bob oedran a llunio cysylltiadau proffesiynol ar gyfer y dyfodol. Mae’r ymdeimlad o gyflawniad wrth wneud yn dda yn yr aseiniadau wedi rhoi pleser mawr i mi a’r hyder i gyflwyno erthyglau i’w cyhoeddi’n broffesiynol.
“Ar y cychwyn roedd hi’n anodd iawn dod o hyd i gydbwysedd a ches i drafferth i gael cysondeb yn f’arferion astudio. Wrth i amser fynd heibio, rwyf wedi setlo i mewn i rythm astudio rheolaidd sy’n golygu fy mod i wedi ymlacio’n fwy, ac yn fwy effeithlon ac effeithiol yn f’ymchwil ac ysgrifennu,” ychwanega Jenny.
“Mae dysgu, gwella sgiliau a’ch trochi’ch hun mewn rhywbeth rydych yn frwdfrydig iawn yn ei gylch yn codi’r ysbryd, yn gadarnhaol ac yn werth chweil.”
I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau a gynigir yn Academi Cymru ar gyfer Arfer Proffesiynol ac Ymchwil Cymhwysol yn y Drindod Dewi Sant, ewch i https://uwtsd.ac.uk/cy/acapyc/ .
Ac i ddysgu rhagor am Voice Workshop, ewch i https://voiceworkshop.co.uk/
Graddiodd Sharon Frewin yn ddiweddar gydag MA mewn Arfer Proffesiynol yn Academi Arfer Proffesiynol ac Ymchwil Cymhwysol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar ôl dychwelyd i addysg er mwyn datblygu’i gyrfa.
Wedi gweithio yng Nghyngor Sir Gâr ers naw mlynedd, mae Sharon ar hyn o bryd yn gweithio fel Uwch Reolwr Cynhwysiant y Gymuned. Mae Sharon, a hyfforddodd yn wreiddiol fel nyrs, wedi astudio nifer o gyrsiau byr drwy ddefnyddio gwahanol arddulliau astudio ond mae’n dweud bod y cwrs hwn wir wedi’i helwa.
“Yn wreiddiol, dechreuais astudio gyda’r Drindod Dewi Sant fel rhan o gwrs Arweinwyr y Dyfodol Cyngor Sir Gâr. Roeddwn yn un o 12 gweithiwr a ddewiswyd i astudio’r cwrs ac ar ôl iddo orffen penderfynais fy mod eisiau dal ati i ddysgu a chofrestrais i astudio’r MA mewn Arfer Proffesiynol. Fe ‘gliciodd’ y math hwn o ddysgu,” meddai Sharon sy’n byw yn Llanpumpsaint, Sir Gâr.
“Ar gyfer fy MA penderfynais ffocysu ar Arweinyddiaeth a Rheolaeth ac mae’r sgiliau a gefais ac a ddatblygais yn ystod y cyfnod hwnnw wedi bod yn amhrisiadwy. Dysgais sut i fod yn fwy dadansoddol a sut i gymhwyso canfyddiadau fy ymchwil i’m harferion. Magais lawer iawn o hyder ac eglurder yn fy arfer fy hun hefyd.
“Hefyd, roedd gallu dangos tystiolaeth o sut roeddwn yn siapio a rheoli fy nhîm yn y gweithle yn wych. Des yn llawer mwy effeithiol; roedd gen i well ddealltwriaeth o’r ddamcaniaeth a des yn fwy ymatebol yn y gweithle.
“Rwyf wedi bod ofn methu mewn amgylchedd academaidd erioed ond treuliodd y tiwtoriaid amser gyda fi a datgyfrinio ochr academaidd pethau,” medd Sharon.
“Cefais drafferth ar y dechrau ond llwyddais i raddio gydag anrhydedd. Buddsoddodd y tiwtoriaid ynof fi; buon nhw’n treulio amser i weithio gyda fi ac fe wnaethon nhw rhoi o’u hamser, eu hegni - a’u hancesi papur - i’m helpu i lwyddo! Mae arna’i ddiolch enfawr iddynt gan eu bod wedi rhoi’r amser i ddod i ddeall fy arddull ddysgu.”
Graddiodd Sharon yn yr Haf 2019 ac roedd y profiad hyd yn fwy cofiadwy a melys am ei bod wedi graddio yn yr un seremoni â’i gwraig, Rosie.
“Astudiais yr un pryd â’m gwraig – Rosie – ac fe wnaethon ni greu amgylchedd dysgu adref. Roedd ein merch, Molly, hefyd yn astudio ar gyfer ei TGAU yn ystod y cyfnod hwnnw ac rwy’n siŵr ei bod wedi elwa o’n gweld ni’n astudio ac yn gweithio’n galed.
“Diolch byth, roedd gen i a Rosie wahanol ddyddiadau cyflwyno felly roedd yna ddealltwriaeth y byddem ni’n dal y slac yn dynn ar gyfer ein gilydd. Roedd fy nghyflogwyr yn hyblyg ac fe wnaethon nhw ganiatáu diwrnodau astudio oherwydd bod fy ngwaith Prifysgol yn ymwneud yn uniongyrchol â darn o waith trawsnewid roeddwn yn ei wneud ar gyfer y cyngor.
“Fe wnes i wir fwynhau’r prosiect olaf, yn tynnu’r holl waith roeddwn wedi’i wneud at ei gilydd – a’i weld yn gwneud gwahaniaeth i’m swydd.
“Yn anad dim, rwyf wedi magu hyder a hunangred, sy’n deimlad gwych. Rwyf hefyd yn teimlo bod fy arfer broffesiynol wedi’i chyfoethogi ac rwyf nawr yn arweinydd mwy addasadwy. ”
Am wybodaeth bellach ar y cyrsiau a gynigir yn Academi Arfer Broffesiynol ac Ymchwil Cymhwysol Y Drindod Dewi Sant, ewch i https://uwtsd.ac.uk/cy/acapyc/
Andrew Edwards yw Cyfarwyddwr Cynorthwyol Adolygiad Cam-drin Domestig Heddlu Dyfed Powys ar hyn o bryd ond mae wrthi’n paratoi ar gyfer rôl newydd yn yr heddlu ar ôl cael ei ddewis yn ddiweddar yn Uwcharolygydd trwy gynllun mynediad uniongyrchol y Coleg Plismona.
Astudiodd Andrew ar gyfer gradd Meistr mewn Arfer Proffesiynol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi ac mae ganddo gefndir mewn amddiffyn cyhoeddus a rheoli troseddwyr a dechreuodd ei yrfa fel Swyddog Prawf Cyswllt Dioddefwyr. Wrth i’w yrfa symud ymlaen, daeth Andrew’n Gyfarwyddwr Cynorthwyol ar yr Uned Cymorth Busnes gan reoli 140 o staff oddi mewn i’r heddlu cyn cael secondiad i dîm yr uwch swyddogion er mwyn arwain adolygiad cam-drin domestig gyda’r sefydliad. Erbyn hyn, mae ar fin cychwyn ar bennod newydd gyffrous – rhaglen hyfforddi 18 mis i fynd yn Uwcharolygydd gyda Heddlu Dyfed Powys.
“Roeddwn i’n ymwybodol o raglen newydd a oedd yn cael ei chynnig gan y Coleg Plismona a oedd yn anelu at ddenu pobl oddi mewn ac o’r tu allan i’r sefydliad i fynd yn uwch swyddogion a nodwyd fy mod i’n berson addas i wneud cais am y cynllun mynediad uniongyrchol ar lefel Uwcharolygydd.
“Roeddwn i hefyd yn ffodus fod ein Prif Gwnstabl, Mark Collins, a’n Comisiynydd Heddlu a Throseddau, Dafydd Llewellyn, yn gefnogol dros ben o ran datblygu staff ac yn hynod o flaengar wrth recriwtio staff o wahanol gefndiroedd,” meddai Andrew.
“Er mwyn gwneud cais ar gyfer y cynllun, roedd arna i angen cymhwyster Lefel 7 (Meistr) felly dyma fi’n penderfynu cofrestru gyda’r Drindod Dewi Sant i astudio’r MA mewn Arfer Proffesiynol. Mae gan yr heddlu berthynas agos â’r Brifysgol a chydweithwyr a argymhellodd y cwrs i mi
“Rhoddodd y cwrs Meistr gyfle i mi ymchwilio’n academaidd i’m harfer yn ogystal â’r gwaith roeddwn i wedi ei wneud o’r blaen. Roedd yn brofiad pleserus dros ben ac yn wirioneddol werth chweil hefyd. Mwynheues i gyflwyno fy ngwaith a chael adborth da. Datblygodd y cwrs hefyd fy ysgrifennu academaidd, fy sgiliau cyfeirnodi a chaniataodd i mi ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
“Os edrychwch chi ar y modylau – y traethawd adfyfyriol; dadansoddi anghenion hyfforddi a’r cynllun datblygu proffesiynol – heb os nac oni bai, maen nhw’n gosod y cywair am beth hoffech chi ei gyflawni. Gan fod profiad blaenorol yn rhan mor bwysig o’r cymhwyster hwn, mae’r rhan adfyfyriol yn hollbwysig. Gwnaeth y cwrs hwn i mi feddwl o ddifri am beth roeddwn i am ei sicrhau’n broffesiynol a gwnaeth hefyd i mi edrych ar fy nghryfderau a’m gwendidau gan roi i mi ddarlun mwy crwn ohono i.
“Roedd y cwrs hefyd yn gytbwys iawn gyda dilyniant da. Mae’n dechrau gyda beth yr hoffech chi ei gyflawni – holi am eich gwaith blaenorol – ac wedyn yn datblygu eich sgiliau ymchwil ymhellach mewn amgylchedd proffesiynol. Mae’r cwrs yn gorffen gyda phroject terfynol sy’n seiliedig ar waith ac sy’n caniatáu i chi ddefnyddio’r sgiliau newydd hynny a’u cymhwyso i brosiect sy’n uniongyrchol gysylltiedig â’ch gwaith o ddydd i ddydd.
“Yn ystod y cwrs, des i hefyd yn ffrindiau agos â phobl o wahanol sefydliadau. Byddem ni’n cwrdd yn aml drwy gydol ein hastudiaethau ac roeddem ni’n gefn i’n gilydd.
“Fodd bynnag, un peth nad oeddwn i wedi sylweddoli’n llawn wrth ddechrau oedd pa mor anodd yw cydbwyso gwaith ac astudio. Roedd hi’n anodd ac yn heriol ar adegau ond does dim dwywaith nad oedd hi’n werth yr ymdrech. Mae’n gymhwyster arbennig a ches i fudd mawr. Pan gyrhaeddwch chi ddiwrnod graddio ac rydych chi yno yn eich gwisg gyda’ch teulu o’ch cwmpas - mae’n golygu popeth - a dyna pryd rydych chi’n sylweddoli bod y cyfan wedi bod yn werth chweil.”
I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau a gynigir yn Academi Cymru ar gyfer Arfer Proffesiynol ac Ymchwil Cymhwysol yn y Drindod Dewi Sant, ewch i https://uwtsd.ac.uk/cy/acapyc/
Graddiodd Rhys James, Asiant Llongau sy’n gweithio yn TATA Steel Port Talbot, gyda gradd Meistr mewn Arfer Proffesiynol o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn 2018.
Yn gyfrifol am drefnu a docio llongau, mae gwaith pob dydd Rhys yn cynnwys delio ag ymholiadau’r Llu Ffiniau yn ogystal â chydlynu’r deunyddiau crai sy’n dod i mewn i weithfeydd TATA Steel ym Mhort Talbot a Chasnewydd a rheoli symud coil i mewn i Ewrop.
Roedd Rhys wedi dechrau gradd llawer o flynyddoedd cyn cofrestru i astudio’r MA yn PCYDDS ond heb gwblhau’r cwrs – rhywbeth a oedd bob amser wedi chwarae ar ei feddwl.
“Ro’n i wedi dechrau astudio ar gyfer gradd mewn Prifysgol arall – cyn derbyn swydd yn TATA – ond wnes i ddim o’i gwblhau. Roedd anfodlonrwydd yng nghefn fy meddwl drwy’r amser fy mod i heb ei gyflawni. Clywais am Ddiwrnod Agored roedd TATA yn ei gynnal ac roedd aelodau o staff PCYDDS yno yn dangos beth roedd y Brifysgol yn ei gynnig. Siaradon nhw â mi am yr MA seiliedig ar waith mewn Arfer Proffesiynol a sut y byddai’r dull hwnnw yn fy ngalluogi i ennill cymhwyster tra hefyd yn gweithio. Esbonion nhw yn ogystal sut y gallwn i ddefnyddio’r profiad ro’n i wedi ei ennill gyda TATA i fynd yn syth i mewn i radd Meistr. Petaswn i wedi mynd i wneud gradd israddedig neu radd Meistr mewn pwnc arall, fyddai hynny ddim wedi fy siwtio, ond drwy’r ffordd yma, ces i astudio gyda chymorth TATA ac ro’n i’n gallu priodoli’r hyn ro’n i wedi’i ddysgu i fy ngwaith pob dydd,” medd Rhys.
“Yn ystod y cwrs dysgais nifer o sgiliau a gwelais welliant sylweddol yn fy ngalluoedd ysgrifennu, gramadeg ac iaith. Er enghraifft, mae fy ngwaith ysgrifennu adroddiadau 10 gwaith yn well erbyn hyn nag y buodd cyn i mi wneud fy MA. Roedd fy narn cyntaf yn wahanol iawn i’r darn olaf – Heb os, dysgais sut i ysgrifennu mewn ffordd fwy proffesiynol,” pery Rhys.
“Mae llawer o fy ngwaith yn wynebu cwsmeriaid ac rwy’n teimlo bod fy sgiliau cyfathrebu ar lafar hefyd wedi gwella yn ystod fy nghyfnod astudio. Mae agweddau eraill ar fy ngwaith wedi eu datblygu yn ogystal o ganlyniad i fy astudiaethau– mae fy sgiliau rheoli amser, blaenoriaethu a chyflwyno i gyd wedi gwella – ac mae’r cwrs hefyd wedi dangos i mi sut i adlewyrchu ar fy ngwaith a sylweddoli faint ro’n i wedi’i gyflawni.
“Ar gyfer ein prosiect terfynol roedd rhaid i ni ddewis gwelliant y bydden ni’n ei weithredu yn ein gweithle. Edrychais ar y ffordd rydyn ni’n trin stoc ac roedd rhaid ymchwilio, dadansoddi a gweithredu’r cynllun gwella – rhywbeth a oedd yn uniongyrchol gysylltiedig â fy rôl o fewn TATA Steel.
“Roedd yr holl sgiliau a ddysgais yn rhai trosglwyddadwy rwy’ bellach yn eu defnyddio yn fy mywyd proffesiynol a phersonol. Rwy’ wedi sicrhau swydd newydd ac er fy mod i ddim yn siŵr ai canlyniad uniongyrchol yr MA oedd hynny, mae’n debyg bod y sgiliau a ddysgais yn ystod fy astudiaethau wedi helpu – yn enwedig gyda’r CV, technegau cyfweld, dull cyflwyno a hyder.
“Roedd hi’n anodd ar brydiau ond hefyd yn brofiad arbennig o dda. Roedd teulu ifanc gyda fi ar y pryd – roedd fy mhlant yn 4 a 6 pan ddechreuais – felly roedd ffitio’r astudiaethau o gwmpas fy ymrwymiadau teuluol a’r gwaith yn dasg, ond roedd fy nhiwtoriaid yn cydymdeimlo ac yn deall bod y cwrs ddim yn flaenoriaeth i mi drwy’r amser. Roedd rhai misoedd pan oedd hi’n teimlo’n amhosib i astudio, er enghraifft yn ystod gwyliau ysgol, ond roedd fy ngwraig yn gefnogol tu hwnt a bydden ni’n cynllunio’r penwythnosau mewn ffordd a oedd yn fy ngalluogi i astudio. Roedd cymorth fy nheulu yn allweddol ond derbyniais gymorth hefyd oddi wrth grŵp astudio a luniwyd gyda rhai o fy nghydweithwyr. Bydden ni’n rhannu llyfrau ac adnoddau ac aros ar ôl y gwaith am ryw awr i drafod gwahanol agweddau ar ein prosiectau. Roedd y cynllunio’n allweddol, fel roedd cefnogaeth gan reolwyr, cydweithwyr a fy nheulu.
“Gwnaeth y tiwtoriaid argraff dda iawn arna i hefyd. Roedd gyda nhw i gyd lawer o brofiad yn y gweithle – roedd gyda nhw ddealltwriaeth ymarferol dda iawn ac roedd popeth a wnaethon ni yn gysylltiedig â’r gwaith.
“Mwynheais gymryd amser bant o fy ngweithle arferol yn fawr iawn yn ogystal, a chael cyfle i gwrdd â gwahanol bobl o ddiwydiannau eraill ac ennill safbwynt gwahanol. Roedd hi’n wych i ryngweithio gyda phobl o gefndiroedd gwahanol a bod yn rhan o gylch cymheiriaid mor amrywiol.
“Roedd yn brofiad da iawn iawn, a byddwn i’n argymell astudio drwy’r dull hwn yn fawr iawn. Unwaith bod y cymhwyster gyda chi, all neb fynd ag ef ymaith.”
I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau a gynigir gan Academi Cymru ar gyfer Arfer Proffesiynol ac Ymchwil Cymhwysol PCYDDS, ewch i https://uwtsd.ac.uk/cy/acapyc/ os gwelwch yn dda.
Mae Sarah Haggett yn Bennaeth ar Ysgol Gynradd Craig yr Hesg ym Mhontypridd – rhan Ffederasiwn Fern - ac ar hyn o bryd, mae wrthi’n astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Ymarfer Proffesiynol gydag Academi Cymru ar gyfer Arfer Proffesiynol ac Ymchwil Cymhwysol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Yn ogystal ag astudio ar gyfer radd MA, mae Sarah hefyd wedi annog nifer o aelodau eraill o’i staff i wella eu sgiliau trwy astudio gyda'r Academi.
“I mi, roedd yn bwysig iawn gallu astudio yn y math yma o ffordd oherwydd fy mod yn fam sy’n gweithio’n llawn amser mewn rôl arwain ac mae wedi caniatáu hyblygrwydd imi allu cyfuno fy astudiaethau a pharhau â'm gwaith heb effeithio ar y naill neu'r llall,” meddai Sarah.
“Caniataodd i mi ddull hyblyg o ddatblygu fy nysgu proffesiynol fy hun a pharhau i gael rhywfaint o gydbwysedd bywyd a gwaith. Mae'r cyfle i ddatblygu fel ymarferydd myfyriol ac arweinydd wedi bod yn fuddiol iawn i mi ac i'r rhai o'm cwmpas - rwyf wedi gwirioni.
“Fel Ffederasiwn Fern, rydym wedi ymrwymo’n fawr i ddysgu proffesiynol,” atega Sarah. “Mae pob aelod o staff yn yr ysgol - ni waeth beth yw eu rôl neu gyfrifoldeb - wedi cael cyfle i ymgymryd â'r dull dysgu hwn - p'un a yw hynny'n Gynorthwywyr Cymorth Dysgu sy'n cael y cyfle i wneud cwrs gradd neu athrawon a Chynorthwywyr Cymorth Dysgu sydd eisoes wedi cael graddau israddedig ac yn penderfynu ymgymryd â gradd Meistr.”
I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau a gynigir yn Academi Cymru ar gyfer Arfer Proffesiynol ac Ymchwil Cymhwysol yn y Drindod Dewi Sant, ewch i https://uwtsd.ac.uk/cy/acapyc/