Ein partneriaid, ein dysgwyr
Sut rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chyflogwyr
- Achredu datblygiad staff mewnol cyfredol
- Cynllunio a chyflwyno rhaglenni wedi’u teilwra’n arbennig
- Cynnig dysgu hyblyg, cyfunol sy’n ymateb i alw
- Achredu dysgu blaenorol drwy brofiad a dysgu tystysgrifedig (APEL)
- Cyflwyno ac asesu’n ddwyieithog (Cymraeg)
- Cynnig modylau a ariennir yn llawn (rheolau cymhwyster yn berthnasol)
- Cynnig gwasanaeth ymgynghori
- Cynnig cyrsiau byr
Gyda phwy rydyn ni’n gweithio:
- Rydyn ni’n gweithio gyda’r:
- Sector Cyhoeddus
- Sector Preifat
- Trydydd Sector
- Dysgwyr unigol (mewn gwaith cyflogedig neu wirfoddol)
Hyd yn hyn mae dros gant o sefydliadau wedi defnyddio ein modylau fel rhan o’r rhaglen Dysgu Seiliedig ar Waith a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. O blith y sefydliadau hyn, mae dros 300 o ddysgwyr wedi astudio gyda ni. Enghreifftiau o’n gwaith gyda chyflogwyr: -