Mae’n bleser mawr gan Academi Cymru ar gyfer Arfer Proffesiynol ac Ymchwil Cymhwysol gyhoeddi’i thrydedd Gynhadledd undydd ar Hyfforddi a Mentora yn y Gweithle.
Hyfforddi a Mentora mewn Newid Hinsawdd - Gwybodaeth ar y Digwyddiad
Dyddiad: 27th Mehefin 2023
Amser: 09:30 tan 16:30
Lleoliad: Y Drindod Dewi Sant, Adeilad IQ, Heol y Brenin, Abertawe SA1 8EW
SIARADWYR A GWEITHDAI CYNHADLEDD UWTSD
Bydd y gynhadledd yn canolbwyntio ar: Hyfforddi a Mentora mewn Hinsawdd o Newid.
Bydd hyn yn rhoi cyfle rhagorol i glywed gan ymarferwyr arbenigol a chyfle i gymryd rhan mewn gweithdai diddorol ac eglurhaol.
Yn rhan o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mae gan yr Academi gefndir cryf mewn hwyluso datblygiad hyfforddwyr a mentoriaid ar gyfer y gweithle ac mae’n bleser mawr ganddi estyn gwahoddiad i ymarferwyr, arweinwyr fel hyfforddwyr/mentoriaid, ymchwilwyr Meistr/Doethuriaeth a’n cyn-fyfyrwyr a’r rheini sy’n prynu hyfforddiant, i rannu arfer gorau ac ymchwil yn y maes.
Cynigir cyfraniadau mewn sesiynau cyfochrog ar themâu Hyfforddi a Mentora mewn Hinsawdd o Newid. Bydd y cyflwyniadau drwy gyfrwng gweithdai, arddangosiadau perfformio ac arfer.
Bydd y gynhadledd hon hefyd yn cynnal digwyddiad rhwydweithio ar gyfer Cymdeithas Hyfforddi’r Academi, canolbwynt Cymru gyfan ar gyfer arfer gorau hyfforddi a mentora.
Cewch eich annog i gofnodi eich adfyfyrio o’r diwrnod, i ddechrau neu barhau gyda dyddlyfr adfyfyrio sy’n cefnogi datblygiad parhaus fel hyfforddwr a/neu fentor.
Manylion Archebu Cynadleddau
Mae Cofrestru Cynadledda Adar Cynnar nawr ar agor!
Cofrestru a thalu gyda cherdyn Cofrestru a thalu trwy anfoneb
£175 – Tocyn Cynnar i’r Gynhadledd – archebwch cyn 12 Mai
£199 – Tocyn y Gynhadledd Hyfforddi
£150 – Tocyn â Disgownt i Archebion Grŵp 5 neu ragor am £150 y pen
£75 – Tocyn i Aelod o’r Gymdeithas Hyfforddi / Myfyriwr y Drindod Dewi Sant / Staff y Drindod Dewi Sant
£100 – Tocynnau Academi Cymru
£250 – Stondin Arddangos y Gynhadledd yn cynnwys un tocyn am ddim anfonwch e-bost i coaching@uwtsd.ac.uk
Am wybodaeth ynglŷn â phreifatrwydd - Polisi Preifatrwydd a Chwcis.