Doethuriaethau a Gynigiwn
Mae gan yr Academi enw da yn rhyngwladol am addysg ddoethurol a chynllunio effaith hynny ar yr ymgeisydd a’i weithle.
Mae ein prif ddarlithwyr, yr Athro Stephen Palmer, Dr Annette Fillery-Travis a Dr Christine Davies ymhlith yr ymchwilwyr mwyaf cynhyrchiol a ddyfynnir yn aml ym maes hyfforddi, mentora, seicoleg hyfforddi, straen a llesiant, dysgu proffesiynol, addysg ddoethurol, e-ddysgu a newid sefydliadol, gan gynnal ar yr un pryd ffocws cywir ar anghenion eu hymgeiswyr doethuriaeth
Roedd eu cyn-fyfyrwyr yn cynnwys arweinwyr meddwl ym maes hyfforddi a mentora, megis: Dr Alison Hodge, Dr Lise Lewis, Dr Catherine Carr, Dr Jacqueline Peters a Dr Stephen Bardon.
Darpara’r Academi dîm goruchwylio penodedig ar gyfer pob ymgeisydd doethurol sy’n gallu cynnig gwybodaeth flaengar yn eich maes. Gwnawn hyn drwy wneud defnydd o ddarlithwyr ategol o Brifysgolion o bob rhan o’r byd fel y gall eich tîm goruchwylio roi’r cyngor gorau i chi.
Rhesymau dros ddod atom ni i wneud eich doethuriaeth
- Mae gennym brofiad helaeth o oruchwylio a chyfradd gwblhau glodwiw wrth i ni ymdrin â phob ymgeisydd fel unigolyn aeddfed sydd â galwadau sylweddol ar ei amser
- Mae ein hymgeiswyr yn cyfarfod â’i gilydd yn rheolaidd yn ystod y ddwy flynedd gyntaf a’r tu hwnt. Rydym yn eu hannog i greu cymuned sy’n cefnogi eu gwaith
- Rydym yn darparu rhaglen lawn o weithdai ac asesiadau sy’n canolbwyntio ar ddarparu’r hyn sydd ei angen arnoch er mwyn gwneud eich ymchwil
- Caiff ein hymgeiswyr gymorth i gyhoeddi a chyflwyno mewn cynadleddau. Yn 2019, cyhoeddodd y gymuned dysgwyr DProf dri llyfr ac annerch mewn nifer o gynadleddau.
- Caiff eich panel goruchwylio ei ffurfio ar gyfer eich anghenion chi a gall/bydd yn cynnwys academyddion o Brifysgolion eraill os mai nhw yw’r mwyaf addas ar gyfer eich gwaith (wedi ei gynnwys yn eich ffioedd)
- Caiff eich astudiaethau eu holrhain yn ofalus yn ganolog fel y gallwch fod yn hapus eich bod yn gwneud cynnydd da.
- Mae gennych bwyllgor staff/ ymgeiswyr sy’n caniatáu i chi ddod ag unrhyw anawsterau neu gyfleoedd anacademaidd ger bron y staff er mwyn mynd i’r afael â nhw’n gyflym.
Yn yr Academi, chi sy’n rheoli eich taith ddoethurol fel y gallwch fod yn hyderus y bydd eich profiad yn caniatáu i chi gyflawni eich dyheadau a chael yr effaith a ddymunwch.
Mae dau lwybr tuag at eich doethuriaeth, gan ddibynnu ar eich gweledigaeth a’ch anghenion - y ddoethuriaeth broffesiynol a’r PhD. Arweinia’r naill a’r llall at yr un canlyniad o ran ymchwil uchel ei ansawdd, ond mae’r llwybr at y ddau yn wahanol a bydd yn gweddu i wahanol fathau o ymchwil a dyheadau gan fyfyrwyr. Fel rhan o’n cyswllt cychwynnol, byddwn yn cymryd peth amser i ystyried gyda chi pa ddoethuriaeth fyddai orau o ran yr hyn yr hoffech ei gyflawni.
I drafod eich dyheadau a’ch anghenion, cysylltwch â Dr Christine Davies ar christine.davies@uwtsd.ac.uk i wneud apwyntiad ar gyfer trafodaeth gychwynnol am wybodaeth.