Gwasanaethau Achredu

Proses Achredu’r Academi

Mae’r Brifysgol, trwy’r Academi, yn darparu ar gyfer achredu dysgu allanol a datblygu rhaglenni mewn dau gyd-destun:

  1. rhaglenni dysgu a datblygu mewnol cyflogwyr
  2. achredu rhaglenni dysgu a datblygu masnachol

Mae achredu’n caniatáu i ddysgwyr ar y cyrsiau hyn ennill Credyd Cyffredinol am gwblhau’r cwrs yn llwyddiannus er na wnaethant ddilyn y cwrs yn y Brifysgol.  Yna gallant ddefnyddio’r credyd hwn tuag at radd a thrwy hynny leihau’r gwaith a’r gost o ennill cymwysterau israddedig, ôl-raddedig neu ddoethuriaeth. Mae’r achrediad hefyd yn rhoi’r hyder i’r dysgwyr fod y cwrs maen nhw wedi bod yn ei ddilyn yn bodloni safonau a thrylwyredd academaidd.

Mae opsiwn hefyd i gydweithio gyda’r Brifysgol i ddarparu gradd neu raglen lawn ar gyfer eich dysgwyr.

Os hoffech archwilio sut y gallai achredu weithio i’ch dysgwyr a’ch sefydliad chi, cysylltwch ag M.OConnor@uwtsd.ac.uk, ein Harweinydd Achredu. Bydd yn trefnu sgwrs gychwynnol i adolygu’r opsiynau gorau i’ch anghenion chi. 

Edrychwn ymlaen at weithio gyda chi!