programmes banner

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth eang o ddyfarniadau dysgu seiliedig ar waith ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig trwy ei Fframwaith Arfer Proffesiynol arloesol sydd wedi ennill sawl gwobr.

I ddarganfod mwy, ymunwch â'n gweminarau ar y 4ydd o Ragfyr am 12.30yp. Ebostiwch wappar@pcydds.ac.uk i gofrestru a derbyn y ddolen i ymuno.

Nod y Fframwaith Arfer Proffesiynol yw cynnig cyfleoedd dysgu sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr, gyda’r cyfleoedd hynny’n rhai hygyrch, hyblyg a chynhwysol. Yn fwy na dim, ei fwriad yw bodloni anghenion cyflogwyr a gweithwyr fel ei gilydd. Ym mhob achos, cyfunir astudiaeth academaidd â dysgu yn y gweithle er mwyn ichi gael y wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau perthnasol i allu gwella eich perfformiad yn y gwaith ac ennill cymhwyster academaidd.

Os hoffech ennill cymhwyster academaidd mewn Arfer Proffesiynol, byddwch yn gweithio gydag Ymgynghorydd Rhaglen a fydd yn rhoi arweiniad i chi ac yn gweithio gyda chi i ddatblygu cynllun dysgu i ennill y credydau sydd eu hangen arnoch tuag at eich cymhwyster. Ar gyfer pob cymhwyster bydd angen cwblhau modwl Prosiect Dysgu Seiliedig ar Waith. Dewis arall fyddai astudio modwl sy’n berthnasol i’ch anghenion datblygu cyfredol (gweler tudalennau manylion y cwrs am ragor o wybodaeth).

Mae pob un o’n modylau yn archwilio testun trwy gyfuniad o sesiynau addysgu, astudio annibynnol ac ymchwil. Trwy gwblhau modwl yn llwyddiannus enillir credydau ar y lefel briodol.

Sut i wneud cais

Teitl y Cwrs: Tystysgrif Addysg Uwch mewn Arfer Proffesiynol

Cod y Cwrs: CERTHE-PT

Lefel y cwrs: 4

Nifer y credydau: 120

Dull astudio llawn amser neu ran amser: Rhan amser

Hyd y cwrs mewn blynyddoedd: 2 flynedd

Hyd y cwrs mewn diwrnodau (cyfanswm y diwrnodau cyswllt):  12 diwrnod a addysgir, ynghyd â thiwtorialau

Y gost yw £3600. (Mae hyn yn amrywio gan fod rhai dysgwyr yn cyflwyno cais i achredu dysgu blaenorol neu ddysgu drwy brofiad ar gyfradd yn is am bob credyd.)

FdA Arfer Proffesiynol

Teitl y Cwrs: Gradd Sylfaen mewn Arfer Proffesiynol

Cod y Cwrs: FDEG-PT

Lefel y cwrs: 4/5

Nifer y credydau: 120 ar lefel 4 a 120 ar lefel 5 = 240

Dull astudio llawn amser neu ran amser: Rhan amser

Hyd y cwrs mewn blynyddoedd: 4 blynedd

Hyd y cwrs mewn diwrnodau (cyfanswm y diwrnodau cyswllt):  24 diwrnod a addysgir, ynghyd â thiwtorialau

Y gost yw £7200. (Mae hyn yn amrywio gan fod rhai dysgwyr yn cyflwyno cais i achredu dysgu blaenorol neu ddysgu drwy brofiad ar gyfradd yn is am bob credyd.)

Teitl y Cwrs: BA (Anrh) Arfer Proffesiynol

Cod y Cwrs: BA-PT

Lefel y cwrs:   4/5/6

Nifer y credydau: 120 ar lefel 4, 120 ar lefel 5 a 120 ar lefel 6 = 360

Dull astudio llawn amser neu ran amser: Rhan amser

Hyd y cwrs mewn blynyddoedd: 6 blynedd

Hyd y cwrs mewn diwrnodau (cyfanswm y diwrnodau cyswllt):  36 diwrnod a addysgir, ynghyd â thiwtorialau

Cyfanswm cost y rhaglen gyfan, gyda dolen i’r dudalen lle mae’r  ffi hon i’w gweld ar wefan YDDS: Y gost yw £10800. (Mae hyn yn amrywio gan fod rhai dysgwyr yn cyflwyno cais i achredu dysgu blaenorol neu ddysgu drwy brofiad ar gyfradd yn is am bob credyd.)

Tystysgrif Raddedig mewn Arfer Proffesiynol

Teitl y Cwrs: Tystysgrif Raddedig mewn Arfer Proffesiynol

Cod y Cwrs: GCERT-PT

Lefel y cwrs: 6

Nifer y credydau: 60

Dull astudio llawn amser neu ran amser: Rhan amser

Hyd y cwrs mewn blynyddoedd: 2 flynedd

Hyd y cwrs mewn diwrnodau (cyfanswm y diwrnodau cyswllt):  6 diwrnod, ynghyd â thiwtorialau

Y gost yw £1800. (Mae hyn yn amrywio gan fod rhai dysgwyr yn cyflwyno cais i achredu dysgu blaenorol neu ddysgu drwy brofiad ar gyfradd yn is am bob credyd.)

Teitl y Cwrs: Diploma Graddedig mewn Arfer Proffesiynol

Cod y Cwrs: GDIP-PT

Lefel y cwrs: 6

Nifer y credydau: 120

Dull astudio llawn amser neu ran amser: Rhan amser

Hyd y cwrs mewn blynyddoedd: 3 blynedd

Hyd y cwrs mewn diwrnodau (cyfanswm y diwrnodau cyswllt):  12 diwrnod a addysgir, ynghyd â thiwtorialau

Y gost yw £3600. (Mae hyn yn amrywio gan fod rhai dysgwyr yn cyflwyno cais i achredu dysgu blaenorol neu ddysgu drwy brofiad ar gyfradd yn is am bob credyd.)

Mae'r rhaglenni hyn yn amodol ar ailddilysu. 

Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Arfer Proffesiynol

Teitl y Cwrs: Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Arfer Proffesiynol

Cod y Cwrs: PGCERT-PT

Lefel y cwrs: 7

Nifer y credydau: 60

Dull astudio llawn amser neu ran amser: Rhan amser

Hyd y cwrs mewn blynyddoedd: 2 flynedd

Hyd y cwrs mewn diwrnodau (cyfanswm y diwrnodau cyswllt):  6 diwrnod, ynghyd â thiwtorialau

Cyfanswm oriau dysgu dan arweiniad (dyma gyfanswm yr oriau cyswllt dan arweiniad tiwtor ac nid yw’n cynnwys amser astudio annibynnol tybiannol): 60

Y gost yw £1800. (Mae hyn yn amrywio gan fod rhai dysgwyr yn cyflwyno cais i achredu dysgu blaenorol neu ddysgu drwy brofiad ar gyfradd yn is am bob credyd.)

Teitl y Cwrs: Diploma Ôl-raddedig mewn Arfer Proffesiynol

Cod y Cwrs: PGDIP-PT

Lefel y cwrs: 7

Nifer y credydau: 120

Dull astudio llawn amser neu ran amser: Rhan amser

Hyd y cwrs mewn blynyddoedd: 3 blynedd

Hyd y cwrs mewn diwrnodau (cyfanswm y diwrnodau cyswllt):  12 diwrnod a addysgir, ynghyd â thiwtorialau

Cyfanswm oriau dysgu dan arweiniad (dyma gyfanswm yr oriau cyswllt dan arweiniad tiwtor ac nid yw’n cynnwys amser astudio annibynnol tybiannol): 120

Y gost yw £3600. (Mae hyn yn amrywio gan fod rhai dysgwyr yn cyflwyno cais i achredu dysgu blaenorol neu ddysgu drwy brofiad ar gyfradd yn is am bob credyd.)

Teitl y Cwrs: MA mewn Arfer Proffesiynol

Cod y Cwrs: MA-PT

Lefel y cwrs: 7

Nifer y credydau: 180

Dull astudio llawn amser neu ran amser: Rhan amser

Hyd y cwrs mewn blynyddoedd: 2 flynedd

Hyd y cwrs mewn diwrnodau (cyfanswm y diwrnodau cyswllt):  18 yn cynnwys tiwtorialau

Y gost yw £5400. (Mae hyn yn amrywio gan fod rhai dysgwyr yn cyflwyno cais i achredu dysgu blaenorol neu ddysgu drwy brofiad ar gyfradd yn is am bob credyd.)

Teitl y Cwrs: MA mewn Hyfforddi a Mentora

Cod y Cwrs: MA-CME-PT