
Hafan YDDS - Sefydliadau ac Academïau - Academi Cymru ar gyfer Arfer Proffesiynol ac Ymchwil Cymhwysol - Staff - Julie Crossman
Julie Crossman MA (PDET); CMgr
Darlithydd Mentor
Ffôn: 01792 225178
E-bost: julie.crossman@uwtsd.ac.uk
Ymchwilio i fodiwlau academaidd a’u cynllunio a’u darparu a gweithredu fel mentor i ddysgwyr, gan ddarparu arweiniad a chefnogaeth gyda, er enghraifft, sgiliau ysgrifennu academaidd a magu hyder.
Mae gan Julie ddeng mlynedd o brofiad fel Hyfforddwr Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn AB, lle bu hefyd yn brif Sicrhawr Ansawdd Mewnol ar gyfer y gyfres o gymwysterau’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM). Roedd ei chyfrifoldebau yn cynnwys llunio a darparu rhaglenni dysgu a datblygu mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth, Hyfforddi a Mentora a Hyfforddi’r Hyfforddwr proffesiynol. Mae ei rolau rheolaethol blaenorol wedi cynnig profiad mewn sectorau galwedigaethol amrywiol gan gynnwys darparwr hyfforddiant preifat a’r diwydiant manwerthu.
- Rheolwr Siartredig gyda CMI (CMgr),
- Aelod o’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (MInstLM);
- Ymarferwr ITA NLP (Academi Hyfforddwyr Ryngwladol NLP)
Diddordeb mawr mewn sut gall unigolion feithrin hunanymwybyddiaeth ac adeiladu ar sgiliau ‘meddal’ mewn perthynas â datblygu gallu i arwain a rheoli. Diddordeb hefyd mewn profion seicometrig a sut gall hyn wella dealltwriaeth bersonol, hyder a medrusrwydd yn y gweithle. Yn olaf, rydw i'n cefnogi unigolion drwy gyfrwng technegau hyfforddi a mentora i hwyluso twf personol a gwybodaeth
Mae’r diddordebau’n cynnwys profion seicometrig, deallusrwydd emosiynol a rhaglenni niwro-ieithyddol.
- Hyfforddi a mentora.
- Datblygiad proffesiynol.
- Ymchwilio i raglenni dysgu seiliedig ar waith ar draws amrywiaeth o feysydd pwnc arweinyddiaeth a rheolaeth, a’u cynllunio a’u darparu.