Rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon TAR
Caiff nifer y lleoedd sydd ar gael ar gyfer rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon TAR eu pennu gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn. Golyga hyn y gall nifer y lleoedd amrywio a gall y gystadleuaeth amdanynt fod yn frwd. Fe’ch cynghorir i wneud cais mor gynnar â phosibl i gael y cyfle gorau i gael lle.
Dylech wneud cais am eich rhaglen TAR ar-lein trwy borth Hyfforddi Athrawon UCAS. Mae’r broses gwneud cais yn agor ar ganol mis Hydref ('Apply 1') bob blwyddyn. Yn 'Apply 1’ byddwch yn gallu gwneud cais am hyd at 3 gwahanol gwrs/ddarparwr. Fel arfer, mae ‘Apply 1’ yn cau ym mis Ionawr (er gall rhai darparwyr gau ynghynt), a dyma pryd y mae’n rhaid ichi wneud cais drwy ‘Apply 2’. Yn ystod ‘Apply 2’ dim ond am un cwrs/darparwr ar y tro y cewch wneud cais.
Wrth i chi baratoi eich cais, cadwch y canlynol mewn cof:
- Peidiwch â rhuthro eich cais. Gan eich bod yn gwneud cais i fod yn athro, mae’n bwysig eich bod yn sicrhau bod popeth wedi'i lenwi'n gywir. Gallwch arbed eich gwaith wrth i chi fynd drwy’r ffurflen gais a dod nôl iddo ar unrhyw adeg.
- Cysylltwch â’ch canolwyr ymlaen llaw fel y bydd ganddynt amser i baratoi geirda ar eich cyfer – ni allwch gyflwyno cais i ni drwy UCAS nes i ni gael eich geirdaon.
- Yn eich datganiad personol, ceisiwch ddangos eich ymrwymiad i fod yn athro; eich cariad at eich pwnc, a’r wybodaeth a dealltwriaeth sydd gennych am addysg trwy unrhyw brofiad dosbarth rydych wedi ymgymryd ag ef.
- Mae rhai cyrsiau, yn arbennig y TAR Cynradd, yn boblogaidd iawn a gallent lenwi’n gyflym, a hynny'n aml yn ystod ffenestr 'Apply 1'. Am y rheswm hwn, fe’ch cynghorir i wneud eich cais cyn gynted â phosibl.
Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais, gall y broses symud yn eithaf cyflym. Rhaid i bob darparwr ymateb gyda phenderfyniad o fewn 40 diwrnod gwaith ac os cynigir lle i chi, bydd gennych 10 diwrnod gwaith i wneud penderfyniad.
Cam nesaf y broses gwneud cais yn Y Drindod Dewi Sant yw mynychu cyfweliad lle bydd gofyn ichi wneud prawf llythrennedd a rhifedd byr. Mae’r profion hyn yn ofynnol i bob ymgeisydd.
Cwestiynau Cyffredin
Y ffi yw £9,000, ac mae benthyciadau ffioedd dysgu ar gael gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr ac ar hyn o bryd gall myfyrwyr o Gymru gael cymhorthdal o £5,100 tuag at y ffi.
Oes. Mae Grant Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon Llywodraeth Cymru ar gael ar gyfer rhai pynciau/llwybrau. Bob blwyddyn, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi pa bynciau sy’n gymwys a’r symiau sydd ar gael. Gall y bwrsariaethau hyn amrywio ond fel arfer fe’u cynigir ar gyfer pynciau â blaenoriaeth ac ar gyfer graddau anrhydedd dosbarth cyntaf. Fel arfer, gwneir y cyhoeddiad ym mis Chwefror bob blwyddyn.
Mae’r Athrofa hefyd yn cynnig bwrsariaethau, a chewch y manylion yma Ysgoloriaethau ac Bwrsariaethau 2018/19.
Ysgoloriaeth Ôl-raddedig Yr Athrofa
Meini prawf y dyfarniad
Ar gael i ddinasyddion y DU / UE sydd wedi cwblhau gradd israddedig llawn amser neu rhan amser ac yn gwneud cais i ymgymryd ag un o’r arbenigeddau a ganlyn ar y TAR Uwchradd yn Y Drindod Dewi Sant:
- Bioleg
- Cemeg
- Ffiseg
- TGCh
- Dylunio a Thechnoleg
(12 dyfarniad ar gael)
Rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd B mewn TGAU Saesneg a Mathemateg a gradd C mewn Gwyddoniaeth
Swm y dyfarniad
Hyd at £750
Proses gwneud cais
Ffurflen gais
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Awst 1af
Cysylltwch â champws Abertawe:
Sharon Alexander
ebost: sharon.alexander@uwtsd.ac.uk
Ffôn: 01792 481123
Dosberthir y grantiau gan y Brifysgol ar ran Llywodraeth Cymru. Byddwch yn cwblhau'r gwaith papur gofynnol wrth ichi gofrestru ac fe gewch y fwrsariaeth mewn naw rhandal misol a fydd yn dechrau ar ddiwedd Hydref ac yn parhau nes mis Mai, gyda rhandal dwbl ym mis Mehefin.
Gallwch. Er enghraifft, os oes gennych chi’r cymwysterau iawn i fod yn gymwys i ymuno â’r Rhaglen TAR Uwchradd Cymraeg, ond mae eich gradd dosbarth gyntaf mewn Hanes, byddech yn dal i fod yn gymwys i gael y Grant HAC a roddir i fyfyrwyr sy’n ymgymryd â phwnc ‘blaenoriaeth uchel’. (Cyn hired ag y bydd Cymraeg yn parhau yn ‘bwnc blaenoriaeth uchel’).
Mae’r ysgolion partneriaeth yn datblygu a darparu’r rhaglenni ar y cyd â’r brifysgol ac maent yn deall y gofynion ar gyfer bodloni Statws Athro Cymwysedig. Golygu hyn na chewch chi drefnu eich lleoliad ysgol eich hun a byddwn yn gwneud hyn ar eich cyfer. Byddwn yn ystyried eich lleoliad a'ch amgylchiadau wrth drefnu lleoliadau, er enghraifft, os nad oes gennych gar fe fyddem yn gwneud ein gorau i'ch rhoi chi mewn ysgol sydd ar lwybr bws y gallwch ei gyrraedd.
Na, ni fyddwm yn eich lleoli mewn ysgol y mae gennych gysylltiad â hi yn barod. Mae hyn yn cynnwys ysgolion rydych wedi astudio ynddynt, neu wedi bod ar brofiad gwaith ynddi neu mae aelod o'ch teulu'n gweithio neu astudio.
Mae’r cwrs TAR yn rhaglen astudio proffesiynol dwys iawn. Yn y brifysgol, gallwch ddisgwyl bod mewn dosbarthiadau o 9am-5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Yn ystod eich profiad addysgu proffesiynol, bydd disgwyl i chi fod yn yr ysgol drwy gydol y diwrnod ysgol. Hefyd, efallai y bydd gofyn ichi gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol eich ysgol fel nosweithiau rhieni a chyfarfodydd staff. O ganlyniad i’r oriau hir hyn a’r amser rydym yn argymell ichi ei dreulio’n paratoi ac adfyfyrio, nid ydym yn argymell eich bod yn gweithio’n rhan amser yn rhywle arall hefyd.
Mae’r broses gwneud cais ar gyfer rhaglenni TAR yn wahanol i un graddau israddedig. Golyga hyn nad oes yna ddyddiad cau penodol ar gyfer ceisiadau Mae gan bob rhaglen nifer penodol o leoedd y mae’n gallu eu cynnig. Unwaith y bydd yr holl gynigion hynny wedi’u gwneud, bydd ceisiadau ar gyfer y rhaglen honno’n cau. Gall hyn ddigwydd mor gynnar â mis Ionawr ar gyfer rhaglenni poblogaidd iawn, gall rhai eraill a chanddynt fwy o leoedd barhau i fod ar agor i geisiadau newydd drwy gydol y flwyddyn. Byddwch yn gallu chwilio am gyrsiau a chanddynt leoedd gwag ar wefan Hyfforddiant Athrawon UCAS.