Prawf Cyfwerthedd TGAU
Er mwyn cwblhau rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) yng Nghymru, rhaid bod gan bob darpar athro y cymwysterau perthnasol. Mae hyn yn cynnwys o leiaf y canlynol:
- Gradd B neu uwch mewn:
- TGAU Iaith Saesneg
- NEU Lenyddiaeth Saesneg
- NEU Iaith Gymraeg
- NEU Lenyddiaeth Gymraeg ynghyd â Gradd C neu uwch mewn TGAU Iaith Gymraeg/Saesneg.
A
- Gradd B neu uwch mewn:
- TGAU Mathemateg
- NEU TGAU Rhifedd
Ar gyfer TAR Cynradd gyda SAC yn unig:
- Gradd C mewn Gwyddoniaeth
Beth yw Profion Cyfwerthedd TGAU?
Os oes gennych radd C mewn TGAU Iaith Saesneg neu Fathemateg ac yn llwyddo agweddau eraill ar y broses ddethol, cewch gynnig ar yr amod eich bod yn cwblhau'r cwrs/cyrsiau cyfwerthedd. Mae'r un peth yn berthnasol mewn Gwyddoniaeth os oes gennych radd D mewn TGAU ar hyn o bryd. Nid yw'r radd cyfwerthedd yn drosglwyddadwy i sefydliadau eraill.
A oes modd i mi gael fy nerbyn heb gymhwyster cyfatebol?
Oes, byddwch yn gallu cymryd rhan mewn gweithdai cyfwerthedd cyn neu yn ystod y rhaglen. Fodd bynnag, rhaid i chi basio'r prawf cyfatebol er mwyn parhau ar y cwrs.
Mae gen i gymhwyster uwch. Oes angen i mi gael cyfwerthedd o hyd?
Caiff eich sefyllfa'n ei hystyried fesul achos. Cysylltwch â TeacherEd@uwtsd.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth.
Pa fath o gymorth bydda i'n ei gael?
Byddwn yn darparu deunyddiau ategol i chi a bydd gweithdy(ai) ar-lein gyda'ch tiwtor(iaid) ar gael i'ch helpu i baratoi.
Beth os nad ydw i'n llwyddo?
Byddwn yn darparu cymorth ychwanegol ac os bydd angen, gallwch ail-sefyll eich arholiad.
Faint mae'n ei gostio?
Caiff holl ddeunyddiau'r cwrs eu darparu a'r gweithdai eu cynnwys yn eich ffioedd.
Hoffwn i ddysgu mwy
Cysylltwch â TeacherEd@uwtsd.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth.